- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
21 Mawrth 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Mawrth 2017
Yn dod i rym
5 Mai 2017
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, ar ôl “Nghymru” mewnosoder, “(yn ddarostyngedig i reoliad 4A)”;
(3) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
4A.—(1) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru sy’n —
ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor awdurdod perthnasol sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol ac mae’n cynnwys is-bwyllgor;
mae i “swyddogaeth berthnasol” yr un ystyr a roddir i “relevant function” gan adran 319ZD o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(6).
(2) Heb fod yn hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol ar ôl 5 Mai 2017, ac mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)gwneud rheolau sefydlog sy’n ymgorffori’r darpariaethau a nodir yn Atodlen 2A, neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith; a
(b)addasu unrhyw rai o’u rheolau sefydlog presennol i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r darpariaethau hynny.
(3) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)cworwm ar gyfer cyfarfod pwyllgor;
(b)aelodaeth pwyllgor”.
(4) Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder —
rheoliad 4A
1. Ni chaniateir trafod busnes mewn cyfarfod pwyllgor oni bai bod o leiaf hanner cyfanswm nifer aelodau’r pwyllgor yn bresennol, wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.
2. Ni chaniateir i awdurdod perthnasol benodi un arall o’i aelodau i fod yn aelod o bwyllgor yn absenoldeb yr aelod a benodwyd yn unol â Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017(7).”
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1275) (Cy. 121) (“Rheoliadau 2006”). Maent yn gymwys o ran Cymru.
Mae Rheoliadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol ymgorffori yn eu rheolau sefydlog ddarpariaethau penodol sy’n ymwneud â’u staff, eu cyfarfodydd a’u trafodion.
Mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol wneud neu addasu rheolau sefydlog fel eu bod yn cynnwys y darpariaethau a nodir yn Rheoliadau 2006 neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd awdurdodau perthnasol. Mae “awdurdodau perthnasol” at ddiben rheoliad newydd 4A (1) o Reoliadau 2006, a fewnosodir gan reoliad 3(3), yn cynnwys byrddau cydgynllunio ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn ogystal â chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i bwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau perthnasol sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol. “Swyddogaeth berthnasol” yw swyddogaeth sy’n arferadwy mewn perthynas â chais o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Mae rheoliad (3) yn mewnosod rheoliad newydd 4A ac Atodlen 2A newydd yn Rheoliadau 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol gynnwys yn eu rheolau sefydlog ofyniad bod yn rhaid i gworwm ar gyfer eu cyfarfodydd gynnwys o leiaf hanner aelodau’r pwyllgor.
Rhaid i reolau sefydlog hefyd gyfyngu ar benodi aelodau dirprwyol i bwyllgorau.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.
1989 p. 42. Diwygiwyd adran 20 gan adran 119 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20) a pharagraff 81(1) a (4) o Atodlen 6 iddi, gan adran 23(1) o Ddeddf Datganoli Dinasoedd a Llywodraeth Leol 2016 (p. 1) a pharagraff 12(1) a (4) o Atodlen 5 iddi; a chan adran 39(5)(b) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).
Mae’r pwerau o dan adrannau 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.
Canieteir i fwrdd cydgynllunio gael ei gyfansoddi ar gyfer ardal yng Nghymru drwy orchymyn o dan adran 2(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
Gweler adran 4A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw’r unig awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ardal y Parc.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 319ZD gan adran 39(1) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: