- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
8 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Codau Gwasanaethau Cymdeithasol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y diwrnod penodedig i’r codau a bennir yn yr Atodlen ddod i rym yw 6 Ebrill 2016.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2016
Erthygl 2
Enw’r Cod | Y dyddiad y gosodwyd copi o’r cod drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru | Y dyddiad y dyroddwyd y cod gan Weinidogion Cymru |
---|---|---|
Y Cod Ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol | 29 Mehefin 2015 | 5 Hydref 2015 |
Y Cod Ymarfer a chanllawiau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a threfniadau partneriaeth mewn perthynas â Rhan 2 (swyddogaethau cyffredinol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | 3 Tachwedd 2015 | 18 Rhagfyr 2015 |
Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 3 (asesu anghenion unigolion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | 2 Tachwedd 2015 | 18 Rhagfyr 2015 |
Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | 3 Tachwedd 2015 | 18 Rhagfyr 2015 |
Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (diwallu anghenion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | 2 Tachwedd 2015 | 18 Rhagfyr 2015 |
Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | 2 Tachwedd 2015 | 18 Rhagfyr 2015 |
Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag eiriolaeth o dan Ran 10 a rhannau cysylltiedig o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | 3 Tachwedd 2015 | 18 Rhagfyr 2015 |
Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 11 (amrywiol a chyffredinol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | 3 Tachwedd 2015 | 18 Rhagfyr 2015 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn penodi 6 Ebrill 2016 fel y diwrnod y daw’r codau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) i rym.
Mae’r Gorchymyn yn gymwys i’r codau a restrir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn.
Mae’r codau yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan Ddeddf 2014. Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddwyd o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: