- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
14.—(1) Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais AEA ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddatgan ei farn o ran cwmpas a manylder yr wybodaeth i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).
(2) Rhaid i’r gofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio—
(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(ii)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
(iii)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a
(iv)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno;
(b)mewn perthynas â chais dilynol—
(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(ii)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;
(iii)disgrifiad o’r effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a
(iv)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.
(3) Os nad yw awdurdod sy’n cael cais o dan baragraff (1) yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn sgrinio, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am y pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.
(4) Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1) hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion, ond rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (5), fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.
(5) Pan fo person wedi gofyn i’r awdurdod am farn o dan baragraff (1) uchod ar yr un pryd â gwneud cais am farn sgrinio o dan reoliad 6(1), ac mae’r awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y mabwysiadwyd y farn sgrinio honno neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.
(6) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, rhaid i’r awdurdod gymryd y canlynol i ystyriaeth—
(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfaethedig;
(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;
(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a
(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio’n sylweddol arnynt.
(7) Pan fo awdurdod yn methu â mabwysiadu barn gwmpasu o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (5), caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o dan reoliad 15(1) ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“cyfarwyddyd cwmpasu”).
(8) Mae paragraff (7) yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (3).
(9) Nid oes unrhyw beth yn atal awdurdod sydd wedi mabwysiadu barn gwmpasu rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
(10) Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: