- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12.—(1) Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio â rheoliad 11(4), yn penderfynu y dylai datganiad, a gynhwyswyd gyda chais am gydsyniad, sy’n honni ei fod yn ddatganiad amgylcheddol, gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am yr wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol, a rhaid i’r ceisydd ddarparu’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau o gael y fath hysbysiad (“gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol”).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)anfon copi o’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i unrhyw rai o’r cyrff ymgynghori y maent yn ystyried sy’n briodol, a
(b)hysbysu’r cyrff ymgynghori y cânt gyflwyno sylwadau o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daw’r wybodaeth ychwanegol i’w llaw.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol y tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cymru, hysbysiad—
(a)yn cyfeirio at y cais y mae’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn ymwneud ag ef a’r dyddiad y gwnaed y cais;
(b)yn datgan bod yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol wedi dod i law;
(c)yn pennu cyfeiriad lle gellir gweld copïau o’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o’r cais gael eu gwneud (ac y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt) ar bob adeg resymol am 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad; a
(d)yn datgan y caniateir i sylwadau mewn perthynas â’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan is-baragraff (c) am gyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: