- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
31.—(1) Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais ofyn i Weinidogion Cymru fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio.
(2) Rhaid i’r canlynol ddod gyda gofyniad am gyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â chais—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—
(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;
(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;
(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;
(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael am yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—
(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a
(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth;
(e)datganiad bod y gofyniad yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion 62D o Ddeddf 1990; ac
(f)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
(3) Rhaid i’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio ystyried y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio o dan y Gyfarwyddeb pan fydd y person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2).
(4) Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(5) Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at ofyn am farn o dan reoliad 6(8) yn gyfeiriadau at ofyn am gyfarwyddyd o dan reoliad 31(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: