- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—
(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol yr holl ddatblygiad a’r gofynion o ran y defnydd o’r tir yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu;
(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur ac ansawdd y deunyddiau a ddefnyddir;
(c)amcangyfrifiad, yn ôl math ac ansawdd, o’r gweddillion a’r allyriadau (llygredd dŵr, aer a phridd, sŵn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, etc.) o ganlyniad i weithrediad y datblygiad arfaethedig.
2. Amlinelliad o’r prif ddewisiadau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd a dynodi’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan gymryd yr effeithiau amgylcheddol i ystyriaeth.
3. Disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan y datblygiad, gan gynnwys yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y dirwedd a’r gydberthynas rhwng y ffactorau uchod.
4. Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd, a ddylai gynnwys yr effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnus, tymor byr, tymor canolig a thymor hir, parhaol a dros dro, cadarnhaol a negyddol y datblygiad o ganlyniad i—
(a)bodolaeth y datblygiad;
(b)y defnydd o adnoddau dynol;
(c)allyriad llygryddion, creu niwsans a chael gwared â gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd neu’r apelydd o’r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu’r effeithiau ar yr amgylchedd.
5. Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir i atal, lleihau a, phan fo modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
6. Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 5 o’r Rhan hon.
7. Dynodiad o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg medrusrwydd) a ddaw i ran y ceisydd neu’r apelydd wrth gasglu’r wybodaeth ofynnol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: