- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
14 Mehefin 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Mehefin 2017
Yn dod i rym
19 Mehefin 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(2).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU(3) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 19 Mehefin 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “amrywogaeth” (“variety”) yw grŵp o blanhigion o fewn tacson botanegol unigol o’r rheng isaf sy’n wybyddus y gellir—
ei ddiffinio drwy fynegi’r priodoleddau sy’n deillio o genoteip penodol neu gyfuniad o genoteipiau;
gwahaniaethu rhyngddo ac unrhyw grŵp arall o blanhigion drwy fynegi o leiaf un o’r priodoleddau hynny; ac
ystyried ei fod yn endid yn sgil y ffaith y gellir ei luosogi yn ddigyfnewid;
ystyr “archwiliad swyddogol” (“official examination”) yw archwiliad neu arolygiad a gynhelir gan arolygydd, gan gynnwys un a gynhelir ar ffurf sampl;
ystyr “ardystio” (“certification”) yw ardystio deunyddiau planhigion yn unol â rheoliad 9 ac mae “ardystiedig” (“certified”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “arolygiad gweledol” (“visual inspection”) yw archwiliad o blanhigion neu rannau o blanhigion mewn cyfleusterau, caeau a lotiau, gan arolygydd neu, pan fo’n briodol, y cyflenwr, gan ddefnyddio’r llygad noeth, lens, stereosgop neu ficrosgop;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir o dan reoliad 16;
ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am ansawdd deunyddiau planhigion yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y deunyddiau planhigion;
ystyr “cyflenwr” (“supplier”) yw unrhyw berson sy’n ymwneud yn broffesiynol ag atgynhyrchu, cynhyrchu, cadw, trin, mewnforio neu farchnata deunyddiau planhigion;
ystyr “deunyddiau ardystiedig” (“certified material”) yw unrhyw ddeunyddiau lluosogi neu blanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu planhigion ffrwythau—
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir yng Nghymru, a ardystiwyd fel deunyddiau ardystiedig yn unol â rheoliad 9;
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir y tu allan i Gymru, a ardystiwyd fel deunyddiau ardystiedig gan awdurdod cyfrifol yn unol ag Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
ystyr “deunyddiau CAC” (“CAC material”)—
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir yng Nghymru, yw deunyddiau a phlanhigion sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer deunyddiau CAC yn Atodlen 1;
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir y tu allan i Gymru, yw deunyddiau a phlanhigion sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer deunyddiau CAC yn Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
ystyr “deunyddiau cyn-sylfaenol” (“pre-basic material”) yw deunyddiau lluosogi a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol neu ardystiedig—
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir yng Nghymru, a ardystiwyd fel deunyddiau cyn-sylfaenol yn unol â rheoliad 9;
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir y tu allan i Gymru, a ardystiwyd fel deunyddiau cyn-sylfaenol gan awdurdod cyfrifol yn unol ag Erthyglau 3 neu 4 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
ystyr “deunyddiau lluosogi” (“propagating material”) yw hadau, rhannau o blanhigion a phob deunydd planhigion, gan gynnwys gwreiddgyffion, a fwriedir ar gyfer lluosogi a chynhyrchu planhigion ffrwythau;
ystyr “deunyddiau planhigion” (“plant material”) yw’r planhigion a’r deunyddiau a ddisgrifir yn rheoliad 4;
ystyr “deunyddiau planhigion ardystiedig” (“certified plant material”) yw deunyddiau planhigion a ardystiwyd (yn ôl y digwydd) fel deunyddiau cyn-sylfaenol, deunyddiau sylfaenol neu ddeunyddiau ardystiedig;
ystyr “deunyddiau sylfaenol” (“basic material”) yw deunyddiau lluosogi a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau ardystiedig—
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir yng Nghymru, a ardystiwyd fel deunyddiau sylfaenol yn unol â rheoliad 9;
mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir y tu allan i Gymru, a ardystiwyd fel deunyddiau sylfaenol gan awdurdod cyfrifol yn unol ag Erthygl 15 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
mae “diffygion” (“defects”) yn cynnwys anafiadau, afliwiad, meinweoedd creithiol neu ddysychiad sy’n effeithio ar ansawdd a defnyddioldeb planhigyn tarddiol neu ddeunyddiau planhigion fel deunyddiau lluosogi;
ystyr “disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol” (“officially recognised description”) yw disgrifiad o nodweddion morffolegol allweddol sy’n galluogi’r amrywogaeth i gael ei hadnabod;
ystyr “disgrifiad swyddogol” (“official description”) yw’r disgrifiad o amrywogaeth a ddarperir er mwyn—
cofrestru fel amrywogaeth; neu
rhoi hawliau amrywogaeth planhigion;
ystyr “dogfen y cyflenwr” (“supplier’s document”) yw dogfen sy’n mynd gyda deunyddiau CAC ac sy’n bodloni gofynion Rhan 2 o Atodlen 2;
ystyr “hawliau amrywogaeth planhigion” (“plant variety rights”) yw hawliau a roddir o dan—
Rhan 1 o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997(4);
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2100/94 ar hawliau amrywogaeth planhigion y Gymuned(5); neu
deddfwriaeth ddomestig mewn gwledydd neu diriogaethau, ac eithrio’r rhai sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig, sy’n diogelu amrywogaethau planhigion yn unol ag UPOV;
ystyr “label swyddogol” (“official label”)—
ar gyfer deunyddiau planhigion ardystiedig a gynhyrchir yng Nghymru, yw label a ddyroddwyd neu a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 10(2);
ar gyfer deunyddiau planhigion ardystiedig a gynhyrchir y tu allan i Gymru, yw label a ddyroddwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y deunyddiau planhigion ac sy’n bodloni, fel y bo’n briodol i’r deunyddiau planhigion y mae’r label yn ymwneud â hwy, ofynion Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/96/EU;
ystyr “lot” (“lot”) yw nifer o unedau o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad;
ystyr “microluosogi” (“micropropagation”) yw lluosogi deunyddiau planhigion er mwyn cynhyrchu nifer mawr o blanhigion, gan ddefnyddio meithriniad in vitro o flagur llystyfol gwahaniaethol neu feristemau llystyfol gwahaniaethol a gymerir o blanhigyn;
ystyr “planhigyn ffrwythau” (“fruit plant”) yw planhigyn y bwriedir iddo gael ei blannu neu ei ailblannu, ar ôl ei farchnata;
ystyr “planhigyn tarddiol” (“mother plant”) yw planhigyn a adnabyddir a fwriedir ar gyfer ei luosogi;
ystyr “planhigyn tarddiol ardystiedig” (“certified mother plant”) yw planhigyn tarddiol a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau ardystiedig;
ystyr “planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol” (“pre-basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau cyn-sylfaenol;
ystyr “planhigyn tarddiol sylfaenol” (“basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol;
ystyr “rhewgadw” (“cryopreservation”) yw cynnal deunyddiau planhigion drwy eu hoeri i dymereddau isel iawn er mwyn cadw’r deunyddiau’n hyfyw;
ystyr “rhydd rhag diffygion i bob pwrpas” (“practically free from defects”) yw bod diffygion sy’n debygol o amharu ar ansawdd a defnyddioldeb y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau, yn bresennol ar lefel sy’n gyfwerth â’r lefel, neu’n is na’r lefel, y disgwylir iddi ddeillio o arferion tyfu a thrin da, a bod y lefel honno yn gyson ag arferion tyfu a thrin da;
ystyr “y tu allan i Gymru” (“outside Wales”) yw unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru neu unrhyw Aelod-wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig;
ystyr “UPOV” (“UPOV”) yw’r Undeb Rhyngwladol dros Ddiogelu Amrywogaethau Newydd o Blanhigion(6).
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Cyfarwyddeb 2000/29/EC” (“Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau diogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu hymlediad o fewn y Gymuned(7);
ystyr “Cyfarwyddeb 2008/90/EC” (“Directive 2008/90/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau(8);
ystyr “Cyfarwyddeb 2014/96/EU” (“Directive 2014/96/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/96/EU ar y gofynion ar gyfer labelu, selio a phecynnu deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau, sydd o fewn cwmpas Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC(9);
ystyr “Cyfarwyddeb 2014/97/EU” (“Directive 2014/97/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/97/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran cofrestru cyflenwyr ac amrywogaethau a’r rhestr gyffredin o amrywogaethau(10);
ystyr “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” (“Directive 2014/98/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol ar gyfer genws a rhywogaeth planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol(11).
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Atodiadau I, II, III, IV neu V i Gyfarwyddeb 2014/98/EU yn gyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
4.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlanhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi o’r genera a’r rhywogaethau a restrir yn Atodlen 3 a’u cymysgrywiau.
(2) Maent hefyd yn gymwys mewn perthynas â rhannau o blanhigion, gan gynnwys gwreiddgyffion, o genera neu rywogaethau eraill a’u cymysgrywiau os yw, neu os bydd, deunyddiau o blanhigion ffrwythau a restrir yn Atodlen 3 (neu unrhyw gymysgryw o blanhigion ffrwythau o’r fath) yn cael eu himpio arnynt.
(3) Nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â deunyddiau planhigion y bwriedir iddynt gael eu hallforio o Gymru i unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ar yr amod bod y deunyddiau planhigion yn cael eu hadnabod felly ac yn cael eu hynysu’n ddigonol.
5.—(1) Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion onid yw—
(a)y cyflenwr wedi ei gofrestru yn unol â rheoliad 11; a
(b)y deunyddiau planhigion yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i’r deunyddiau planhigion—
(a)bod yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig neu’n ddeunyddiau CAC;
(b)bod yn amrywogaeth y caniateir ei marchnata yn unol â rheoliad 7;
(c)cael eu marchnata gan gyfeirio at yr amrywogaeth y mae’r deunyddiau planhigion yn perthyn iddi yn unol â rheoliad 8;
(d)mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig, cael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â rheoliad 10; ac
(e)mewn perthynas â deunyddiau CAC, mynd gyda dogfen y cyflenwr.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata deunyddiau planhigion o unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd os ydynt wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion wedi eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i’r gofynion ar gyfer deunyddiau planhigion yn y Rheoliadau hyn.
(4) Mae paragraff (3) yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2018.
6. Nid yw rheoliad 5(1)(b) yn gymwys i farchnata deunyddiau planhigion a fwriedir ar gyfer—
(a)treialon neu at ddibenion gwyddonol;
(b)gwaith dethol;
(c)mesurau sydd â’r nod o warchod amrywiaeth enetig.
7.—(1) Mae deunyddiau planhigion o amrywogaeth y caniateir ei marchnata os yw’r amrywogaeth yn bodloni un neu ragor o ofynion paragraff (2).
(2) Rhaid i’r amrywogaeth—
(a)bod wedi cael hawliau amrywogaeth planhigion;
(b)bod yn gofrestredig fel amrywogaeth;
(c)bod yn destun cais am—
(i)hawliau amrywogaeth planhigion; neu
(ii)ei chofrestru fel amrywogaeth;
(d)bod wedi ei marchnata cyn 30 Medi 2012 o fewn yr Undeb Ewropeaidd a bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; neu
(e)mewn perthynas ag amrywogaethau sydd o ddim gwerth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol sy’n cael eu marchnata o fewn y Deyrnas Unedig—
(i)bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; a
(ii)bod yn ddeunyddiau CAC.
(3) Rhaid i gyflenwr sy’n marchnata deunyddiau planhigion o amrywogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(e) sicrhau bod dogfen y cyflenwr yn mynd gyda’r deunyddiau planhigion, yn datgan eu bod yn cael eu marchnata yn unol ag ail baragraff Erthygl 7(2) o Gyfarwyddeb 2008/90/EC.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cofrestredig fel amrywogaeth” (“registered as a variety”) (ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny) yw—
(a)cofrestru fel amrywogaeth yng Nghymru yn unol ag Atodlen 4; neu
(b)cofrestru fel amrywogaeth y tu allan i Gymru gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad neu’r diriogaeth yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2014/97/EU.
8. Caiff deunyddiau planhigion eu marchnata gan gyfeirio at eu hamrywogaeth, os cânt eu marchnata, mewn perthynas ag—
(a)amrywogaeth o ddeunyddiau planhigion sy’n destun cais am roi hawliau amrywogaeth planhigion, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;
(b)amrywogaeth gofrestredig, drwy gyfeirio at ei henw cofrestredig;
(c)amrywogaeth sy’n destun cais am gofrestriad o’r fath, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;
(d)gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, drwy gyfeirio at y rhywogaeth briodol neu’r cymysgryw rhyngrywiogaethol priodol.
9.—(1) Os bodlonir gofynion paragraff (2), rhaid i arolygydd—
(a)ardystio bod deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru—
(i)yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol;
(ii)yn ddeunyddiau sylfaenol; neu
(iii)yn ddeunyddiau ardystiedig;
(b)dyroddi tystysgrif sy’n cadarnhau’r ardystiad (tystysgrif arolygu cnwd).
(2) Y gofynion yw y canfuwyd, mewn archwiliad swyddogol, fod y deunyddiau planhigion yn cydymffurfio â’r gofynion ardystio a nodir yn narpariaethau perthnasol Atodlen 5.
(3) Rhaid i gais am ardystio deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
(4) Mae label swyddogol a ddyroddir yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol fod arolygydd wedi ardystio bod deunyddiau planhigion y mae’r label swyddogol yn ymwneud â hwy yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig.
10.—(1) Rhaid i ddeunyddiau planhigion ardystiedig, a gaiff eu marchnata, gael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi neu gymeradwyo label (label swyddogol) os yw’r label hwnnw yn bodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 2.
(3) Ond nid oes angen i label a ddefnyddir wrth gyflenwi deunyddiau planhigion ardystiedig i’w manwerthu i ddefnyddiwr olaf nad yw’n broffesiynolyn, ond gynnwys gwybodaeth briodol am y cynnyrch, gan gynnwys enw’r awdurdod cyfrifol, enw neu rif cofrestru’r cyflenwr, yr enw botanegol ac enw’r amrywogaeth.
(4) Rhaid i label swyddogol fod ynghlwm wrth y deunyddiau planhigion ardystiedig.
(5) Pan fo deunyddiau planhigion ardystiedig yn rhan o’r un lot ac yn cael eu marchnata mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, rhaid rhoi label swyddogol ynghlwm wrth y pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
(6) Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo pasbort planhigion a ddyroddir yn unol â Chyfarwyddeb 2000/29/EC, sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn mynd gyda deunyddiau planhigion ardystiedig.
(7) Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion ardystiedig mewn lotiau o ddau neu ragor o blanhigion neu rannau o blanhigion oni bai bod y lotiau hynny yn ddigon cydryw ac wedi eu pecynnu’n briodol.
(8) At ddibenion paragraff (7), ystyr “wedi eu pecynnu’n briodol” yw bod y planhigion neu’r rhannau o blanhigion—
(a)mewn pecyn neu gynhwysydd sydd wedi ei selio mewn modd sy’n atal y pecyn neu’r cynhwysydd rhag cael ei agor heb ddifrodi’r caead neu wneud y label swyddogol yn annilys; neu
(b)yn rhan o fwndel sydd wedi ei glymu yn y fath fodd fel na ellir gwahanu’r planhigion neu’r rhannau o blanhigion sy’n rhan o’r bwndel heb ddifrodi’r cwlwm neu’r clymau.
11.—(1) Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion oni bai ei fod wedi ei gofrestru fel cyflenwr gan Weinidogion Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i gyflenwyr nad ydynt ond yn marchnata deunyddiau planhigion i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn broffesiynolion.
(3) Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gofrestru cyflenwr os ydynt wedi eu bodloni y bydd y person hwnnw yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r cyflenwr—
(a)am benderfyniad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (4) o fewn 28 o ddiwrnodau i wneud y penderfyniad hwnnw; a
(b)pan benderfynir cofrestru’r cyflenwr, am ei rif cofrestru.
(6) Mae person a oedd, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn gofrestredig fel cyflenwr yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 2010(12) yn gofrestredig at ddibenion y rheoliad hwn.
(7) Mae person sy’n gofrestredig fel masnachwr planhigion yn unol â Rhan 4 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(13) yn gofrestredig at ddibenion y rheoliad hwn.
(8) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol, drwy hysbysiad—
(a)addasu cofrestriad cyflenwr; neu
(b)dirymu neu atal dros dro gofrestriad cyflenwr os ydynt wedi eu bodloni—
(i)bod y cyflenwr wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn; neu
(ii)nad yw’r cyflenwr yn gweithredu fel cyflenwr mwyach.
(9) Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall, mae dirymiad neu ataliad dros dro o dan baragraff (8)(b) yn cael effaith ar unwaith ac yn parhau i gael effaith oni bai bod y cofrestriad yn cael ei adfer.
12.—(1) Caiff cyflenwr a dramgwyddir gan benderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â’i gofrestru o dan reoliad 11(4) neu i addasu, i ddirymu neu i atal dros dro ei gofrestriad o dan reoliad 11(8), o fewn 21 o ddiwrnodau i gael ei hysbysu am y penderfyniad, apelio yn ei erbyn i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ac, o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael yr apêl neu’r sylwadau (pa un bynnag sydd hwyraf) adrodd yn ysgrifenedig, gan argymell camau gweithredu, i Weinidogion Cymru.
(3) Wedi hynny rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad terfynol a hysbysu’r apelydd, a rhoi’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.
13.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o gyflenwyr cofrestredig.
(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y cyflenwr;
(b)pa rai o blith y gweithgareddau a restrir ym mharagraff (3) y mae’r cyflenwr yn ymwneud â hwy;
(c)y genera neu’r rhywogaethau o dan sylw;
(d)cyfeiriad y fangre lle cyflawnir y gweithgaredd;
(e)rhif cofrestru’r cyflenwr.
(3) At ddibenion paragraff (2)(b), y gweithgareddau yw atgynhyrchu, cynhyrchu, cadw, trin, mewnforio neu farchnata deunyddiau planhigion.
(4) Rhaid i gyflenwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol am unrhyw newid i’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2)(a) i (d).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr, neu unrhyw ran ohoni, yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru.
14.—(1) Rhaid i gyflenwr sy’n ymwneud â chynhyrchu deunyddiau planhigion fod â chynllun yn ei le i nodi ac i fonitro pwyntiau critigol wrth gynhyrchu’r deunyddiau planhigion hynny.
(2) Rhaid i’r cynllun gynnwys manylion ynghylch—
(a)lleoliad y planhigion a’u niferoedd;
(b)amseru’r tyfu;
(c)gweithrediadau lluosogi;
(d)gweithrediadau pecynnu, storio a chludo.
15.—(1) Rhaid i gyflenwr gadw cofnodion o—
(a)unrhyw werthiant neu bryniant deunyddiau planhigion;
(b)pob danfoniad deunyddiau planhigion i fangre’r cyflenwr ac ohoni;
(c)unrhyw fonitro ar bwyntiau critigol wrth gynhyrchu’r deunyddiau planhigion hynny;
(d)cyfansoddiad a tharddiad unrhyw ddeunyddiau planhigion o darddiadau gwahanol a gymysgir gan y cyflenwr wrth eu pecynnu, eu storio neu eu cludo neu wrth eu danfon;
(e)yr holl ddeunyddiau planhigion sy’n cael eu cynhyrchu yn ei fangre;
(f)arolygiadau maes a gwaith samplu a phrofi a gynhelir mewn perthynas â deunyddiau planhigion o dan ei reolaeth; ac
(g)unrhyw achosion o’r canlynol yn ei fangre—
(i)unrhyw un neu ragor o’r organeddau neu’r clefydau a restrir yn Rhan A o Atodiad I, ac yn Atodiad II, i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
(ii)deunyddiau planhigion sy’n uwch na’r lefelau goddefiant yng ngholofn berthnasol y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU; a
(iii)organedd niweidiol a restrir yn yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 2000/29/EC.
(2) Rhaid i’r cofnodion y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gael eu cadw am 3 blynedd o leiaf.
16.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi arolygwyr at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Mae gan arolygydd y pwerau a nodir yn y Rhan hon o’r Rheoliadau.
17.—(1) At ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn, mae gan arolygydd y pŵer, drwy ddangos awdurdodiad wedi ei ddilysu’n briodol, i fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd preifat) ar unrhyw adeg resymol drwy roi hysbysiad rhesymol.
(2) Ond nid yw’r gofyniad i roi hysbysiad yn angenrheidiol—
(a)pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;
(b)pan fo gan arolygydd amheuaeth resymol o fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn;
(c)mewn argyfwng.
(3) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd ar y tir hwnnw neu i’r fangre honno at ddiben gorfodi’r Rheoliadau hyn; a
(b)y bodlonir unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4).
(4) Yr amodau yw—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;
(c)bod angen mynediad ar fyrder;
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(5) Mae gwarant yn ddilys am dri mis.
(6) Caiff arolygydd sy’n mynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre fynd ag unrhyw berson (hyd at gyfanswm o 4 o bersonau), cyfarpar, deunyddiau neu gerbyd gydag ef y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion y rheoliad hwn.
(7) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.
18.—(1) Pan fo arolygydd yn arfer y pŵer a roddir gan reoliad 17, caiff yr arolygydd—
(a)agor unrhyw gynhwysydd;
(b)cynnal unrhyw chwiliadau, arolygiadau, mesuriadau a phrofion;
(c)cymryd samplau;
(d)gweld, ac arolygu, unrhyw lyfrau, dogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn a mynd â hwy oddi yno i’w gwneud yn bosibl eu copïo;
(e)tynnu llun o unrhyw beth neu gopïo unrhyw beth y mae gan yr arolygydd y pŵer i’w gwneud yn ofynnol ei ddangos o dan is-baragraff (d);
(f)tynnu llun o unrhyw beth y mae gan yr arolygydd achos rhesymol i gredu y gallai fod yn berthnasol mewn cysylltiad â gorfodi’r Rheoliadau hyn;
(g)ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron ac offer cysylltiedig at ddiben copïo dogfennau ar yr amod y’u dychwelir cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(2) Caiff unrhyw berson sy’n mynd gydag arolygydd yn unol â’r rheoliad hwn gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r arolygydd, ond dim ond o dan oruchwyliaeth yr arolygydd hwnnw.
19. Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i unrhyw berson, ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r cyfryw wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad ar y cyfryw ffurf a bennir ynddo ac o fewn y cyfryw gyfnod ar ôl cyflwyno’r hysbysiad neu ar y cyfryw adeg a bennir ynddo.
20. Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i unrhyw berson, wahardd y person hwnnw rhag symud deunyddiau planhigion o unrhyw fangre pan fo gan yr arolygydd sail resymol dros amau bod y deunyddiau planhigion yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.
21.—(1) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy’n torri, neu y mae gan yr arolygydd sail resymol dros amau y gallai dorri, y Rheoliadau hyn—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw weithredu yn unol â’r Rheoliadau (“hysbysiad gorfodi”);
(b)yn gwahardd y person hwnnw rhag gweithredu’n groes iddynt (“hysbysiad gwahardd”).
(2) Rhaid i’r hysbysiad roi’r rhesymau dros ei gyflwyno ac, os yw hynny’n briodol, bennu pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd a rhoi terfynau amser.
22.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad o dan y Rhan hon apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon, y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(14) fydd yn gymwys i’r achos.
(3) Y cyfnod erbyn pryd y mae’n rhaid dwyn apêl yw 28 o ddiwrnodau o’r adeg y cyflwynwyd yr hysbysiad neu, yn achos hysbysiad gorfodi, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, pa un bynnag sy’n diweddu gynharaf.
(4) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan y Rhan hon ddatgan—
(a)bod hawl i apelio i lys ynadon;
(b)o fewn pa gyfnod y caniateir dwyn apêl o’r fath.
(5) Pan ddygir apêl o dan y rheoliad hwn, caiff y llys naill ai ganslo neu gadarnhau’r hysbysiad, ac os yw’n cadarnhau’r hysbysiad, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda’r addasiadau hynny y mae’n meddwl eu bod yn briodol.
23. Rhaid cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Rhan hon ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw iddo ac, oni chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu cydymffurfiaeth ag ef ar draul y person hwnnw.
24.—(1) Mae’n drosedd i berson—
(a)methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan—
(i)rheoliad 19 (hysbysiad gwybodaeth);
(ii)rheoliad 20 (hysbysiad gwahardd symud);
(iii)rheoliad 21(1)(a) (hysbysiad gorfodi);
(iv)rheoliad 21(1)(b) (hysbysiad gwahardd);
(b)heb esgus rhesymol, fethu â rhoi unrhyw gymorth y gall person ofyn amdano er mwyn i’r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c)rhwystro arolygydd yn fwriadol wrth iddo arfer unrhyw bwerau a roddwyd gan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn atebol, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
25.—(1) Os profir bod trosedd a gyflawnwyd o dan y Rheoliadau hyn gan gorff corfforaethol—
(a)wedi cael ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
bydd y swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os rheolir materion corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli’r aelod fel pe bai’r aelod yn gyfarwyddwr i’r corff.
(3) Ym mharagraff (1) ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.
26. O ran hysbysiad neu awdurdodiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau;
(c)caniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu drwy hysbysiad.
27.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw drefniadau gydag unrhyw berson (“A”) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at ddiben galluogi A i gyflawni mesurau swyddogol o dan y Rheoliadau hyn ar ran Gweinidogion Cymru.
(2) Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniant o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y trefniant yn gwneud darpariaeth at ddiben atal unrhyw berson rhag—
(a)cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan y trefniant; a
(b)cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys mewn unrhyw drefniant y cyfryw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2), gan gynnwys amodau—
(a)sy’n pennu—
(i)y mesurau swyddogol y mae’n rhaid i A eu cyflawni;
(ii)y dulliau i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(iii)y ffioedd y caiff A eu codi mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(iv)y cofnodion y mae’n rhaid i A eu cadw mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(b)sy’n gwahardd A rhag—
(i)codi ffioedd mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A o dan y trefniant ac eithrio i’r graddau nad yw’r ffioedd yn uwch na’r costau y mae A yn mynd iddynt wrth eu cyflawni;
(ii)cyflawni’r mesurau swyddogol ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol;
(c)sy’n gwahardd A rhag gwneud unrhyw drefniant pellach gydag unrhyw berson arall (“B”) at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae A wedi gwneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru i’w cyflawni, oni bai—
(i)bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo holl amodau’r trefniant pellach a bod A wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw i wneud y trefniant pellach;
(ii)bod y trefniant pellach yn cynnwys amod sy’n gwahardd B rhag gwneud unrhyw drefniadau dilynol at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud y trefniant gydag A mewn cysylltiad â hwy;
(iii)bod y trefniant pellach yn cynnwys cydnabyddiaeth gan A y caiff Gweinidogion Cymru amrywio, ddirymu neu atal dros dro y trefniant pellach os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw B yn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r trefniant pellach, neu bod B wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau hynny; a
(iv)bod y trefniadau pellach yn cynnwys yr amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r paragraff hwn, ac at y dibenion hyn mae cyfeiriadau yn yr is-baragraffau hynny at A i’w dehongli fel cyfeiriadau at B, ac mae cyfeiriadau at “y trefniant” i’w dehongli fel cyfeiriadau at y trefniant pellach.
(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo gwneud unrhyw drefniant pellach o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni na fydd B—
(a)yn cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol y mae B i gael ei awdurdodi i’w cyflawni o dan y trefniant pellach;
(b)yn cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant pellach ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad i A neu B (yn ôl y digwydd), amrywio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw drefniant neu drefniant pellach, neu unrhyw amodau trefniant neu amodau trefniant pellach a wneir o dan y rheoliad hwn.
(6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) bennu—
(a)mewn cysylltiad ag amrywiad neu ddirymiad, y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dirymiad yn cael effaith;
(b)mewn cysylltiad ag atal dros dro, y cyfnod pryd y mae’r atal dros dro yn cael effaith.
(7) Pan fydd amrywiad, dirymiad neu ataliad dros dro yn cael effaith, caiff Gweinidogion Cymru, at unrhyw ddibenion mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, barhau i roi sylw i’r cyfryw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan drefniant (neu drefniant pellach) a gafodd ei amrywio, ei ddirymu neu ei atal dros dro yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn fesurau swyddogol a gyflawnir yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae “mesurau swyddogol” yn cynnwys archwiliadau swyddogol, treialon tyfu, profion ac asesiadau.
28.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo deunyddiau planhigion yn cael eu cynhyrchu o riant-blanhigyn a oedd yn bodoli cyn 19 Mehefin 2017.
(2) Caiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion o’r fath os yw—
(a)y rhiant-blanhigyn yn bodloni unrhyw ofynion ardystio neu ofynion CAC sy’n berthnasol iddo o dan Reoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 2010; a
(b)dogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda hwy, neu’r label swyddogol sydd ynghlwm wrthynt, yn cynnwys cyfeiriad at Erthygl 32 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhiant-blanhigyn” yw planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig neu ddeunyddiau CAC.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2022.
29. Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 2010(15) wedi eu dirymu o ran Cymru.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2017
Rheoliad 2
1.—(1) Ni chaniateir marchnata deunyddiau CAC (ac eithrio gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth) oni bai eu bod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau CAC—
(a)yn cael eu lluosogi o ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig a gofnodir gan y cyflenwr;
(b)yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn unol â pharagraff 3;
(c)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4; a
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5.
(3) Pan na fo deunyddiau CAC yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr eu symud ymaith o gyffiniau deunyddiau CAC eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y deunyddiau hynny yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) eto.
2.—(1) Ni chaniateir marchnata deunyddiau CAC sy’n cynnwys gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth oni bai eu bod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau CAC—
(a)yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’u rhywogaeth;
(b)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4; ac
(c)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5.
(3) Pan na fo deunyddiau CAC yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr eu symud ymaith o gyffiniau deunyddiau CAC eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y deunyddiau hynny yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) eto.
3.—(1) Rhaid i gyflenwr gadarnhau gwirdeiprwydd deunyddiau CAC mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn unol â’r paragraff hwn, a gwirhau’r gwirdeiprwydd hwnnw yn rheolaidd.
(2) Gwneir hynny drwy arsylwi ar y mynegiad o nodweddion amrywogaeth, a bod yr arsylwi ar sail un o’r elfennau a ganlyn—
(a)ei disgrifiad swyddogol;
(b)y disgrifiad sy’n mynd gyda chais i gofrestru;
(c)y disgrifiad sy’n mynd gyda chais am hawliau amrywogaeth planhigion;
(d)pan fo’r amrywogaeth wedi ei chofrestru â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, neu’n destun cais i gofrestru â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, y disgrifiad hwnnw.
4.—(1) Rhaid i’r deunyddiau CAC fod yn rhydd i bob pwrpas rhag y plâu a restrir yn Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Caiff hyn ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr neu, pan fo amheuaeth, drwy waith samplu a phrofi.
(3) Rhaid cyflawni arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.
(4) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i ddeunyddiau CAC yn ystod rhewgadw.
(5) O ran deunyddiau CAC sy’n perthyn i’r rhywogaeth Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf—
(a)rhaid eu cynhyrchu o ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig y canfuwyd ei bod, drwy waith samplu a phrofi, yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y rhywogaethau hynny; a
(b)ers dechrau’r cylch llystyfiant diwethaf, rhaid bod wedi canfod, drwy arolygiad gweledol ac unrhyw waith samplu a phrofi, eu bod yn rhydd i bob pwrpas rhag y plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y rhywogaethau o dan sylw.
(6) Yn y paragraff hwn, ystyr “rhydd i bob pwrpas rhag y plâu” yw bod y graddau y mae plâu yn bresennol ar y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn ddigon isel i sicrhau bod y deunyddiau lluosogi o ansawdd a defnyddioldeb derbyniol.
5.—(1) Rhaid i ddeunyddiau CAC fod yn rhydd rhag diffygion i bob pwrpas.
(2) Caiff hyn ei gadarnhau ar sail arolygiad gweledol.
(3) Mae anafiadau, afliwiad, meinweoedd creithiol neu ddysychiad yn cael eu hystyried yn ddiffygion, os ydynt yn effeithio ar ansawdd a defnyddioldeb deunyddiau CAC fel deunyddiau lluosogi.
Rheoliad 2
1. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn gyda llinell groeslinol fioled.
2. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn.
3. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau ardystiedig fod wedi ei liwio’n las.
4. O ran label swyddogol—
(a)ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;
(b)rhaid iddo gynnwys y datganiad “EU rules and standards”;
(c)rhaid iddo ddatgan y manylion a ganlyn—
(i)enw’r awdurdod cyfrifol neu fyrfodd neilltuol yr awdurdod hwnnw;
(ii)enw’r cyflenwr neu rif cofrestru’r cyflenwr;
(iii)rhif y dystysgrif arolygu cnwd;
(iv)enw botanegol y deunyddiau planhigion;
(v)categori’r deunyddiau planhigion (deunyddiau cyn-sylfaenol, deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC) ac, ar gyfer deunyddiau sylfaenol, rhif y cenhedliad;
(vi)enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;
(vii)yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;
(viii)yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;
(ix)ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (vi) a (viii);
(x)pan fo’n briodol, y geiriau “variety with an officially recognised description”,
(xi)swm y deunyddiau planhigion;
(xii)os nad yng Nghymru, enw’r wlad lle y’u cynhyrchwyd a chod neu fyrfodd priodol y wlad honno;
(xiii)blwyddyn dyroddi’r label, neu yn achos label sy’n disodli label arall, blwyddyn dyroddi’r label gwreiddiol;
(xiv)yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—
(aa)datganiad bod yr amrywogaeth wedi ei haddasu’n enetig; a
(bb)rhestr o’r organeddau a addaswyd yn enetig.
5. Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion sy’n ofynnol ar label swyddogol gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u ddarllen.
6. Caiff label swyddogol gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
7. Yn y Rhan hon, ystyr “rhif y dystysgrif arolygu cnwd” yw’r rhif a roddir i’r dystysgrif arolygu cnwd gan yr arolygydd ar adeg dyroddi’r dystysgrif.
8. Rhaid i ddogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC—
(a)cynnwys y datganiadau “EU rules and standards” a “CAC material”; a
(b)datgan y manylion a ganlyn—
(i)enw neu fyrfoddau neilltuol yr awdurdod cyfrifol a’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;
(ii)rhif cofrestru’r cyflenwr;
(iii)y rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu’r rhif swp unigol;
(iv)enw botanegol y deunyddiau planhigion;
(v)enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;
(vi)yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;
(vii)yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;
(viii)ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (v) a (vii);
(ix)y swm;
(x)y wlad lle’u cynhyrchwyd a’i byrfoddau neilltuol pan fo’n wahanol i’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;
(xi)dyddiad dyroddi dogfen y cyflenwr.
9. Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn nogfen y cyflenwr gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen.
10. Caiff dogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC a gynhyrchir yng Nghymru gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Rheoliad 4
Genera a rhywogaethau | Enw cyffredin (er arweiniad yn unig) |
---|---|
Castanea sativa Mill. | Castanwydden bêr |
Citrus L. | yn cynnwys coed Grawnffrwyth, Lemwn, Leim, Mandarin ac Oren |
Corylus avellana L. | Collen |
Cydonia oblonga Mill. | Coeden gwins |
Ficus carica L. | Ffigysbren |
Fortunella Swingle | Coeden gymcwat |
Fragaria L. | Pob rywogaeth mefus a dyfir |
Juglans regia L. | Coeden cnau Ffrengig |
Malus Mill. | Coeden afalau |
Olea europaea L. | Olewydden |
Pistacia vera L. | Coeden bistasio |
Poncirus Raf. | Coeden orenau teirddeiliog |
Prunus armeniaca L. | Bricyllwydden |
Prunus avium (L.) L. | Coeden ceirios melys |
Prunus cerasus L. | Coeden ceirios duon |
Prunus domestica L. | Coeden eirin |
Prunus dulcis (Mill) D A Webb (a elwir fel arall yn Prunus amygdalus Batsch) | Coeden almon |
Prunus persica (L.) Batsch | Coeden eirin gwlanog |
Prunus salicina Lindley | Coeden eirin Siapan |
Pyrus L. | Pob math o goed gellyg bwytadwy a dyfir, gan gynnwys gellyg perai |
Ribes L. | Llwyn cyrens duon, eirin Mair, cyrens cochion a chyrens gwynion |
Rubus L. | Llwyn mwyar duon, mafon a mwyar cymysgryw |
Vaccinium L. | yn cynnwys llwyn llus America, llugaeron a llus |
Rheoliad 7(4)
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/18/EC” (“Directive 2001/18/EC”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddhau’n fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC(16);
ystyr “gwahanol” (“distinct”) yw bod yr amrywogaeth yn amlwg yn wahanol, oherwydd un neu ragor o nodweddion sy’n deillio o genoteip penodol neu gyfuniad o genoteipiau, i unrhyw amrywogaeth arall y mae ei bodolaeth yn hysbys i bawb ar adeg y cais i gofrestru yn amrywogaeth;
ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—
protocol a gyhoeddir gan Gyngor Gweinyddol Swyddfa Amrywogaethau Planhigion y Gymuned mewn perthynas â phrofion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd ar gyfer y genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw; neu
pan na fo protocol wedi ei gyhoeddi ar gyfer y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol, canllawiau a lunnir gan UPOV mewn perthynas â chynnal profion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd; neu
pan na fo’r protocolau a grybwyllir ym mharagraff (a) na’r canllawiau a grybwyllir ym mharagraff (b) yn bodoli, protocol neu ganllawiau a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion;
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003” (“Regulation (EC) No 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi eu haddasu’n enetig(17);
ystyr “sefydlog” (“stable”) yw bod nodweddion yr amrywogaeth, sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad o’r amrywogaeth, yn parhau yn ddigyfnewid ar ôl lluosogi mynych neu, yn achos microluosogi, ar ddiwedd pob cylch o’r fath;
ystyr “unffurf” (“uniform”), yn amodol ar yr amrywiadau y gellir eu disgwyl yn sgil nodweddion penodol ei lluosogi, yw bod yr amrywogaeth yn ddigon unffurf o ran y nodweddion hynny sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir i ddisgrifio’r amrywogaeth.
2.—(1) Rhaid i gais i gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais—
(a)unrhyw wybodaeth dechnegol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, fanylion y genws a’r rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddynt, ei henw cyffredin, manylion y ceisydd, ac enw, tarddiad a nodweddion yr amrywogaeth) sy’n ofynnol o dan brotocol priodol sy’n berthnasol i’r rhywogaeth;
(b)gwybodaeth ynghylch a yw’r amrywogaeth wedi ei chofrestru’n swyddogol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall, neu a yw’n destun cais cofrestru o’r fath;
(c)enw arfaethedig; a
(d)y cyfryw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo’n gymwys, caniateir i gais fynd gyda manylion disgrifiad swyddogol a bennir gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
3.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod yr amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
(b)bod sampl o’r amrywogaeth ar gael; ac
(c)mewn perthynas ag amrywogaethau a addaswyd yn enetig, fod yr organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru dderbyn bod amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog ar sail canlyniadau treialon tyfu yn unol â pharagraff 6.
(3) Nid yw’n ofynnol cynnal treialon tyfu pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gan y cais, fod disgrifiad swyddogol a bennir gan gorff swyddogol y tu allan i Gymru yn bodloni’r amodau cofrestru sy’n ofynnol gan is-baragraff (1).
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth sydd wedi ei marchnata o fewn yr Undeb Ewropeaidd cyn 30 Medi 2012 ar yr amod bod gan yr amrywogaeth ddisgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol.
4.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi cofrestr o amrywogaethau (“y gofrestr”).
(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn ar gyfer pob amrywogaeth gofrestredig—
(a)enw’r amrywogaeth a’i chyfystyron;
(b)y rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddi;
(c)y dynodiad ‘official description’ neu ‘officially recognised description’, fel y bo’n briodol;
(d)y dyddiad cofrestru neu, pan fo’n gymwys, ddyddiad adnewyddu’r cofrestriad;
(e)dyddiad dod i ben dilysrwydd y cofrestriad.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, mewn perthynas â phob amrywogaeth a gofrestrir, gadw ffeil sy’n cynnwys disgrifiad o’r amrywogaeth a chrynodeb o’r ffeithiau sy’n berthnasol i’w chofrestriad.
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw amrywogaeth y mae cynhyrchion sydd i’w defnyddio fel y pethau a ganlyn, neu yn y pethau a ganlyn, yn deillio ohoni—
(a)bwyd o fewn cwmpas Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu
(b)bwyd anifeiliaid o fewn cwmpas Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(2) Cyn cofrestru unrhyw amrywogaeth o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y bwyd neu’r bwyd anifeiliaid wedi ei awdurdodi yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(3) Pan fo’n ofynnol cynnal treial tyfu, rhaid cyflwyno sampl o ddeunyddiau’r amrywogaeth ar gais.
6.—(1) Caniateir cynnal treialon tyfu—
(a)gan Weinidogion Cymru;
(b)ar ran Gweinidogion Cymru yn unol â’r trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol a wneir o dan reoliad 27; neu
(c)gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
(2) Rhaid i dreialon tyfu—
(a)cadarnhau a yw amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog; a
(b)cael eu cynnal, o ran cynllun y treialon, yr amodau tyfu a nodweddion yr amrywogaeth o dan sylw, yn unol â’r protocol priodol.
7.—(1) Mae cofrestriad amrywogaeth yn ddilys—
(a)yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig, am y cyfnod y mae’r organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu
(b)fel arall hyd at ddiwedd y 30ain blwyddyn galendr ar ôl y dyddiad derbyn.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r cofrestriad—
(a)yn cael ei adnewyddu yn unol ag is-baragraff (3) neu (4) (fel y bo’n briodol);
(b)yn cael ei ddirymu yn unol â pharagraff 8.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru, ar sail cais ysgrifenedig, adnewyddu’r cofrestriad am gyfnod pellach o 30 o flynyddoedd—
(a)os yw’r amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
(b)os oes deunyddiau o’r amrywogaeth honno ar gael ar y farchnad.
(4) Yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—
(a)rhaid i unrhyw achos o adnewyddu cofrestriad fod yn ddarostyngedig i amod bod yr organedd a addaswyd yn enetig priodol yn parhau i fod wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003;
(b)rhaid i’r cyfnod adnewyddu fod yn gyfyngedig i gyfnod awdurdodi’r organedd a addaswyd yn enetig o dan sylw.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru adnewyddu’r cofrestriad heb gais ysgrifenedig os ydynt wedi eu bodloni bod adnewyddu yn gwarchod amrywiaeth enetig a chynhyrchu cynaliadwy.
8.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu cofrestriad amrywogaeth—
(a)os nad yw’n wahanol, yn unffurf neu’n sefydlog mwyach;
(b)os nad oes unrhyw ddeunydd o’r amrywogaeth honno ar gael mwyach sy’n ddigon unffurf neu sy’n cyfateb i’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar yr adeg y’i cofrestrwyd;
(c)os darparwyd gwybodaeth anwir neu gamarweiniol sy’n berthnasol i gofrestru i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais i gofrestru;
(d)yn achos unrhyw amrywogaeth a addaswyd yn enetig, os yw’r organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi ei gynnwys yn yr amrywogaeth yn peidio â bod yn awdurdodedig yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) i (c) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y dylai’r amrywogaeth barhau ar y gofrestr er budd gwarchod amrywiaeth enetig amrywogaethau.
Rheoliad 9
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “adnewyddu” (“renewal”) yw disodli planhigyn â phlanhigyn a gynhyrchir yn llystyfol ohono;
ystyr “arolygiad swyddogol” (“official inspection”) yw arolygiad gweledol a, phan fo’n briodol, gwaith samplu a phrofi a gyflawnir gan arolygydd yn unol â pharagraff 2;
ystyr “lluosi” (“multiplication”) yw atgynhyrchiad llystyfol planhigion er mwyn cael nifer digonol o blanhigion yn yr un categori;
ystyr “planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais” (“candidate pre-basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol y mae’r cyflenwr yn bwriadu iddo gael ei dderbyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol;
ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—
protocol a gyhoeddir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor mewn perthynas â’r gweithgarwch penodol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, waith samplu a phrofi neu luosi, adnewyddu a lluosogi, gan gynnwys drwy ficroluosogi, planhigion tarddiol) a’r genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw;
pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) yn bodoli, protocol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn perthynas â’r un materion; neu
pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) na (b) yn bodoli, protocol a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion.
2.—(1) Yn ystod arolygiad swyddogol, rhaid i arolygydd dalu sylw i—
(a)addasrwydd dulliau’r cyflenwr ar gyfer gwirio pob un o gamau allweddol y broses gynhyrchu, a’r defnydd o’r dulliau hynny;
(b)cymhwysedd cyffredinol staff y cyflenwr i gyflawni gwaith cynhyrchu neu atgynhyrchu deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau.
(2) Rhaid i arolygydd gadw cofnodion o ganlyniadau a dyddiadau pob arolygiad maes a’r holl waith samplu a phrofi a gyflawnir gan yr arolygydd hwnnw.
3.—(1) Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol a gwreiddgyffion) yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—
(a)yn cael eu lluosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—
(i)wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;
(ii)yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;
(b)wedi cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 8;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;
(e)pan fônt wedi eu hawdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael eu tyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;
(f)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.
(3) Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau lluosogi yn bodloni’r gofynion perthnasol yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(4) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
4.—(1) Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
(a)yn cael ei luosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—
(i)drwy luosogi llystyfol neu rywiol, ac yn achos lluosogi rhywiol, gan goed sy’n peillio (coed peillio) a gynhyrchir yn uniongyrchol drwy luosogi llystyfol o blanhigyn tarddiol;
(ii)wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;
(iii)yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;
(b)wedi cael ei wirhau o ran ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i amrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;
(e)pan fo wedi ei awdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael ei dyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;
(f)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.
(3) Pan na fo gwreiddgyff, sy’n blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’n ddeunyddiau cyn-sylfaenol, yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(4) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
5.—(1) Caniateir derbyn planhigyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau—
(a)cydymffurfedd â pharagraffau 7 i 12; a
(b)bod ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth yn cael ei gadarnhau yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i arolygydd gadarnhau gwirdeiprwydd y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth drwy arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth.
(3) Rhaid i’r arsylwi hwnnw fod yn seiliedig ar un o’r elfennau a ganlyn—
(a)y disgrifiad swyddogol ar gyfer amrywogaethau a gofrestrwyd mewn cofrestr amrywogaethau, ac ar gyfer amrywogaethau sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol gan hawliau amrywogaeth planhigion;
(b)y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau;
(c)y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion;
(d)y disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, os yw’r amrywogaeth sy’n ddarostyngedig i’r disgrifiad hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau.
(4) Pan fo is-baragraff (3)(b) neu (c) yn gymwys—
(a)ni chaniateir derbyn y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol oni bai bod adroddiad a luniwyd gan arolygydd neu awdurdod cyfrifol y tu allan i Gymru ar gael sy’n profi bod yr amrywogaeth briodol yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;
(b)hyd nes y cofrestrir yr amrywogaeth, ni chaniateir defnyddio’r planhigyn tarddiol o dan sylw a’r deunyddiau a gynhyrchir ohono ac eithrio ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol neu ddeunyddiau ardystiedig, ac ni chaniateir eu marchnata fel deunyddiau cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig.
(5) Pan fo ond yn bosibl cadarnhau gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar sail nodweddion planhigyn sy’n dwyn ffrwyth—
(a)rhaid cyflawni’r arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth ar ffrwythau planhigyn sy’n dwyn ffrwyth a luosogir o’r planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol; a
(b)rhaid cadw’r planhigion hynny sy’n dwyn ffrwyth ar wahân i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a’r deunyddiau cyn-sylfaenol.
(6) Rhaid cynnal arolygiad gweledol o blanhigion sy’n dwyn ffrwyth yn ystod y cyfnodau mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth amodau hinsoddol ac amodau tyfu planhigion o’r genera neu’r rhywogaethau o dan sylw.
(7) Yn y paragraff hwn—
ystyr “cofrestr amrywogaethau” (“register of varieties”) yw—
mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau yng Nghymru, y gofrestr a gynhelir yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 4;
mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau y tu allan i Gymru, y gofrestr a gynhelir yn unol ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb 2014/97/EU;
ystyr “planhigyn sy’n dwyn ffrwyth” (“fruiting plant”) yw planhigyn a luosogir o blanhigyn tarddiol ac a dyfir i gynhyrchu ffrwyth er mwyn caniatáu gwirhau hunaniaeth amrywogaethol y planhigyn tarddiol hwnnw.
6. Caiff arolygydd dderbyn gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw’n wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth ac os yw’n cydymffurfio â pharagraffau 8 i 12.
7.—(1) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, wirhau gwirdeiprwydd planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn rheolaidd, yn unol â pharagraff 5(2) a (3), fel y bo’n briodol i’r amrywogaeth o dan sylw a’r dull lluosogi a ddefnyddir.
(2) Yn ogystal â gwirhau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rheolaidd, rhaid i’r arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, ar ôl pob achos o adnewyddu planhigyn tarddiol, wirhau’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n deillio ohono.
8.—(1) Rhaid i gyflenwr—
(a)cynnal planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn cyfleusterau a ddynodir ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau o dan sylw, sy’n ddiogel rhag pryfed ac yn sicrhau eu bod yn rhydd rhag heintio gan fectorau a gludir yn yr awyr ac unrhyw ffynonellau posibl eraill drwy gydol y broses gynhyrchu;
(b)tyfu neu gynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol wedi eu hynysu oddi wrth y pridd, mewn potiau a labelir yn unigol sy’n cynnwys cyfrwng tyfu nad yw’n cynnwys pridd neu sy’n cynnwys cyfrwng tyfu diheintiedig;
(c)sicrhau bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn cael eu nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;
(d)cadw planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais o dan amodau sy’n ddiogel rhag pryfed, ac wedi eu hynysu yn gorfforol oddi wrth blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill yn y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a), hyd nes bod yr holl brofion o ran cydymffurfedd â pharagraff 9 wedi eu cwblhau.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn awdurdodi cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol (gan gynnwys planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais) a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, a chaiff Weinidogion Cymru wneud hynny os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi awdurdodi’r Deyrnas Unedig i wneud hynny o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
(b)bod y planhigion a’r deunyddiau wedi eu nodi â labeli sy’n sicrhau y gellir eu holrhain; ac
(c)y cymerir camau priodol i atal heintio’r planhigion a’r deunyddiau gan fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio neu unrhyw ffynhonnell bosibl arall.
(3) O ran planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol—
(a)caniateir eu cynnal drwy rewgadw; a
(b)ni chaniateir eu defnyddio ac eithrio am gyfnod a gyfrifir ar sail sefydlogrwydd yr amrywogaeth neu’r amodau amgylcheddol y’u tyfir oddi tanynt ac unrhyw benderfynyddion eraill sy’n effeithio ar sefydlogrwydd yr amrywogaeth.
9.—(1) Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a gynhyrchir drwy adnewyddu fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Caiff hyn ei gadarnhau—
(a)ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol, ac mewn achosion lle ceir amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi;
(b)ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol a gwaith samplu a phrofi.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), o ran gwaith samplu a phrofi—
(a)rhaid i’r gwaith gael ei gyflawni gan arolygydd neu, pan fo’n briodol, gan y cyflenwr yn unol â’r protocol priodol;
(b)mewn perthynas â firysau, firoidau a chlefydau sy’n debyg i firysau a ffytoplasmau, drwy ddull mynegeio biolegol ar blanhigion dangosol, neu drwy’r cyfryw ddull arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ddibynadwy;
(c)rhaid cynnal y gwaith hwnnw—
(i)yn ystod y cyfnod mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol ac amodau tyfu’r planhigyn, a bioleg y plâu sy’n berthnasol i’r planhigyn hwnnw;
(ii)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
(4) Pan fo planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais yn eginblanhigyn, nid yw arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi ond yn ofynnol mewn cysylltiad â’r firysau, y firoidau neu’r clefydau sy’n debyg i firysau a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a drosglwyddir gan baill—
(a)os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau y tyfwyd yr eginblanhigyn o hedyn a gynhyrchwyd gan blanhigyn sy’n rhydd rhag symptomau a achosir gan y firysau, y firoidau a’r clefydau hynny sy’n debyg i firysau;
(b)os yw’r eginblanhigyn wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8.
10.—(1) Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol cyn sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
(3) Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn ystod rhewgadw.
(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.
(5) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
11.—(1) Rhaid tyfu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(2) Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
(3) Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—
(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);
(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol o dan sylw;
(c)yn unol â’r protocol priodol.
(4) Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—
(a)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
(b)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
12.—(1) Rhaid canfod bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag diffygion i bob pwrpas ar sail arolygiad gweledol.
(2) Rhaid i’r arolygiad gweledol hwnnw gael ei gyflawni gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
13.—(1) Caiff cyflenwr luosi neu adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol a dderbynnir yn unol â pharagraff 5.
(2) Caiff cyflenwr luosogi planhigion tarddiol cyn-sylfaenol i gynhyrchu deunyddiau cyn-sylfaenol.
(3) Rhaid lluosi, adnewyddu a lluosogi (gan gynnwys microluosogi) planhigion tarddiol cyn-sylfaenol yn unol â’r protocol priodol.
(4) Yn achos microluosogi, rhaid i’r protocol priodol fod wedi ei brofi ar y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol am gyfnod o amser a ystyrir yn ddigonol i alluogi gwirio ffenoteip y planhigion o ran gwirdeiprwydd yr amrywogaeth mewn perthynas â’r disgrifiad ohoni ar sail arsylwi ar gynhyrchiant ffrwythau neu ddatblygiad llystyfol y gwreiddgyffion.
(5) Ni chaiff cyflenwr ond adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 8(3)(b).
14.—(1) Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol sylfaenol a gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth) yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—
(a)yn cael eu lluosogi o blanhigyn tarddiol sylfaenol—
(i)a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol;
(ii)a gynhyrchir drwy luosi o blanhigyn tarddiol sylfaenol yn unol â pharagraff 19;
(b)yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;
(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;
(g)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18; a
(h)pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19.
(3) At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) i (h) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.
(4) Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
15.—(1) Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
(a)yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth;
(b)yn cael ei nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;
(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;
(f)yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;
(g)wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 18; a
(h)pan fo’n briodol, wedi ei luosi yn unol â pharagraff 19.
(3) At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.
(4) Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol sylfaenol neu’n ddeunyddiau sylfaenol nad yw’n bodloni gofynion is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.
16.—(1) Rhaid i blanhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
(3) Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn ystod rhewgadw.
(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.
(5) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
17.—(1) Ni chaniateir tyfu planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol ac eithrio mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(2) Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.
(3) Rhaid i waith samplu a phrofi gael ei gyflawni—
(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);
(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol o dan sylw;
(c)yn unol â’r protocol priodol.
(4) Nid oes angen cyflawni gwaith samplu a phrofi—
(a)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
(b)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
18. Rhaid cynnal planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol mewn meysydd sydd wedi eu hynysu’n bell oddi wrth ffynonellau heintio posibl, gan gynnwys fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio ac unrhyw ffynhonnell bosibl arall.
19.—(1) Caniateir lluosi planhigion tarddiol sylfaenol a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol mewn nifer o genedliadau er mwyn cael y nifer angenrheidiol o blanhigion tarddiol sylfaenol yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Rhaid gwneud unrhyw luosi o blanhigion tarddiol sylfaenol o dan is-baragraff (1) yn unol â pharagraff 13 ac, at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae cyfeiriad at blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol ym mharagraff 13 i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigyn tarddiol sylfaenol.
(3) Ni chaiff y nifer uchaf o genedliadau a ganiateir, na’r hyd oes hwyaf a ganiateir ar gyfer planhigyn tarddiol sylfaenol, fod yn uwch na’r terfynau a bennir yn Atodlen V i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau perthnasol.
(4) Pan ganiateir cenedliadau lluosog o blanhigion tarddiol sylfaenol, caiff pob cenhedliad, ac eithrio’r cyntaf, ddeillio o unrhyw genhedliad blaenorol.
(5) Rhaid cadw deunyddiau lluosogi o genedliadau gwahanol ar wahân.
20.—(1) Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol) a phlanhigion ffrwythau yn ddeunyddiau ardystiedig os yw’r deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau—
(a)yn cael eu tyfu o blanhigion tarddiol ardystiedig a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
(b)yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
(3) At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
(4) Pan na fo planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) i (f) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
21.—(1) Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunydd ardystiedig os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
(a)yn cael ei dyfu o blanhigyn tarddiol ardystiedig a dyfwyd o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
(b)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(c)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
(e)yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
(4) Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol ardystiedig neu’n ddeunyddiau ardystiedig nad yw’n bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
22.—(1) Rhaid i blanhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
(3) Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn ystod rhewgadw.
(4) Mae arolygydd a, phan fo’n briodol, cyflenwr, yn cadarnhau cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.
(5) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
23.—(1) Rhaid tyfu planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(2) Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.
(3) Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—
(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y cyfryw blâu;
(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol, bioleg y plâu, a pherthnasedd y plâu i’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig o dan sylw;
(c)yn unol â’r protocol priodol.
(4) Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—
(a)yn achos planhigion ffrwythau ardystiedig;
(b)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
(c)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys yng Nghymru, yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau (OJ Rhif L 267, 8.10.2008, t. 8). Maent hefyd yn gweithredu—
Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/96/EU ar y gofynion ar gyfer labelu, selio a phecynnu deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau, sydd o fewn cwmpas Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC (OJ L 298, 16.10.2014, t. 12);
Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/97/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran cofrestru cyflenwyr ac amrywogaethau a’r rhestr gyffredin o amrywogaethau (OJ L 298, 16.10.2014, t. 16);
Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol mewn perthynas â genws a rhywogaeth planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol (OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 22).
Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (O.S. 2010/2079).
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn rhagarweiniol. Nodir y planhigion ffrwythau a’r deunyddiau lluosogi (deunyddiau planhigion) y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt yn rheoliad 4 ac yn Atodlen 3.
Mae Rhan 2 yn cynnwys gofynion ar gyfer marchnata deunyddiau planhigion (rheoliad 5). Er mwyn cael eu marchnata, rhaid i ddeunyddiau planhigion gydymffurfio â gofynion a nodir ar gyfer ardystio (rheoliad 9 ac Atodlen 5) a phecynnu, selio a labelu (rheoliad 10 ac Atodlen 2). Rhaid i ddeunyddiau planhigion fod wedi eu cofrestru, neu fod yn y broses o gael eu cofrestru (Atodlen 4), a rhaid bod hawliau amrywogaeth planhigion wedi eu rhoi iddynt, neu gais wedi ei wneud amdanynt (rheoliad 7). Rhaid i ddeunyddiau CAC gydymffurfio â gofynion a nodir yn Atodlen 1 a rhaid i ddogfen y cyflenwr fynd gyda hwy (Atodlen 2). Mae rheoliad 4 yn nodi eithriadau i’r gofynion cyffredinol hyn.
Mae Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol cofrestru cyflenwyr (rheoliad 11) a chynnal cofrestr o gyflenwyr (rheoliad 13). Mae’n ofynnol i gyflenwyr fonitro’r broses o gynhyrchu deunyddiau planhigion (rheoliad 14) a chadw cofnodion (rheoliad 15).
Mae Rhan 4 yn ymdrin â gorfodi’r Rheoliadau hyn ac yn nodi pwerau arolygwyr, gan gynnwys pŵer i gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson i’w gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu gwybodaeth, a phŵer i wahardd symud deunyddiau planhigion yr amheuir eu bod yn methu â chydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae gan arolygydd bŵer hefyd i gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy’n torri’r Rheoliadau hyn i’w gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r Rheoliadau neu i wahardd y person hwnnw rhag gweithredu’n groes iddynt. O dan reoliad 24(1) mae person sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw hysbysiad o’r fath neu’n methu â rhoi cymorth i’r arolygydd yn euog o drosedd. O dan reoliad 24(2) mae person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau yn atebol, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Mae Rhan 5 yn nodi darpariaethau gweinyddol gan gynnwys trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol (rheoliad 27), a darpariaeth drosiannol (rheoliad 28).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 a chan O.S. 2007/1388.
Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol ar gyfer genws a rhywogaeth planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol (OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 22).
1997 p. 66. Diwygiwyd Rhan I gan O.S. 2000/311, 2006/1261 a 2011/1043.
OJ Rhif L 227, 1.9.1994, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 15/2008 (OJ L 8, 11.1.2008, t. 2).
Sefydlwyd yr Undeb Rhyngwladol dros Ddiogelu Amrywogaethau Newydd o Blanhigion (UPOV) gan y Confensiwn Rhyngwladol dros Ddiogelu Amrywogaethau Newydd o Blanhigion (“Confensiwn yr UPOV”). Mabwysiadwyd Confensiwn yr UPOV ar 2 Rhagfyr 1961 gan Gynhadledd Ddiplomyddol a gynhaliwyd ym Mharis, fe’i diwygiwyd ym 1972 a 1991 ac fe’i cadarnhawyd gan y Deyrnas Unedig ar 3 Rhagfyr 1998.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4).
OJ Rhif L 267, 8.10.2008, t. 8; fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 1).
OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 12.
OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 16.
OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 22.
1980 p. 43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan adran 47 o Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39). Diwygiwyd adrannau 53 a 54 gan adran 17(6) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).
OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2015/412 (OJ Rhif L 68, 13.3.2015, t. 1).
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1; fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: