Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 10Datblygiad Anawdurdodedig

Dehongli’r Rhan hon

42.  Yn y Rhan hon—

ystyr “apêl sail (a)” (“ground (a) appeal”) yw apêl a gyflwynir o dan adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(1); ac

ystyr “datblygiad AEA anawdurdodedig” (“unauthorised EIA development”) yw datblygiad AEA sy’n destun hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi);

ystyr “swyddogaethau gorfodi” (“enforcement functions”) yw—

(a)

dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi)(2);

(b)

dyroddi hysbysiad tramgwydd cynllunio o dan adran 171C o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud gwybodaeth ynghylch gweithgarwch ar dir yn ofynnol)(3);

(c)

dyroddi hysbysiad stop dros dro o dan adran 171E o Ddeddf 1990 (hysbysiad stop dros dro)(4);

(d)

dyroddi hysbysiad stop o dan adran 183 o Ddeddf 1990 (hysbysiadau stop)(5);

(e)

cyflwyno hysbysiad torri amodau o dan adran 187A o Ddeddf 1990 (gorfodi amodau)(6); a

(f)

cais i’r llys am waharddeb o dan adran 187B o Ddeddf 1990 (gwaharddebau sy’n atal achosion o dorri rheol gynllunio)(7).

Dyletswydd i sicrhau y cyflawnir amcanion y Gyfarwyddeb

43.  Rhaid i awdurdodau cynllunio perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r angen i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ac amcanion y Gyfarwyddeb.

Gwahardd rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA anawdurdodedig

44.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chydsyniad dilynol o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio ar apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(8) mewn cysylltiad â datblygiad AEA anawdurdodedig oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Barnau sgrinio

45.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1 neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2 rhaid iddo, cyn y dyroddir yr hysbysiad gorfodi—

(a)cymryd y fath gamau sy’n ymddangos yn rhesymol iddynt o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw i ofynion rheoliad 6(2) a (4), i gael gwybodaeth am ddatblygiad anawdurdodedig i hysbysu barn sgrinio; a

(b)mabwysiadu barn sgrinio.

(2Pan ymddengys i’r fath awdurdod cynllunio lleol bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddo gyflwyno gyda chopi o’r hysbysiad gorfodi, hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 45”) y mae’n rhaid iddo—

(a)cynnwys y farn sgrinio sy’n ofynnol gan baragraff (1); a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhoi hysbysiad o apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA hwnnw i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol a gyflwynodd hysbysiad rheoliad 45 anfon copi ohono at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)yr ymgynghoreion; ac

(c)unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan, neu sydd â diddordeb yn, yr hysbysiad rheoliad 45.

(4Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn darparu copi o hysbysiad rheoliad 45 i Weinidogion Cymru, rhaid iddo gynnwys gydag ef restr o’r personau eraill y mae copi o’r hysbysiad wedi ei anfon neu sydd am gael ei anfon atynt.

Cyfarwyddydau sgrinio

46.—(1Caiff unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad rheoliad 45 iddo, wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r canlynol gael eu cyflwyno ynghyd â’r cais am gyfarwyddyd sgrinio—

(a)copi o’r hysbysiad rheoliad 45;

(b)copi o’r hysbysiad gorfodi a oedd yn dod gydag ef; ac

(c)yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 6(2), a’r sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw, y mae’n rhaid i’r ceisydd eu llunio wrth gydymffurfio â rheoliad 6(4).

(3Ar yr un pryd ag y gwneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd anfon copi o’r cais a’r wybodaeth ac unrhyw sylwadau a ddarperir neu a gyflwynir yn unol â pharagraff (2)(c) i’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (2) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy; a rhaid i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn pa bynnag gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(5Mae rheoliad 7(6) i (8) yn gymwys i gyfarwyddyd y ceisir yn unol â pharagraff (1).

(6Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cyfarwyddyd at y ceisydd.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA nac yn cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddynt anfon copi o’r cyfarwyddyd at bob person yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 45 atynt.

Darparu gwybodaeth

47.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw berson, ac eithrio Gweinidogion Cymru, yr anfonwyd copi o hysbysiad rheoliad 45 atynt (“yr ymgynghorai rheoliad 45”), ymgynghori â’r person hwnnw, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad rheoliad 45 iddo, er mwyn penderfynu a oes gan yr ymgynghorai rheoliad 45 unrhyw wybodaeth yn ei feddiant y mae’r person hwnnw neu’r ymgynghorai rheoliad 45 yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gyfer llunio datganiad amgylcheddol ac os oes ganddo, rhaid i’r ymgynghorai rheoliad 45 sicrhau bod unrhyw wybodaeth o’r fath ar gael i’r person hwnnw.

(2Mae rheoliad 16(5) yn gymwys i wybodaeth o dan baragraff (1) fel y mae’n gymwys i unrhyw wybodaeth sy’n dod o fewn rheoliad 16(4).

Apêl i Weinidogion Cymru heb farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio

48.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid iddynt wneud cyfarwyddyd sgrinio cyn y cyflwynir unrhyw hysbysiad yn unol â rheoliad 49.

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 a bod cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru.

(3Cyn cael cyfarwyddyd sgrinio ni chaiff yr arolygydd benderfynu ar gais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (“y cais tybiedig”) ac eithrio i wrthod y cais hwnnw.

(4Pan atgyfeirir cwestiwn o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cwestiwn neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, heb fod yn fwy na 90 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 46(2)(c).

(5Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y gofyniad, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynnodd am y cyfarwyddyd.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (5) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (4) at yr arolygydd.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45 am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy, ac mae’n rhaid i’r wybodaeth honno y gofynnir amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(9Os bydd apelydd sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff (8) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw mae’r apêl, i’r graddau y mae’n apêl sail (a), yn methu ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

49.—(1Mae’r weithdrefn ym mharagraff (2) yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

(b)y materion yr honnir eu bod yn golygu torri’r rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA anawdurdodedig neu’n cynnwys datblygiad AEA anawdurdodedig; ac

(c)nid yw’r dogfennau a gyflwynir at ddibenion yr apêl yn cynnwys datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Y weithdrefn yw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir yr apêl, neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, rhoi hysbysiad i’r apelydd o ofynion is-baragraff (c); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);

(b)nid oes angen rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (a) pan fo’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru at ddibenion apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) sydd—

(i)yn ymwneud â’r datblygiad y mae’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ef; a

(ii)i’w benderfynu ar yr un adeg â’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

ac mae’n rhaid trin y datganiad, unrhyw wybodaeth bellach, unrhyw wybodaeth arall a’r sylwadau (os oes rhai) a wneir mewn perthynas ag ef fel yr wybodaeth amgylcheddol at ddiben rheoliad 41;

(c)rhaid i’r apelydd, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad neu pa bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru, gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA anawdurdodedig dan sylw i Weinidogion Cymru;

(d)rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a anfonwyd at yr apelydd o dan is-baragraff (a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)os bydd apelydd y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) iddo yn methu â chydymffurfio â gofynion is-baragraff (c), mae’r apêl sail (a) yn methu ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir;

(f)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r methu a ddisgrifir yn is-baragraff (e) ddigwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr apêl sail (a) wedi methu.

Gweithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

50.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl gorfodi (ac eithrio fel y crybwyllir yn rheoliad 49(2)(b)), rhaid iddynt—

(a)anfon copi o’r datganiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cynghori’r awdurdod y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl sail (a), a’i hysbysu y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(b)hysbysu’r personau yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 45 perthnasol atynt y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl sail (a), a’u hysbysu y caniateir iddynt gyflwyno sylwadau ac, os ydynt yn dymuno cael copi o’r datganiad neu unrhyw ran ohono, bod yn rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru o’u gofynion o fewn 7 diwrnod i gael hysbysiad Gweinidogion Cymru; ac

(c)ymateb i ofynion a hysbysir yn unol â pharagraff (b) drwy ddarparu copi o’r datganiad neu o’r rhan y gofynnwyd amdani (yn ôl y digwydd).

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth ynghylch datganiadau amgylcheddol

51.  Mae rheoliad 24(1) a (10) yn gymwys i ddatganiadau a ddarperir yn unol â’r Rhan hon gyda’r addasiadau canlynol—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn hysbysu’r apelydd o dan reoliad 24(1), rhaid i’r apelydd ddarparu’r wybodaeth bellach o fewn y fath gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd;

(b)os bydd apelydd y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan baragraff (a) yn methu â darparu’r wybodaeth bellach o fewn y cyfnod a bennir neu a ganiateir, mae’r apêl sail (a) yn methu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer datganiadau amgylcheddol neu wybodaeth bellach

52.—(1Pan fo awdurdod yn cael copi o ddatganiad yn rhinwedd rheoliad 50(a) neu unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw’r apelydd a bod yr hysbysiad gorfodi wedi ei apelio i Weinidogion Cymru;

(b)cyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a natur y datblygiad;

(c)digon o wybodaeth i alluogi adnabod unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)bod copi o’r datganiad, gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ac o unrhyw ganiatâd cynllunio ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y datganiad neu wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy’n cael ei drin yn y datganiad neu’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad diweddaraf a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f); ac

(h)y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw sylwadau o’r fath iddo.

(2Rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn unol â pharagraff (1), anfon copi o’r hysbysiad at Weinidogion Cymru, wedi ei ardystio gan neu ar ran yr awdurdod ei fod wedi ei gyhoeddi drwy hysbyseb leol ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod y datganiad amgylcheddol ar gael i’w weld ar wefan a gynhelir ganddo neu ar ei ran.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru sy’n cael tystysgrif o dan baragraff (2) nac arolygydd benderfynu ar yr apêl sail (a) mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef hyd nes bod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cyhoeddedig fel y dyddiad olaf yr oedd y datganiad neu’r wybodaeth bellach ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt wedi dod i ben.

Dogfennau ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt

53.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod copi o’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr)—

(a)pob hysbysiad rheoliad 45 a roddwyd gan yr awdurdod;

(b)pob hysbysiad a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 49(2)(d); ac

(c)pob datganiad a phob gwybodaeth bellach a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 50(a);

a rhaid i gopïau o’r dogfennau hynny barhau i fod ar gael felly am gyfnod o 2 flynedd neu hyd y byddant yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr yn unol â pharagraff (2), pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.

(2Pan fo manylion am unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan adran 177 o Ddeddf 1990 yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr(9), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod y Rhan honno hefyd yn cynnwys copi o unrhyw rai o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sy’n berthnasol i’r datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

(3Mae darpariaethau paragraffau (2) a (3) o reoliad 29 yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddir o dan adran 177 o Ddeddf 1990 fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Effeithiau trawsffiniol sylweddol

54.  Mae rheoliad 56 yn gymwys i ddatblygiad AEA anawdurdodedig fel pe bai—

(a)rheoliad 56(1)(a) i’w ddarllen fel—

(a)wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA a bod y datblygiad wedi neu yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu;

(b)yn rheoliad 56(3)(a), “copi o’r cais dan sylw”, i’w ddarllen fel “disgrifiad o’r datblygiad dan sylw”;

(c)yn rheoliad 56(6), “y cais” i’w ddarllen fel “yr apêl”.

(1)

Diwygiwyd adran 174 gan adrannau 6, 32 ac 84 o Ddeddf 1991, O.S. 2004/3156 (Cy. 273) a pharagraff 22 o Ran 1 o Atodlen 19 iddi, adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 2 a 5 o Atodlen 17 iddi a chan adran 46 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4). Ceir diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol o ran Cymru. Gweler hefyd adran 177(5) a ddiwygiwyd gan baragraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf 1991.

(2)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf 1991.

(3)

Mewnosodwyd adran 171C gan adran 1 o Ddeddf 1991 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 5(a) o O.S. 2004/3156 (Cy. 273).

(4)

Mewnosodwyd adran 171E gan adran 52 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5).

(5)

Amnewidiwyd adran 183 gan adran 9 o Ddeddf 1991.

(6)

Mewnosodwyd adran 187A gan adran 2 o Ddeddf 1991. Ceir diwygiad pellach nad yw’n berthnasol o ran Cymru.

(7)

Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf 1991.

(8)

Diwygiwyd adran 177 gan adrannau 6(3) a 32 o Ddeddf 1991 a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi, a chan adran 123(1), (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a chan adran 46 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(9)

Gweler adran 177(8) o Ddeddf 1990.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources