- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 10(7) mewnosoder—
“(7A) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) at yr awdurdod perthnasol ar yr un pryd ag yr anfonir yr hysbysiad at yr apelydd.
(7B) Rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a)pan fydd yr apelydd wedi talu’r ffi yn unol â pharagraffau (6) a (7); neu
(b)os nad yw’r apelydd wedi talu’r ffi o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (7).”
3. Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio y tybir iddo gael ei wneud, yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(2), mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi a ddyroddir cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: