- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn darparu’r dull ar gyfer canfod a yw maint prosiect ailstrwythuro yn hafal i’r trothwy cymwys neu’n uwch na’r trothwy hwnnw.
(2) Mae’r trothwy ar gyfer math o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 wedi ei nodi yng ngholofn 2 neu 3.
(3) Mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo prosiect ailstrwythuro ond yn cynnwys un o’r mathau o brosiectau ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 yn unig.
(4) Pan fo prosiect ailstrwythuro i’w gyflawni yn gyfan gwbl y tu allan i ardal sensitif, y trothwy sy’n gymwys iddo yw’r trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 2.
(5) Pan fo prosiect ailstrwythuro, neu unrhyw ran ohono, i’w gyflawni neu ei chyflawni mewn ardal sensitif, y trothwy sy’n gymwys iddo yw’r trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 3.
(6) Pan fo prosiect ailstrwythuro wedi ei ffurfio o fwy nag un o’r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1—
(a)rhaid i bob rhan berthnasol o’r prosiect ailstrwythuro gael ei asesu er mwyn canfod y trothwy sy’n gymwys i’r rhan honno, a
(b)os yw unrhyw ran berthnasol o’r prosiect ailstrwythuro yn hafal i’r trothwy sy’n gymwys i’r rhan honno neu’n uwch na’r trothwy hwnnw, yna mae’r prosiect ailstrwythuro cyfan i’w drin fel pe bai ei faint yn hafal i’r trothwy sy’n gymwys iddo neu’n uwch na’r trothwy hwnnw.
(7) Yn y rheoliad hwn ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw—
(a)tir yr hysbysir o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig;
(b)eiddo sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn 1972 UNESCO er diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd(2);
(c)safle Ewropeaidd o fewn ystyr “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(3);
(d)ardal o harddwch naturiol eithriadol a ddynodwyd felly drwy Orchymyn a wnaed o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) ac a gadarnhawyd yn briodol gan Weinidogion Cymru o dan adran 83(3) o’r Ddeddf honno(4);
(e)Parc Cenedlaethol o fewn ystyr “National Park” yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(5);
(f)heneb gofrestredig o fewn ystyr “scheduled monument” yn Neddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979(6).
1981 p. 69. Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 79 o Atodlen 11(1) i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 172 o Atodlen 2 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).
Gweler Papur Gorchymyn 9424.
2000 p. 37. Mae gorchmynion sy’n dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a wnaed cyn i adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ddod i rym yn cael eu trin fel pe bai eu bod wedi eu gwneud o dan adran 82 yn rhinwedd paragraff 16 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno.
1949 p. 97. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan baragraff 2 o Atodlen 10 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), rhan 5 o adran 59(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 10(a) o Atodlen 11 iddi, a pharagraff 16 o Atodlen 2 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).
1979 p. 46, adran 1(11).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: