Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

PENNOD 2GRANT AT FFIOEDD

Grant newydd at ffioedd

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan gorff a restrir yn rheoliad (5)(1)(e), neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid yw grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

(a)yn flwyddyn bwrsari;

(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu

(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw un o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7), (8), (9) neu (10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£4,954; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £4,046 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(4Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (7) neu (8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£2,560; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £1,940 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(5Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£900; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £900 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(6Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£675; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £675 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(7Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd olaf y cwrs dynodedig pan fo’n ofynnol cwblhau’r flwyddyn honno ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb fel arfer;

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012 a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(8Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(9Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac—

(a)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(10Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac;

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â blwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

(11At ddiben y rheoliad hwn, mae cwrs i gael ei drin fel pe bai’n cael ei ddarparu gan neu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig—

(a)os oedd sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf cwrs;

(b)pan fo’r sefydliad hwnnw wedi peidio â bod yn sefydliad addysgol cydnabyddedig; ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru wedi dynodi’r cwrs hwnnw o dan reoliad 5(8).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources