Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 13Amrywiol

Gwrthrychedd a rhagfarn

58.—(1Pan fo gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflawni’r ddyletswydd honno mewn modd gwrthrychol er mwyn osgoi sefyllfa sy’n arwain at wrthdaro buddiannau.

(2Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn gweithredu fel datblygwr a bod yr awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar ei gynnig ei hun neu eu cynnig eu hunain, rhaid i’r awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, wneud trefniadau gweinyddol priodol er mwyn sicrhau bod gwahanu swyddogaethau rhwng y personau hynny sy’n gwneud cais am ganiatâd i ddatblygu, neu y mae caniatâd i ddatblygu yn ofynnol iddynt, a’r personau sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cynnig hwnnw.

Cais i’r Uchel Lys

59.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288(1)(b)(1) nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990 yn cynnwys peidio â chaniatáu rhoi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol oherwydd rheoliadau 3 neu 44.

Gwastraff peryglus a newid defnydd sylweddol

60.  Mae newid yn nefnydd tir neu adeiladau i ddefnydd at ddiben a grybwyllir ym mharagraff 9 o Atodlen 1 yn cynnwys newid sylweddol yn y defnydd o’r tir hwnnw neu’r adeiladau hynny at ddibenion adran 55(1) o Ddeddf 1990 (ystyr “datblygiad” a “datblygiad newydd”).

Ymestyn y cyfnod ar gyfer penderfyniad awdurdod ar gais cynllunio

61.—(1At ddibenion adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), o ran penderfynu ar yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad—

(a)pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1) bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw,

nid oes unrhyw ystyriaeth i’w roi i unrhyw gyfnod cyn dyroddi’r cyfarwyddyd.

(2Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai—

(a)pob un o’r cyfeiriadau yn erthyglau 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a

(b)y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa)(2) at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.

Ymestyn y pŵer i ddarparu mewn gorchymyn datblygu ar gyfer rhoi cyfarwyddydau ynghylch y dull yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunio

62.  Rhaid i ddarpariaethau a gynhwysir mewn gorchymyn datblygu yn rhinwedd adran 60 o Ddeddf 1990 (caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu)(3) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau, eu galluogi i gyfarwyddo bod datblygiad sydd o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2, a hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso i’r Goron

63.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron gyda’r addasiadau canlynol.

(2Mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru heblaw cais o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatad cynllunio), rhaid darllen rheoliad 12 (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: cais)(4) neu ei”; a

(ii)cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”;

(b)ym mharagraff (2), cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”; ac

(c)ym mharagraff (3), cyn “a atgyfeiriwyd” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “a wnaed o dan adran 293A o Ddeddf 1990 neu”.

Diwygio offerynnau eraill

64.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 9 wedi eu diwygio i’r graddau a nodir yn yr Atodlen honno.

Darpariaethau dirymu, arbed a throsiannol

65.—(1Mae Rheoliadau 2016 wedi eu dirymu, ond mae hynny’n ddarostyngedig i baragraffau (2) i (8).

(2Pan fo’r amod ym mharagraff (3) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)cais am ganiatâd cynllunio;

(b)cais ROMP y mae Rheoliadau 2016 yn gymwys iddo;

(c)apêl mewn perthynas â chais o fewn is-baragraff (a) neu (b);

(d)mater y mae awdurdod cynllunio lleol wedi dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.

(3At ddibenion paragraff (2), yr amod yw bod y ceisydd neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—

(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,

mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cais neu’r apêl yn ymwneud ag ef.

(4Pan fo’r amod ym mharagraff (5) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(b)gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig.

(5At ddibenion paragraff (4), yr amod yw fod yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—

(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu

(b)llunio datganiad amgylcheddol,

mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud ag ef.

(6Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â cham gweithredu arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990 pan fo’r ceisydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff 3 o Atodlen 7, cyn 16 Mai 2017, wedi—

(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,

mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cam gweithredu arfaethedig yn ymwneud ag ef.

(7Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â—

(a)gofyniadau am farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio;

(b)barnau sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)cyfarwyddydau sgrinio a wneir gan Weinidogion Cymru,

pan fo, cyn 16 Mai 2017, y fath ofyniadau wedi eu gwneud, neu pan fo’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) wedi cychwyn gwneud barnau sgrinio neu gyfarwyddydau sgrinio neu wedi cychwyn mabwysiadu barnau neu gyfarwyddydau o’r fath.

(8Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(5).

(9Yn unol â hynny, nid yw’r Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn) yn gymwys mewn cysylltiad â datblygiad y mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith arno yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8).

(10Yn y rheoliad hwn—

mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”), “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) a “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2016;

mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 55(1); ac

ystyr “Rheoliadau 2016” (“2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(6).

Diwygiadau canlyniadol

66.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 10 wedi eu diwygio i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

(1)

Diwygiwyd adran 288(1)(b) gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), adran 27 ac Atodlen 4, paragraff 16.

(2)

Mewnosodwyd is-baragraff (aa) o erthygl 22(2) gan erthygl 11(b) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59 (Cy. 29)).

(3)

Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”) ac fe’i diwygiwyd gan adran 16 ac Atodlen 2, paragraffau 8 a 9 ac adran 27 a pharagraffau 1 a 17(1) i (3) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae adran 118(3) o Ddeddf 2004 yn darparu bod rhaid cymryd bod cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) at ddeddfiad a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2004 yn gyfeiriad at y deddfiad fel y’i diwygiwyd felly.

(5)

O.S. 2009/3342 (Cy. 293) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/755 (Cy. 90) ac O.S. 2016/58 (Cy. 28) gweler ar gyfer ceisiadau ROMP a wnaed cyn 15 Tachwedd 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources