- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13. Mae rheoliad 44 i’w ddarllen fel pe bai—
(a)ar ôl paragraff (1), y canlynol wedi ei fewnosod—
“(1A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.
(1B) Pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig—
(a)rhaid i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a phob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad sy’n bwriadu rhoi tystiolaeth, neu’n bwriadu galw person arall i roi tystiolaeth, yn yr ymchwiliad drwy ddarllen datganiad ysgrifenedig, anfon at Weinidogion Cymru—
(i)un copi o’r datganiad ysgrifenedig gan gynnwys y dystiolaeth gaeedig, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig;
(ii)un copi o’r datganiad ysgrifenedig heb gynnwys y dystiolaeth gaeedig (“y datganiad agored”), ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig;
(b)rhaid i’r apelydd anfon un copi o’r datganiad agored, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, i’r awdurdod cynllunio lleol;
(c)rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon un copi o’r datganiad agored, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at yr apelydd.”;
(b)ar ôl paragraff (2), y canlynol wedi ei fewnosod—
“(2A) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.
(2B) Pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael—
(a)anfon copi o ddatganiad agored pob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, ynghyd ag unrhyw grynodeb, i’r awdurdod cynllunio lleol; a
(b)anfon copi o bob datganiad agored, ynghyd ag unrhyw grynodeb, at bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: