- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
44.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw’n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.
(2) Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod odano.
(4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sy’n parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw—
(a)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a
(b)sy’n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(6) Rhaid trin myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.
(7) Mae paragraff (6) yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr cymwys anabl—
(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac
(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.
(8) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.
(9) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: