Search Legislation

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol corff
Safon 94:Rhaid ichi ddatblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, a rhaid ichi gyhoeddi’r polisi hwnnw ar eich mewnrwyd.
Safon 95:Pan fyddwch yn cynnig swydd newydd i unigolyn, rhaid ichi ofyn i’r unigolyn hwnnw a yw’n dymuno i’r contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau gael ei ddarparu yn Gymraeg; ac os yw’r unigolyn yn dymuno hynny rhaid ichi ddarparu’r contract yn Gymraeg.
Safon 96:

Rhaid ichi—

(a)

gofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’i gyflogaeth, ac sydd wedi ei chyfeirio ato’n bersonol, yn Gymraeg, a

(b)

os yw cyflogai yn dymuno hynny, darparu unrhyw ohebiaeth o’r fath iddo yn Gymraeg.

Safon 97:Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu anghenion neu ofynion ei hyfforddiant yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.
Safon 98:Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu ei amcanion perfformiad yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.
Safon 99:Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu neu’n cofnodi ei gynllun gyrfa yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.
Safon 100:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ffurflenni sy’n cofnodi ac yn awdurdodi—

(a)

gwyliau,

(b)

absenoldebau o’r gwaith, ac

(c)

oriau gwaith hyblyg,

yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ffurflenni o’r fath iddo yn Gymraeg.

Safon 101:Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch ymddygiad yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 102:Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch iechyd a lles yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 103:Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch cyflogau neu fuddion yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 104:Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch rheoli perfformiad, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 105:Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch absenoldeb o’r gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 106:Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch amodau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
Safon 107:Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch patrymau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
2Safonau ynghylch cwynion a wneir gan aelod o staff corff
Safon 108:

Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o’ch staff—

(a)

gwneud cwynion ichi yn Gymraeg, a

(b)

ymateb i unrhyw gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg.

Safon 108A:

Rhaid ichi ddatgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion y caiff pob aelod o staff—

(a)

gwneud cwyn ichi yn Gymraeg, a

(b)

ymateb i gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg;

a rhaid ichi hefyd roi gwybod i bob aelod o staff am yr hawl honno.

Safon 109:

Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi—

(a)

cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a

(b)

os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 110:

Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi—

(a)

gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

(b)

esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os yw’n ofynnol;

ac os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 111:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chŵyn a wneir gan yr aelod hwnnw, neu mewn perthynas â chŵyn a wneir amdano ef, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff—

(a)

wedi gwneud y gŵyn yn Gymraeg,

(b)

wedi ymateb yn Gymraeg i gŵyn amdano ef,

(c)

wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu

(ch)

wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn.

3Safonau ynghylch corff yn disgyblu staff
Safon 112:Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o staff ymateb yn Gymraeg i honiadau a wneir yn ei erbyn mewn unrhyw broses ddisgyblu fewnol.
Safon 112A:

Rhaid ichi—

(a)

datgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich trefniadau ar gyfer disgyblu staff y caiff unrhyw aelod o staff ymateb yn Gymraeg i unrhyw honiadau a wneir yn ei erbyn, a

(b)

os byddwch yn dechrau gweithdrefn ddisgyblu mewn perthynas ag aelod o staff, rhoi gwybod i’r aelod hwnnw o staff am yr hawl honno.

Safon 113:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi—

(a)

cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a

(b)

os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 114:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi—

(a)

gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a

(b)

esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu at y diben hwnnw os yw’n ofynnol;

ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 115:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad yn dilyn proses ddisgyblu, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff—

(a)

wedi ymateb i honiadau yn ei erbyn yn Gymraeg,

(b)

wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu

(c)

wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu.

4Safonau ynghylch technoleg gwybodaeth a deunyddiau cymorth a ddarperir gan gorff, ac ynghylch y fewnrwyd
Safon 116:Rhaid ichi ddarparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg i’ch staff, a darparu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer meddalwedd (pan fo rhyngwyneb ar gael).
Safon 117:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun pob tudalen ar eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod pob tudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich mewnrwyd.

Safon 118:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun hafan eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich mewnrwyd (neu, pan fo’n berthnasol, bod hafan Gymraeg eich mewnrwyd) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich mewnrwyd.

Safon 119:

Bob tro y byddwch yn cyhoeddi tudalen newydd neu’n diwygio tudalen ar eich mewnrwyd, rhaid ichi sicrhau—

(a)

bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)

bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)

nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â thestun y dudalen honno.

Safon 120:Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid darparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
Safon 121:Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich mewnrwyd sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hybu’r Gymraeg ac i gynorthwyo eich staff i ddefnyddio’r Gymraeg.
Safon 122:Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar eich tudalennau mewnrwyd yn Gymraeg.
5Safonau ynghylch corff yn meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi ei weithlu
Safon 123:Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion.
Safon 124:

Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg—

(a)

recriwtio a chyfweld;

(b)

rheoli perfformiad;

(c)

gweithdrefnau cwyno a disgyblu;

(ch)

ymsefydlu;

(d)

delio â’r cyhoedd; ac

(dd)

iechyd a diogelwch.

Safon 125:

Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant (yn Gymraeg) ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn—

(a)

cyfarfodydd;

(b)

cyfweliadau; ac

(c)

gweithdrefnau cwyno a disgyblu.

Safon 126:

Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith—

(a)

i’ch cyflogeion gael gwersi Cymraeg sylfaenol, a

(b)

i gyflogeion sy’n rheoli pobl eraill gael hyfforddiant ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr.

Safon 127:Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol gael hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith.
Safon 128:

Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu—

(a)

ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth am hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru);

(b)

dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg;

(c)

dealltwriaeth am y modd y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Safon 129:Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, fel rhan o broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg.
Safon 130:Rhaid ichi ddarparu geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-bost eich staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu’r iaith.
Safon 131:Rhaid ichi ddarparu geiriad ar gyfer eich cyflogeion fydd yn eu galluogi i gynnwys fersiwn Gymraeg o’u manylion cyswllt mewn negeseuon e-byst, ac i ddarparu fersiwn Gymraeg o unrhyw neges sy’n hysbysu pobl eraill nad ydynt ar gael i ateb negeseuon ebost.
6Safonau ynghylch recriwtio ac apwyntio
Safon 132:

Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)

bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd;

(c)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch)

nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

Safon 132A:

Os byddwch wedi categoreiddio swydd fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi—

(a)

pennu hynny wrth hysbysebu’r swydd, a

(b)

hysbysebu’r swydd yn Gymraeg.

Safon 133:Pan fyddwch yn hysbysebu swydd, rhaid ichi ddatgan y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 133A:

Os byddwch yn cyhoeddi—

(a)

ffurflenni cais am swyddi;

(b)

deunydd esboniadol ynghylch eich proses ar gyfer ymgeisio am swyddi;

(c)

gwybodaeth am eich proses gyfweld, neu am unrhyw ddulliau asesu eraill wrth ymgeisio am swyddi;

(ch)

swydd-ddisgrifiadau;

rhaid ichi eu cyhoeddi yn Gymraeg a rhaid ichi sicrhau nad ydych yn trin unrhyw fersiynau Cymraeg o’r dogfennau yn llai ffafriol na fersiynau Saesneg ohonynt.

Safon 133B:Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, o ran y dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau, ac o ran amseriad rhoi gwybod i unigolion ynghylch penderfyniadau).
Safon 134:Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno cael cyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg ac, os yw unigolyn yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 135:

Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi—

(a)

yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu mewn unrhyw ddull arall o asesiad, a

(b)

yn esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os oes angen;

ac, os yw’r unigolyn yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad neu’r asesiad, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfweliad neu asesiad (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad neu’r asesiad yn Gymraeg heb y gwasanaeth cyfieithu hwnnw).

Safon 136:Pan fyddwch yn rhoi gwybod i unigolyn beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am swydd, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os gwnaed y cais yn Gymraeg.
7Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir yng ngweithle corff
Safon 137:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun Saesneg cyfatebol neu ar arwydd ar wahân), ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
Safon 138:Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
Safon 139:Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion a arddangosir yn eich gweithle yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
8Safon ynghylch cyhoeddiadau a negeseuon sain yng ngweithle corff
Safon 140:Pan fyddwch yn gwneud cyhoeddiadau dros offer sain yn eich gweithle, rhaid i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud yn Gymraeg, ac os gwneir y cyhoeddiad yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources