- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) a Chychwyn Rhif 4 (Cymru) (Diwygio)) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965(1); ac
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym ar 20 Medi 2017—
(a)adran 20(1) (edrych ar wybodaeth); a
(b)adran 21(1) (copïau swyddogol).
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym at bob diben sy’n weddill ar 20 Medi 2017—
(a)adran 20(2) a (3) (edrych ar wybodaeth); a
(b)adran 21(2) a (3) (copïau swyddogol).
4.—(1) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 20(1) ac 21(1) o Ddeddf 2006 at gofrestr o dir comin neu feysydd tref neu bentref, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymryd fel pe baent yn gyfeiriadau at gofrestr o’r fath a gynhelir o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf 1965.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae adrannau 20 ac 21 o Ddeddf 2006 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymhwyso fel pe bai, yn adran 61(2)(b) o Ddeddf 2006, “sections 1 and 3 of the Commons Registration Act 1965” wedi ei roi yn lle’r geiriau “Part 1 of this Act”.
5.—(1) Gydag effaith o 20 Medi 2017, mae Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 3 ychwaneger—
4.—(1) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, at gofrestr o dir comin neu feysydd tref neu bentref, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymryd fel pe baent yn gyfeiriadau at gofrestr o’r fath a gynhelir o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf 1965.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymhwyso fel pe bai, yn adran 61(2)(b) o Ddeddf 2006, “sections 1 and 3 of the Commons Registration Act 1965” wedi ei roi yn lle’r geiriau “Part 1 of this Act”.”
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Medi 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: