Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys

57.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys i’w gael i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn atebol i dalu iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o’r grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs dynodedig, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o’r grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.

(5Os yw asesu cais myfyriwr cymwys neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o’r cwrs dynodedig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources