- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
89.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—
(a)nad yw wedi ei hepgor o fod â hawl gan unrhyw un o’r paragraffau a ganlyn, rheoliad 81 neu reoliad 84; a
(b)bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais amdano.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.
(3) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw dwysedd yr astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.
(4) At ddibenion paragraff (3) mae dwysedd yr astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 85(2) a (3).
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: