Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1100 (Cy. 264)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016

Gwnaed

15 Tachwedd 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Tachwedd 2016

Yn dod i rym

3 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 175(1) a (2) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 105 o Ddeddf Plant 1989(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

mae i “euogfarn gryno” yr ystyr a roddir i “extract conviction” yn adran 307 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(3);

mae i “paneli addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(b) o’r Ddeddf;

mae i “paneli apelau cofrestru” (“registration appeals panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(a) o’r Ddeddf;

mae i “paneli gorchmynion interim” (“interim orders panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(c) o’r Ddeddf.

RHAN 2Paneli Apelau Cofrestru

Dehongli Rhan 2

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “achos” (“case”) yw achos sy’n ymwneud ag apêl gofrestru gerbron panel apelau cofrestru;

ystyr “achos addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise proceedings”) yw achos gerbron panel addasrwydd i ymarfer y mae Pennod 3(4) neu Bennod 5(5) o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;

ystyr “achos apelau cofrestru” (“registration appeals proceedings”) yw achos gerbron panel apelau cofrestru y mae adran 98(1)(6), 99(2)(7) neu 103(8) o’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “apêl gofrestru” (“registration appeal”) yw—

(a)

apêl a wneir yn unol ag adran 101 o’r Ddeddf yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd;

(b)

cais a wneir yn unol ag adran 97(5) o’r Ddeddf i adolygu cyfarwyddyd o dan adran 98(4) o’r Ddeddf;

(c)

cais a wneir yn unol ag adran 97(2) o’r Ddeddf i adfer cofnod person i ran o’r gofrestr yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer;

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy’n dwyn apêl gofrestru;

ystyr “gwrandawiad apelau cofrestru” (“registration appeals hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel apelau cofrestru mewn achos apelau cofrestru;

ystyr “partïon” (“parties”) yw’r apelydd a GCC(9) (neu eu cynrychiolwyr).

Amcanion cyffredinol paneli apelau cofrestru

4.—(1Amcanion cyffredinol panel apelau cofrestru wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achosion apelau cofrestru yw—

(a)diogelu, hybu a chynnal iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd;

(b)hybu a chynnal—

(i)hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol(10), a

(ii)safon uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol; ac

(c)ymdrin â’r achos yn deg ac yn gyfiawn.

(2Mae ymdrin ag achos yn deg ac yn gyfiawn yn cynnwys—

(a)ymdrin â’r achos mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos, cymhlethdod y materion, y costau disgwyliedig ac adnoddau’r partïon;

(b)osgoi ffurfioldeb diangen a cheisio sicrhau hyblygrwydd yn yr achosion;

(c)sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, fod y partïon yn gallu cymryd rhan lawn yn yr achosion;

(d)defnyddio unrhyw arbenigedd arbennig y panel neu GCC yn effeithiol;

(e)osgoi oedi, i’r graddau y mae hynny’n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion.

Dyletswydd y partïon mewn achosion apelau cofrestru

5.—(1Dyletswydd y partïon yw—

(a)cydweithredu â’r panel apelau cofrestru, a

(b)ei helpu i gyflawni ei amcan o dan reoliad 4(1)(c).

(2Os yw’r panel apelau cofrestru wedi ei fodloni bod person wedi torri’r ddyletswydd ym mharagraff (1), caiff ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Achosion apelau cofrestru: pan nad oes angen gwrandawiad

6.—(1Caniateir dyfarnu ar apêl gofrestru sydd gerbron panel apelau cofrestru heb wrandawiad—

(a)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achos heb wrandawiad, a

(b)os yw’r panel apelau cofrestru yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.

(2Pan ddyfernir ar achos yn unol â pharagraff (1) heb wrandawiad—

(a)caiff cadeirydd y panel wneud penderfyniad terfynol y panel apelau cofrestru;

(b)ar unrhyw adeg yn ystod yr achos caiff y panel apelau cofrestru neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad apelau cofrestru gael ei gynnal.

(3Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel apelau cofrestru eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel apelau cofrestru eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad.

Rheoli achos mewn achosion apelau cofrestru

7.—(1Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rheoli achos rhagarweiniol mewn perthynas ag achosion apelau cofrestru.

(2Caiff y rheolau wneud darpariaeth yn benodol—

(a)mai panel apelau cofrestru neu berson a benodir o dan y rheolau sy’n gwneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol;

(b)ynghylch cymwysterau ar gyfer penodiad o’r fath;

(c)ynghylch adolygiadau achos;

(d)ynghylch cyfarwyddydau y caniateir iddynt gael eu rhoi;

(e)ynghylch cofnodion cyfarwyddydau;

(f)ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddydau (a gaiff gynnwys pŵer panel apelau cofrestru i ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol).

(3Pan fo’r rheolau yn darparu i berson ac eithrio’r panel apelau cofrestru wneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol, rhaid iddynt ddarparu i’r person hwnnw—

(a)gweithredu’n annibynnol ar y partïon, a

(b)arfer unrhyw bŵer i roi cyfarwyddydau at ddiben sicrhau bod yr apêl yn cael ei chynnal yn gyfiawn, yn ddiymdroi ac yn effeithiol yn unig.

(4Mae amcan cyffredinol panel apelau cofrestru o dan reoliad 4(1)(c) (i ymdrin ag achosion yn deg ac yn gyfiawn) hefyd yn gymwys i berson o’r fath.

(5Ni chaiff rheolau a wneir o dan y rheoliad hwn ddarparu ar gyfer dyfarnu costau.

Tystiolaeth mewn achosion apelau cofrestru

8.—(1Rhaid i banel apelau cofrestru wneud canfyddiad ffeithiol yn unol â phwysau tebygolrwydd.

(2Nid yw tystiolaeth yn dderbyniol mewn achosion apelau cofrestru oni bai—

(a)y byddai’n dderbyniol mewn achosion sifil yng Nghymru a Lloegr, neu

(b)bod y panel apelau cofrestru yn ystyried bod y dystiolaeth yn berthnasol, a’i bod yn deg derbyn y dystiolaeth honno.

(3Mae tystysgrif sydd wedi ei llofnodi gan swyddog cymwys mewn llys o unrhyw awdurdodaeth bod person wedi ei euogfarnu o drosedd neu, yn yr Alban, euogfarn gryno, yn dystiolaeth bendant o’r drosedd.

(4Mae tystysgrif bod person wedi ei gynnwys ar restr wahardd(11) (at ddibenion adran 117(1)(c) o’r Ddeddf), a ddyroddir gan y person sy’n gyfrifol am gynnal y rhestr, yn dystiolaeth bendant o’r ffaith honno.

(5Mae tystysgrif a ddyroddir gan gorff perthnasol(12) (at ddibenion adran 117(1)(d) o’r Ddeddf) ei fod wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer yn dystiolaeth bendant o’r dyfarniad hwnnw.

Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau apelau cofrestru

9.—(1Rhaid cynnal gwrandawiad gerbron panel apelau cofrestru yn gyhoeddus, gyda’r eithriadau a ganlyn.

(2Rhaid i’r panel apelau cofrestru eithrio’r cyhoedd o unrhyw ran o wrandawiad sy’n ymwneud ag ystyried iechyd corfforol neu iechyd meddwl yr apelydd, oni bai—

(a)bod yr apelydd yn gofyn i ran o’r gwrandawiad gael ei chynnal yn gyhoeddus, a

(b)bod y panel apelau cofrestru yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.

(3Caiff y panel apelau cofrestru eithrio’r cyhoedd o’r gwrandawiad cyfan neu o ran ohono os yw’n ystyried bod amgylchiadau’r achos yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus.

(4Caiff y panel apelau cofrestru eithrio person o wrandawiad os yw’n ystyried bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.

Achosion apelau cofrestru: gwysion tystion

10.—(1At ddibenion achosion apelau cofrestru—

(a)caiff panel apelau cofrestru weinyddu llwon,

(b)caiff GCC ohono ei hun ddyroddi gwŷs tyst sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad i ddarparu gwybodaeth neu i gyflwyno unrhyw ddogfen, a chaiff unrhyw barti arall ofyn i GCC ddyroddi gwŷs o’r fath.

(2Nid yw unrhyw berson i gael ei orfodi gan wŷs a ddyroddir o dan baragraff (1)(b) i gyflwyno unrhyw ddogfen na allai’r person hwnnw gael ei orfodi i’w chyflwyno mewn achos sifil yng Nghymru a Lloegr.

Mesurau arbennig ar gyfer tystion etc. mewn gwrandawiadau apelau cofrestru

11.—(1Mae hawlogaeth gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad apelau cofrestru, gan gynnwys yr apelydd, i gael mesurau arbennig—

(a)os yw’r person o dan 18 oed, neu

(b)os yw’r panel apelau cofrestru yn ystyried bod y dystiolaeth a roddir gan y person yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd—

(i)anabledd corfforol, anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, salwch neu gyflwr iechyd neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu ar alcohol, neu

(ii)ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth.

(2Wrth benderfynu a yw tystiolaeth a roddir gan berson yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd mater a bennir ym mharagraff (1)(b), rhaid i’r panel apelau cofrestru ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.

(3Caiff panel apelau cofrestru gynnig mesurau arbennig i berson nad oes hawlogaeth ganddo i’w cael o dan baragraff (1) os yw’n meddwl y byddai gwneud hynny er budd y cyhoedd.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “special measures” (“mesurau arbennig”) yw unrhyw fesurau arbennig y mae’r panel apelau cofrestru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben gwella ansawdd y dystiolaeth a roddir gan berson yn y gwrandawiad.

(5Wrth ystyried pa fesur arbennig yn benodol a all fod yn briodol, rhaid i’r panel apelau cofrestru ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.

(6Caiff person sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’r galluedd i wneud hynny wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.

(7Dyfernir a oes gan berson alluedd at ddibenion paragraff (6) yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005(13).

(8Dim ond os yw’r panel apelau cofrestru wedi ei fodloni nad yw tystiolaeth y plentyn yn debygol o fod o ansawdd llai o ganlyniad i absenoldeb y mesur neu’r mesurau arbennig y mae’r plentyn yn dymuno eu gwrthod y caiff person sydd o dan 18 oed (“plentyn”) (“child”) wrthod derbyn mesurau arbennig.

(9Wrth gyrraedd safbwynt fel sy’n ofynnol gan baragraff (8), rhaid i’r panel apelau cofrestru ystyried—

(a)oedran ac aeddfedrwydd y plentyn,

(b)gallu’r plentyn i ddeall canlyniadau rhoi tystiolaeth heb y mesur neu’r mesurau arbennig,

(c)lles pennaf y plentyn,

(d)safbwyntiau rhieni’r plentyn neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(e)y berthynas (os oes perthynas) rhwng y plentyn ac unrhyw barti yn yr achos,

(f)natur ac amgylchiadau honedig y mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef, ac

(g)unrhyw ffactor arall y mae’r panel yn meddwl ei fod yn berthnasol.

(10Rhaid i banel apelau cofrestru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fesur arbennig y mae wedi ei gynnig gael ei weithredu neu ei ddarparu, ac eithrio pan fo gan y person o dan sylw hawlogaeth i wrthod y mesur arbennig a’i fod wedi gwneud hynny.

Gwrandawiadau apelau cofrestru: y weithdrefn

12.—(1Mae hawlogaeth gan apelydd i gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad apelau cofrestru gan—

(a)cyfreithiwr neu gwnsler,

(b)cynrychiolydd o unrhyw sefydliad proffesiynol, neu

(c)os yw’r panel apelau cofrestru yn cytuno, unrhyw berson arall.

(2Mae hawlogaeth gan y partïon i roi tystiolaeth.

(3Ni chaiff person sy’n cynrychioli neu’n cynghori’r apelydd roi tystiolaeth.

(4Caniateir bwrw ymlaen â gwrandawiad apelau cofrestru hyd yn oed os nad yw’r apelydd yn bresennol ac os nad yw wedi ei gynrychioli, os yw’r panel apelau cofrestru wedi ei fodloni bod pob ymdrech resymol wedi ei gwneud i roi hysbysiad o’r gwrandawiad i’r apelydd.

Rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru

13.—(1Rhaid i GCC wneud rheolau ynghylch y weithdrefn sydd i gael ei dilyn mewn gwrandawiad apelau cofrestru (“rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru”) (“registration appeals hearings rules”).

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt roi canllawiau i GCC ynghylch cynnwys rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru, gan gynnwys canllawiau ar ffurf rheolau enghreifftiol, a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan is-baragraff (a).

(3Rhaid i GCC, wrth wneud rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(a).

(4Pan fo canllawiau wedi eu rhoi ar ffurf rheolau enghreifftiol rhaid i GCC, ar ôl gwneud unrhyw reolau gwrandawiadau apelau cofrestru, gyhoeddi dogfen sy’n esbonio unrhyw wyriadau sylweddol oddi ar y rheolau enghreifftiol neu unrhyw ychwanegiadau sylweddol atynt.

(5Mae pŵer GCC i wneud rheolau gwrandawiadau apelau cofrestru yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.

RHAN 3Paneli Addasrwydd i Ymarfer

Dehongli Rhan 3

14.  Yn y Rhan hon—

ystyr “achos” (“case”) yw achos sy’n ymwneud ag achos addasrwydd i ymarfer neu achos gorchmynion interim (yn ôl y digwydd) gerbron panel addasrwydd i ymarfer;

ystyr “achos addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise proceedings”) yw achos gerbron panel addasrwydd i ymarfer y mae Pennod 3 neu Bennod 5(14) o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;

ystyr “achos gorchmynion interim” (“interim orders proceedings”) yw achos gerbron panel addasrwydd i ymarfer y mae Pennod 4(15) o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;

ystyr “gwrandawiad addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel addasrwydd i ymarfer mewn achos addasrwydd i ymarfer;

ystyr “gwrandawiad gorchmynion interim” (“interim orders hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel addasrwydd i ymarfer mewn achos gorchmynion interim;

ystyr “partïon” (“parties”) yw’r person cofrestredig y mae’r achos addasrwydd i ymarfer neu’r achos gorchmynion interim yn ymwneud ag ef a GCC (neu eu cynrychiolwyr);

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw’r person cofrestredig(16) y mae’r atgyfeiriad i’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

Amcanion cyffredinol paneli addasrwydd i ymarfer

15.—(1Amcanion cyffredinol panel addasrwydd i ymarfer wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim yw—

(a)diogelu, hybu a chynnal iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd;

(b)hybu a chynnal—

(i)hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol, a

(ii)safon uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol; ac

(c)ymdrin â’r achos yn deg ac yn gyfiawn.

(2Mae ymdrin ag achos yn deg ac yn gyfiawn yn cynnwys—

(a)ymdrin â’r achos mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos, cymhlethdod y materion, y costau disgwyliedig ac adnoddau’r partïon;

(b)osgoi ffurfioldeb diangen a cheisio sicrhau hyblygrwydd yn yr achosion;

(c)sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, fod y partïon yn gallu cymryd rhan lawn yn yr achosion;

(d)defnyddio unrhyw arbenigedd arbennig y panel neu GCC yn effeithiol;

(e)osgoi oedi, i’r graddau y mae hynny’n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion.

Dyletswydd y partïon mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac mewn achosion gorchmynion interim

16.—(1Dyletswydd y partïon yw—

(a)cydweithredu â’r panel addasrwydd i ymarfer, a

(b)ei helpu i gyflawni ei amcan o dan reoliad 15(1)(c).

(2Os yw’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei fodloni bod person wedi torri’r ddyletswydd ym mharagraff (1), caiff ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Achosion addasrwydd i ymarfer: pan nad oes angen gwrandawiad

17.—(1Caiff panel addasrwydd i ymarfer ddyfarnu ar achosion addasrwydd i ymarfer, ac eithrio achosion o dan adran 151 o’r Ddeddf (“achosion adolygu”) heb wrandawiad—

(a)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achosion heb wrandawiad,

(b)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r penderfyniad terfynol sydd i gael ei wneud gan y panel (gan gynnwys manylion am y penderfyniad hwnnw megis y cyfnod y mae gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer neu unrhyw amodau sydd i gael eu gosod ar gofrestriad y person cofrestredig),

(c)os gwneir datganiad ysgrifenedig o ffeithiau y cytunwyd arnynt gan—

(i)GCC,

(ii)y person cofrestredig, a

(iii)y panel, a

(d)os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.

(2Caiff panel addasrwydd i ymarfer ddyfarnu ar achosion adolygu o dan adran 151 o’r Ddeddf heb wrandawiad—

(a)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar achosion heb wrandawiad,

(b)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r penderfyniad terfynol sydd i gael ei wneud gan y panel, y mae rhaid iddo fod yn un a bennir ym mharagraff (3), ac

(c)os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.

(3Y penderfyniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw—

(a)yn achos adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig sydd wedi cytuno ar ymgymeriadau(17), penderfyniad gan y panel addasrwydd i ymarfer i gytuno â’r person fod yr ymgymeriadau yn parhau i gael effaith heb unrhyw amrywiadau,

(b)yn achos adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol(18), penderfyniad gan y panel i gadarnhau’r gorchymyn cofrestru amodol heb unrhyw amrywiadau,

(c)yn achos adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro(19), penderfyniad gan y panel i gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro heb unrhyw amrywiadau.

(4Pan ddyfernir ar achosion heb wrandawiad yn unol â pharagraff (1) neu (2)—

(a)caiff cadeirydd y panel wneud penderfyniad terfynol y panel;

(b)ar unrhyw adeg yn ystod yr achosion caiff y panel neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal.

(5Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad addasrwydd i ymarfer.

Achosion gorchmynion interim: pan nad oes angen gwrandawiad

18.—(1Caiff panel addasrwydd i ymarfer ddyfarnu ar achosion gorchmynion interim heb wrandawiad—

(a)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achosion heb wrandawiad,

(b)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r gorchymyn interim sydd i gael ei wneud gan y panel, neu (mewn achos pan fo’r panel yn ystyried adolygiad o orchymyn interim) i’r penderfyniad a bennir yn adran 147(1)(b) i (e) o’r Ddeddf sydd i gael ei wneud gan y panel, gan gynnwys—

(i)y cyfnod y mae’r gorchymyn interim i gael effaith ar ei gyfer, a

(ii)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, yr amodau sydd i gael eu gosod ar gofrestriad y person cofrestredig â GCC,

(c)os gwneir datganiad ysgrifenedig o ffeithiau y cytunwyd arnynt gan—

(i)GCC,

(ii)y person cofrestredig, a

(iii)y panel, a

(d)os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.

(2Pan ddyfernir ar achosion heb wrandawiad yn unol â pharagraff (1)—

(a)caiff cadeirydd y panel wneud neu gadarnhau gorchymyn interim;

(b)ar unrhyw adeg yn ystod yr achosion caiff y panel neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal.

(3Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel addasrwydd i ymarfer eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad gorchmynion interim.

Rheoli achos mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac mewn achosion gorchmynion interim

19.—(1Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rheoli achos rhagarweiniol mewn perthynas ag achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim.

(2Caiff y rheolau wneud darpariaeth yn benodol—

(a)mai panel addasrwydd i ymarfer neu berson a benodir o dan y rheolau sy’n gwneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol;

(b)ynghylch cymwysterau ar gyfer penodiad o’r fath;

(c)ynghylch adolygiadau achos;

(d)ynghylch cyfarwyddydau y caniateir iddynt gael eu rhoi;

(e)ynghylch cofnodion cyfarwyddydau;

(f)ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddydau (a gaiff gynnwys pŵer panel addasrwydd i ymarfer i ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol).

(3Pan fo’r rheolau yn darparu i berson ac eithrio’r panel addasrwydd i ymarfer wneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol, rhaid iddynt ddarparu i’r person hwnnw—

(a)gweithredu’n annibynnol ar y partïon, a

(b)arfer unrhyw bŵer i roi cyfarwyddydau at ddiben sicrhau bod yr apêl yn cael ei chynnal yn gyfiawn, yn ddiymdroi ac yn effeithiol yn unig.

(4Mae amcan cyffredinol panel addasrwydd i ymarfer o dan reoliad 15(1)(c) (i ymdrin ag achosion yn deg ac yn gyfiawn) hefyd yn gymwys i berson o’r fath.

(5Ni chaiff rheolau a wneir o dan y rheoliad hwn ddarparu ar gyfer dyfarnu costau.

Tystiolaeth mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac mewn achosion gorchmynion interim

20.—(1Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer mewn achosion addasrwydd i ymarfer wneud canfyddiad ffeithiol yn unol â phwysau tebygolrwydd.

(2Nid yw tystiolaeth yn dderbyniol mewn achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim oni bai—

(a)y byddai’n dderbyniol mewn achosion sifil yng Nghymru a Lloegr, neu

(b)bod y panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried bod y dystiolaeth yn berthnasol, a’i bod yn deg derbyn y dystiolaeth honno.

(3Mae tystysgrif sydd wedi ei llofnodi gan swyddog cymwys mewn llys o unrhyw awdurdodaeth bod person wedi ei euogfarnu o drosedd neu, yn yr Alban, euogfarn gryno, yn dystiolaeth bendant o’r drosedd.

(4Mae tystysgrif bod person wedi ei gynnwys ar restr wahardd (at ddibenion adran 117(1)(c) o’r Ddeddf), a ddyroddir gan y person sy’n gyfrifol am gynnal y rhestr, yn dystiolaeth bendant o’r ffaith honno.

(5Mae tystysgrif a ddyroddir gan gorff perthnasol (at ddibenion adran 117(1)(d) o’r Ddeddf) ei fod wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer yn dystiolaeth bendant o’r dyfarniad hwnnw.

Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau addasrwydd i ymarfer

21.—(1Rhaid cynnal gwrandawiad addasrwydd i ymarfer yn gyhoeddus, gyda’r eithriadau a ganlyn.

(2Rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer eithrio’r cyhoedd o unrhyw ran o wrandawiad sy’n ymwneud ag ystyried iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig, oni bai—

(a)bod y person cofrestredig yn gofyn i ran o’r gwrandawiad gael ei chynnal yn gyhoeddus, a

(b)bod y panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.

(3Caiff y panel addasrwydd i ymarfer eithrio’r cyhoedd o’r gwrandawiad cyfan neu o ran ohono os yw’n ystyried bod amgylchiadau’r achos yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus.

(4Caiff y panel addasrwydd i ymarfer eithrio person o wrandawiad os yw’n ystyried bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.

Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau gorchmynion interim

22.—(1Rhaid eithrio’r cyhoedd o wrandawiad gorchmynion interim oni bai—

(a)bod y person cofrestredig yn gofyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus, a

(b)bod y panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.

(2Pan gynhelir gwrandawiad yn gyhoeddus, caiff y panel addasrwydd i ymarfer eithrio person o’r gwrandawiad os yw’n meddwl bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.

Achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim: gwysion tystion

23.—(1At ddibenion achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim—

(a)caiff panel addasrwydd i ymarfer weinyddu llwon,

(b)caiff GCC ohono ei hun ddyroddi gwŷs tyst sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad i ddarparu gwybodaeth neu i gyflwyno unrhyw ddogfen, a chaiff unrhyw barti arall ofyn i GCC ddyroddi gwŷs o’r fath.

(2Nid yw unrhyw berson i gael ei orfodi gan wŷs a ddyroddir o dan baragraff (1)(b) i gyflwyno unrhyw ddogfen na allai’r person hwnnw gael ei orfodi i’w chyflwyno mewn achos sifil yng Nghymru a Lloegr.

Mesurau arbennig ar gyfer tystion etc. mewn gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer ac mewn gwrandawiadau gorchmynion interim

24.—(1Mae hawlogaeth gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu wrandawiad gorchmynion interim, gan gynnwys y person cofrestredig, i gael mesurau arbennig—

(a)os yw’r person o dan 18 oed, neu

(b)os yw’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried bod y dystiolaeth a roddir gan y person yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd—

(i)anabledd corfforol, anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, salwch neu gyflwr iechyd neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu ar alcohol, neu

(ii)ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth.

(2Mae gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu mewn gwrandawiad gorchmynion interim hawlogaeth i gael mesurau arbennig hefyd os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol a bod y person yn ddioddefwr honedig.

(3Wrth benderfynu a yw tystiolaeth a roddir gan berson yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd mater a bennir ym mharagraff (1)(b), rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.

(4Caiff panel addasrwydd i ymarfer gynnig mesurau arbennig i berson nad oes hawlogaeth ganddo i’w cael o dan baragraff (1) neu (2), os yw’n meddwl bod gwneud hynny er budd y cyhoedd.

(5Ystyr “special measures” (“mesurau arbennig”) yw unrhyw fesurau arbennig y mae’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben gwella ansawdd y dystiolaeth a roddir gan berson yn y gwrandawiad.

(6Wrth ystyried pa fesurau arbennig yn benodol a all fod yn briodol, rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.

(7Caiff person sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’r galluedd i wneud hynny wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.

(8Dyfernir a oes gan berson alluedd at ddibenion paragraff (7) yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

(9Dim ond os yw’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei fodloni nad yw tystiolaeth y plentyn yn debygol o fod o ansawdd llai o ganlyniad i absenoldeb y mesur neu’r mesurau arbennig y mae’r plentyn yn dymuno eu gwrthod y caiff person sydd o dan 18 oed (“plentyn”) (“child”) wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.

(10Wrth gyrraedd safbwynt fel sy’n ofynnol gan baragraff (9), rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer ystyried—

(a)oedran ac aeddfedrwydd y plentyn,

(b)gallu’r plentyn i ddeall canlyniadau rhoi tystiolaeth heb y mesur neu’r mesurau arbennig,

(c)lles pennaf y plentyn,

(d)safbwyntiau rhieni’r plentyn neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(e)y berthynas (os oes perthynas) rhwng y plentyn ac unrhyw barti yn yr achos,

(f)natur ac amgylchiadau honedig y mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef, ac

(g)unrhyw ffactor arall y mae’r panel yn meddwl ei fod yn berthnasol.

(11Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fesur arbennig y mae wedi ei gynnig gael ei weithredu neu ei ddarparu, ac eithrio pan fo gan y person o dan sylw hawlogaeth i wrthod y mesur arbennig a’i fod wedi gwneud hynny.

(12Os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol, ni chaiff y person cofrestredig groesholi dioddefwr honedig yn bersonol, oni bai—

(a)bod y dioddefwr honedig wedi cydsynio i hyn, a

(b)nad yw’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried bod ffeithiau honedig y mater yn gyfystyr â, neu’n debygol o fod yn gyfystyr â, throsedd rywiol o dan adran 62 o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999(20).

(13Os yw paragraff (12) yn golygu nad oes caniatâd gan y person cofrestredig i groesholi person yn bersonol, rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer roi cyfle digonol i’r person cofrestredig i benodi cynrychiolydd i wneud hynny.

(14Os nad yw’r person cofrestredig yn penodi cynrychiolydd o dan baragraff (13), ond ei fod yn dymuno bod dioddefwr honedig yn cael ei groesholi, rhaid i GCC benodi cynrychiolydd i groesholi’r person ar ran y person cofrestredig.

Gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer a gwrandawiadau gorchmynion interim: y weithdrefn

25.—(1Mae hawlogaeth gan berson cofrestredig i gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu wrandawiad gorchmynion interim gan—

(a)cyfreithiwr neu gwnsler,

(b)cynrychiolydd o unrhyw sefydliad proffesiynol, neu

(c)os yw’r panel addasrwydd i ymarfer yn cytuno, unrhyw berson arall.

(2Mae hawlogaeth gan y partïon i roi tystiolaeth.

(3Ni chaiff person sy’n cynrychioli neu’n cynghori’r person cofrestredig roi tystiolaeth.

(4Caniateir bwrw ymlaen â gwrandawiad addasrwydd i ymarfer neu wrandawiad gorchmynion interim hyd yn oed os nad yw’r person cofrestredig yn bresennol ac os nad yw wedi ei gynrychioli, os yw’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei fodloni bod pob ymdrech resymol wedi ei gwneud i roi hysbysiad o’r gwrandawiad i’r person.

Rheolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer a gwrandawiadau gorchmynion interim

26.—(1Rhaid i GCC wneud rheolau ynghylch y weithdrefn sydd i gael ei dilyn mewn—

(a)gwrandawiad addasrwydd i ymarfer (“rheolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer”) (“fitness to practise hearings rules”), a

(b)gwrandawiad gorchmynion interim (“addasrwydd i ymarfer: rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim”) (“fitness to practise: interim orders hearings rules”).

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt roi canllawiau (gan gynnwys canllawiau ar ffurf rheolau enghreifftiol) i GCC ynghylch cynnwys—

(i)rheolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer, a

(ii)addasrwydd i ymarfer: rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim, a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan is-baragraff (a).

(3Rhaid i GCC, wrth wneud unrhyw reolau yn unol â pharagraff (1), roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(a).

(4Pan fo canllawiau wedi eu rhoi ar ffurf rheolau enghreifftiol rhaid i GCC, ar ôl gwneud unrhyw reolau yn unol â pharagraff (1), gyhoeddi dogfen sy’n esbonio unrhyw wyriadau sylweddol oddi ar y rheolau enghreifftiol neu unrhyw ychwanegiadau atynt.

(5Mae pŵer GCC i wneud rheolau o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.

RHAN 4Paneli gorchmynion interim

Dehongli Rhan 4

27.  Yn y Rhan hon—

ystyr “achos” (“case”) yw achos sy’n ymwneud ag achos interim gerbron panel gorchmynion interim;

ystyr “achos gorchmynion interim” (“interim orders proceedings”) yw achos gerbron panel gorchmynion interim y mae Pennod 4(21) o Ran 6 o’r Ddeddf yn gymwys iddo;

ystyr “gwrandawiad gorchmynion interim” (“interim orders hearing”) yw gwrandawiad gerbron panel gorchmynion interim mewn achos gorchmynion interim;

ystyr “partïon” (“parties”) yw’r person cofrestredig y mae achos gorchmynion interim yn ymwneud ag ef a GCC (neu eu cynrychiolwyr);

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw’r person cofrestredig(22) y mae’r atgyfeiriad i’r panel gorchmynion interim wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

Amcanion cyffredinol paneli gorchmynion interim

28.—(1Amcanion cyffredinol panel gorchmynion interim wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achosion gorchmynion interim yw—

(a)diogelu, hybu a chynnal iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd;

(b)hybu a chynnal—

(i)hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol, a

(ii)safon uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol; ac

(c)ymdrin â’r achos yn deg ac yn gyfiawn.

(2Mae ymdrin ag achos yn deg ac yn gyfiawn yn cynnwys—

(a)ymdrin â’r achos mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos, cymhlethdod y materion, y costau disgwyliedig ac adnoddau’r partïon;

(b)osgoi ffurfioldeb diangen a cheisio sicrhau hyblygrwydd yn yr achosion;

(c)sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, fod y partïon yn gallu cymryd rhan lawn yn yr achosion;

(d)defnyddio unrhyw arbenigedd arbennig y panel neu GCC yn effeithiol;

(e)osgoi oedi, i’r graddau y mae hynny’n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion.

Dyletswydd y partïon mewn achosion gorchmynion interim

29.—(1Dyletswydd y partïon yw—

(a)cydweithredu â’r panel gorchmynion interim, a

(b)ei helpu i gyflawni ei amcan o dan reoliad 28(1)(c).

(2Os yw’r panel gorchmynion interim wedi ei fodloni bod person wedi torri’r ddyletswydd ym mharagraff (1), caiff ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Achosion gorchmynion interim: pan nad oes angen gwrandawiad

30.—(1Caiff panel gorchmynion interim ddyfarnu ar achosion gorchmynion interim heb wrandawiad—

(a)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig y caniateir dyfarnu ar yr achosion heb wrandawiad,

(b)os yw’r partïon yn cytuno’n ysgrifenedig i’r gorchymyn interim sydd i gael ei wneud gan y panel, neu (mewn achos pan fo’r panel yn ystyried yr adolygiad o orchymyn interim) i’r penderfyniad a bennir yn adran 147(1)(b) i (e) o’r Ddeddf sydd i gael ei wneud gan y panel, gan gynnwys—

(i)y cyfnod y mae’r gorchymyn interim i gael effaith ar ei gyfer, a

(ii)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, yr amodau sydd i gael eu gosod ar gofrestriad y person cofrestredig â GCC,

(c)os gwneir datganiad ysgrifenedig o ffeithiau y cytunwyd arnynt gan—

(i)GCC,

(ii)y person cofrestredig, a

(iii)y panel, a

(d)os yw’r panel yn penderfynu nad oes angen cynnal gwrandawiad.

(2Pan ddyfernir ar achosion yn unol â pharagraff (1) heb wrandawiad —

(a)caiff cadeirydd y panel wneud neu gadarnhau gorchymyn interim;

(b)ar unrhyw adeg yn ystod yr achosion caiff y panel neu gadeirydd y panel ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal.

(3Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y camau y caiff y partïon neu banel gorchmynion interim eu cymryd neu y mae rhaid i’r partïon neu banel gorchmynion interim eu cymryd er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad o ran a oes angen cynnal gwrandawiad gorchmynion interim.

Rheoli achos mewn achosion gorchmynion interim

31.—(1Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rheoli achos rhagarweiniol mewn perthynas ag achosion gorchmynion interim.

(2Caiff y rheolau wneud darpariaeth yn benodol—

(a)mai panel gorchmynion interim neu berson a benodir o dan y rheolau sy’n gwneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol;

(b)ynghylch cymwysterau ar gyfer penodiad o’r fath;

(c)ynghylch adolygiadau achos;

(d)ynghylch cyfarwyddydau y caniateir iddynt gael eu rhoi;

(e)ynghylch cofnodion cyfarwyddydau,

(f)ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddydau (a gaiff gynnwys pŵer panel gorchmynion interim i ddod i unrhyw gasgliad y mae’n ystyried ei fod yn briodol).

(3Pan fo’r rheolau yn darparu i berson ac eithrio’r panel gorchmynion interim wneud y gwaith rheoli achos rhagarweiniol, rhaid iddynt ddarparu i’r person hwnnw—

(a)gweithredu’n annibynnol ar y partïon, a

(b)arfer unrhyw bŵer i roi cyfarwyddydau at ddiben sicrhau bod yr apêl yn cael ei chynnal yn gyfiawn, yn ddiymdroi ac yn effeithiol yn unig.

(4Mae amcan cyffredinol panel gorchmynion interim o dan reoliad 28(1)(c) (i ymdrin ag achosion yn deg ac yn gyfiawn) hefyd yn gymwys i berson o’r fath.

(5Ni chaiff rheolau a wneir o dan y rheoliad hwn ddarparu ar gyfer dyfarnu costau.

Tystiolaeth mewn achosion gorchmynion interim

32.—(1Nid yw tystiolaeth yn dderbyniol mewn achosion gorchmynion interim oni bai—

(a)y byddai’n dderbyniol mewn achosion sifil yng Nghymru a Lloegr, neu

(b)bod y panel gorchmynion interim yn ystyried bod y dystiolaeth yn berthnasol, a’i bod yn deg derbyn y dystiolaeth honno.

(2Mae tystysgrif sydd wedi ei llofnodi gan swyddog cymwys mewn llys o unrhyw awdurdodaeth bod person wedi ei euogfarnu o drosedd neu, yn yr Alban, euogfarn gryno, yn dystiolaeth bendant o’r drosedd.

(3Mae tystysgrif bod person wedi ei gynnwys ar restr wahardd (at ddibenion adran 117(1)(c) o’r Ddeddf), a ddyroddir gan y person sy’n gyfrifol am gynnal y rhestr, yn dystiolaeth bendant o’r ffaith honno.

(4Mae tystysgrif a ddyroddir gan gorff perthnasol (at ddibenion adran 117(1)(d) o’r Ddeddf) ei fod wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer yn dystiolaeth bendant o’r dyfarniad hwnnw.

Eithrio’r cyhoedd o wrandawiadau gorchmynion interim

33.—(1Rhaid eithrio’r cyhoedd o wrandawiad gorchmynion interim oni bai—

(a)bod y person cofrestredig yn gofyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus, a

(b)bod y panel gorchmynion interim yn ystyried na fyddai gwneud hynny yn groes i fudd y cyhoedd.

(2Pan gynhelir gwrandawiad yn gyhoeddus, caiff y panel gorchmynion interim eithrio person o’r gwrandawiad os yw’n meddwl bod ymddygiad y person yn debygol o darfu ar y gwrandawiad.

Achosion gorchmynion interim: gwysion tystion

34.—(1At ddibenion achosion gorchmynion interim—

(a)caiff panel gorchmynion interim weinyddu llwon,

(b)caiff GCC ohono ei hun ddyroddi gwŷs tyst sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad i ddarparu gwybodaeth neu i gyflwyno unrhyw ddogfen, a chaiff unrhyw barti arall ofyn i GCC ddyroddi gwŷs o’r fath.

(2Nid yw unrhyw berson i gael ei orfodi gan wŷs a ddyroddir o dan baragraff (1)(b) i gyflwyno unrhyw ddogfen na allai’r person hwnnw gael ei orfodi i’w chyflwyno mewn achos sifil yng Nghymru a Lloegr.

Mesurau arbennig ar gyfer tystion etc. mewn gwrandawiadau gorchmynion interim

35.—(1Mae hawlogaeth gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad gorchmynion interim, gan gynnwys y person cofrestredig, i gael mesurau arbennig—

(a)os yw’r person o dan 18 oed, neu

(b)os yw’r panel gorchmynion interim yn ystyried bod y dystiolaeth a roddir gan y person yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd—

(i)anabledd corfforol, anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, salwch neu gyflwr iechyd neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu ar alcohol, neu

(ii)ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth.

(2Mae gan berson sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad gorchmynion interim hawlogaeth i gael mesurau arbennig os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol a bod y person yn ddioddefwr honedig.

(3Wrth benderfynu a yw tystiolaeth a roddir gan berson yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd mater a bennir ym mharagraff (1)(b), rhaid i’r panel gorchmynion interim ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.

(4Caiff panel gorchmynion interim gynnig mesurau arbennig i berson nad oes hawlogaeth ganddo i’w cael o dan baragraff (1) neu (2), os yw’n meddwl bod gwneud hynny er budd y cyhoedd.

(5Ystyr “mesurau arbennig” (“special measures”) yw unrhyw fesurau arbennig y mae’r panel gorchmynion interim yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben gwella ansawdd y dystiolaeth a roddir gan berson yn y gwrandawiad.

(6Wrth ystyried pa fesurau arbennig yn benodol a all fod yn briodol, rhaid i’r panel gorchmynion interim ystyried safbwyntiau’r person o dan sylw.

(7Caiff person sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’r galluedd i wneud hynny wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.

(8Dyfernir a oes gan berson alluedd at ddibenion paragraff (7) yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

(9Dim ond os yw’r panel gorchmynion interim wedi ei fodloni nad yw tystiolaeth y plentyn yn debygol o fod o ansawdd llai oherwydd absenoldeb y mesur neu’r mesurau arbennig y mae’r plentyn yn dymuno eu gwrthod y caiff person sydd o dan 18 oed (“plentyn”) (“child”) wrthod derbyn mesurau arbennig neu unrhyw fesur arbennig penodol.

(10Wrth gyrraedd safbwynt fel sy’n ofynnol gan baragraff (9), rhaid i’r panel gorchmynion interim ystyried—

(a)oedran ac aeddfedrwydd y plentyn,

(b)gallu’r plentyn i ddeall canlyniadau rhoi tystiolaeth heb y mesur neu’r mesurau arbennig,

(c)lles pennaf y plentyn,

(d)safbwyntiau rhieni’r plentyn neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(e)y berthynas (os oes perthynas) rhwng y plentyn ac unrhyw barti yn yr achos,

(f)natur ac amgylchiadau honedig y mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef, ac

(g)unrhyw ffactor arall y mae’r panel yn meddwl ei fod yn berthnasol.

(11Rhaid i banel gorchmynion interim roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fesur arbennig y mae wedi ei gynnig gael ei weithredu neu ei ddarparu, ac eithrio pan fo gan y person o dan sylw hawlogaeth i wrthod y mesur arbennig a’i fod wedi gwneud hynny.

(12Os yw’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef o natur rywiol, ni chaiff y person cofrestredig groesholi dioddefwr honedig yn bersonol, oni bai—

(a)bod y dioddefwr honedig wedi cydsynio i hyn, a

(b)nad yw’r panel gorchmynion interim yn ystyried bod ffeithiau honedig y mater yn gyfystyr â, neu’n debygol o fod yn gyfystyr â, throsedd rywiol o dan adran 62 o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999.

(13Os yw paragraff (12) yn golygu nad oes caniatâd gan y person cofrestredig i groesholi person yn bersonol, rhaid i’r panel gorchmynion interim roi cyfle digonol i’r person cofrestredig i benodi cynrychiolydd i wneud hynny.

(14Os nad yw’r person cofrestredig yn penodi cynrychiolydd o dan baragraff (13), ond ei fod yn dymuno bod dioddefwr honedig yn cael ei groesholi, rhaid i GCC benodi cynrychiolydd i groesholi’r person ar ran y person cofrestredig.

Gwrandawiadau gorchmynion interim: y weithdrefn

36.—(1Mae hawlogaeth gan berson cofrestredig i gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad gorchmynion interim gan—

(a)cyfreithiwr neu gwnsler,

(b)cynrychiolydd o unrhyw sefydliad proffesiynol, neu

(c)os yw’r panel gorchmynion interim yn cytuno, unrhyw berson arall.

(2Mae hawlogaeth gan y partïon i roi tystiolaeth.

(3Ni chaiff person sy’n cynrychioli neu’n cynghori’r person cofrestredig roi tystiolaeth.

(4Caniateir bwrw ymlaen â gwrandawiad gorchmynion interim hyd yn oed os nad yw’r person cofrestredig yn bresennol ac os nad yw wedi ei gynrychioli, os yw’r panel gorchmynion interim wedi ei fodloni bod pob ymdrech resymol wedi ei gwneud i roi hysbysiad o’r gwrandawiad i’r person.

Rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim

37.—(1Rhaid i GCC wneud rheolau ynghylch y weithdrefn sydd i gael ei dilyn mewn gwrandawiadau gorchmynion interim (“rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim”) (“interim orders hearings rules”).

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt roi canllawiau (gan gynnwys canllawiau ar ffurf rheolau enghreifftiol) i GCC ynghylch cynnwys rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim, a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan is-baragraff (a).

(3Rhaid i GCC, wrth wneud rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(a).

(4Pan fo canllawiau wedi eu rhoi ar ffurf rheolau enghreifftiol rhaid i GCC, ar ôl gwneud unrhyw reolau gwrandawiadau gorchmynion interim, gyhoeddi dogfen sy’n esbonio unrhyw wyriadau sylweddol oddi ar y rheolau enghreifftiol neu unrhyw ychwanegiadau atynt.

(5Mae pŵer GCC i wneud rheolau gwrandawiadau gorchmynion interim yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

15 Tachwedd 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Sefydlwyd Cyngor Gofal Cymru (“y Cyngor”) gan Ran 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 at ddibenion hybu safonau ymddygiad ac ymarfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol a hybu safonau uchel yn eu hyfforddiant.

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ailenwi’r Cyngor yn Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”), yn ailddatgan ac yn addasu swyddogaethau gwreiddiol GCC ac yn rhoi swyddogaethau ychwanegol iddo.

Mae adran 174(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau er mwyn sefydlu paneli apelau cofrestru, paneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim (“y paneli”). Mae adran 174(6) a (7) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau ynghylch, er enghraifft, penodi personau yn aelodau panel a datgan a chofrestru buddiannau preifat aelodau o’r fath. Mae adran 174(8) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i GCC i wneud rheolau ynghylch cyfansoddiad a gweithrediad y paneli ac yn darparu bod rheolau o’r fath yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 175 o’r Ddeddf (sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer achosion ac mewn cysylltiad ag achosion sydd wedi eu dwyn o dan y Ddeddf hon gerbron y paneli).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion gerbron paneli apelau cofrestru.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion gerbron paneli addasrwydd i ymarfer.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion gerbron paneli gorchmynion interim.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

1989 p. 41 (“Deddf 1989”). Mae’r diffiniad yn adran 105 o Ddeddf 1989 yn cyfeirio at ystyr “parental responsibility” a nodir yn adran 3 o’r Ddeddf honno.

(4)

Gweler Pennod 3 o Ran 6 o’r Ddeddf (gwaredu achosion addasrwydd i ymarfer). Mae paneli addasrwydd i ymarfer yn gwneud penderfyniadau ynghylch a oes amhariad ar addasrwydd person i ymarfer ac yn penderfynu pa sancsiynau sy’n briodol ar ôl ystyried achos.

(5)

Gweler Pennod 5 o Ran 6 o’r Ddeddf (achosion adolygu), yn benodol adran 151 o’r Ddeddf (achosion adolygu). Mae’r panel addasrwydd i ymarfer yn gweinyddu’r system ar gyfer adolygu unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth allu person i ymarfer, gorchmynion atal dros dro ac ymgymeriadau sydd wedi eu gosod neu y cytunwyd arnynt (yn ôl y digwydd) mewn cysylltiad â’r person yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer.

(6)

Achos adfer yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer a arweiniodd at orchymyn sy’n dileu cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw o’r gofrestr (a gynhelir o dan adran 80 o’r Ddeddf) o dan adran 138(9) (gwarediad yn dilyn canfyddiad o amhariad), adran 152(8)(e) (penderfyniadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau), adran 153(9)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion cofrestru amodol) ac adran 154(8)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion atal dros dro).

(7)

Gweler adran 99 o’r Ddeddf (adolygu ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer). Pan gaiff person, yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer, a arweiniodd at orchymyn sy’n dileu cofnod sy’n ymwneud â pherson o’r gofrestr, a bod cyfarwyddyd o dan adran 98(4) o’r Ddeddf wedi ei wneud gan banel apelau cofrestru i atal dros dro hawl person i wneud cais i adfer, wneud cais am adolygiad o’r ataliad dros dro hwnnw o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 99(1) o’r Ddeddf.

(8)

Ystyried apelau a wneir o dan adran 101 o’r Ddeddf yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd (o dan adran 83 (gwrthod cais person i gofrestru), adran 86 (gwrthod cais person i adnewyddu cofrestriad y person), adran 94 (gwrthod dileu cofnod mewn cysylltiad â pherson o’r gofrestr) ac adran 96 (gwrthod caniatáu cais person i adfer cofnod y person i’r gofrestr)).

(9)

Gweler adran 67(3) o’r Ddeddf am y diffiniad o “GCC”.

(10)

Gweler adran 79 o’r Ddeddf am ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol”.

(11)

Gweler adran 117(3) am y diffiniad o “rhestr wahardd”.

(12)

Gweler adran 117(4) am y diffiniad o “corff perthnasol”.

(13)

2005 p. 9.

(14)

Gweler Pennod 5 o Ran 6 o’r Ddeddf (achosion adolygu), yn benodol adran 151 o’r Ddeddf (achosion adolygu). Mae’r panel addasrwydd i ymarfer yn gweinyddu’r system ar gyfer adolygu unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth allu person i ymarfer, gorchmynion atal dros dro ac ymgymeriadau sydd wedi eu gosod neu y cytunwyd arnynt (yn ôl y digwydd) mewn cysylltiad â’r person yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer.

(15)

Gweler Pennod 4 o Ran 6 o’r Ddeddf (gorchmynion interim ac adolygu gorchmynion interim). Ymgymerir ag achosion gorchmynion interim er mwyn galluogi i gyfyngiadau dros dro gael eu gosod mewn cysylltiad â pherson cofrestredig tra ymgymerir ag ymchwiliadau i honiadau a wneir yn erbyn y person ynghylch ei addasrwydd i ymarfer. Os ystyrir bod angen gwneud gorchymyn interim, caniateir i fater gael ei atgyfeirio naill ai i banel addasrwydd i ymarfer neu i banel gorchmynion interim (gweler Rhan 4 am ddarpariaeth ynghylch gweithdrefn paneli gorchmynion interim). Os yw mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, rhaid i unrhyw orchymyn interim gael ei wneud cyn i’r panel addasrwydd i ymarfer waredu’r mater yn unol ag unrhyw un neu ragor o adrannau 135 i 138 o’r Ddeddf (gweler adran 144(3) o’r Ddeddf).

(16)

Gweler adran 164 o’r Ddeddf am ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6 o’r Ddeddf.

(17)

Gweler adran 151(1) o’r Ddeddf. Caniateir cytuno ar ymgymeriadau o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) o’r Ddeddf.

(18)

Gweler adran 151(3) o’r Ddeddf. Caniateir i orchmynion cofrestru amodol gael eu gwneud, eu cadarnhau neu eu hamrywio o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c) o’r Ddeddf.

(19)

Gweler adran 151(5) o’r Ddeddf.

(21)

Gweler Pennod 4 o Ran 6 o’r Ddeddf (gorchmynion interim ac adolygu gorchmynion interim). Ymgymerir ag achosion gorchmynion interim er mwyn galluogi i gyfyngiadau dros dro gael eu gosod mewn cysylltiad â pherson cofrestredig tra ymgymerir ag ymchwiliadau i honiadau a wneir yn erbyn y person ynghylch ei addasrwydd i ymarfer. Os ystyrir bod angen gwneud gorchymyn interim, caniateir i fater gael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim (gweler Rhan 3 am ddarpariaeth ynghylch gweithdrefn paneli addasrwydd i ymarfer).

(22)

Gweler adran 164 o’r Ddeddf am ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6 o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: