- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
82.—(1) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd na benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(2) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y dechreuodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(3) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a
(b)nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser nac ychwaith grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(4) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
(e)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(f)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(h)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(i)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: