Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Camau i alluogi gwneud dewisiadau deallus ynghylch taliadau uniongyrchol

4.—(1Pan fo awdurdod lleol—

(a)yn penderfynu y bydd yn diwallu anghenion A am ofal a chymorth, a

(b)yn dyfarnu bod gwneud taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,

rhaid iddo ddarparu gwybodaeth i A i sicrhau bod A yn gallu gwneud dewis deallus ynghylch pa un a yw’n cydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud ai peidio.

(2Rhaid i’r wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn ei darparu gynnwys—

(a)sut y mae’n bwriadu diwallu’r anghenion hynny os na chaiff yr anghenion eu diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol;

(b)cadarnhad ynghylch a yw taliadau uniongyrchol, ym marn yr awdurdod lleol, yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A(1);

(c)gwybodaeth am natur a diben taliadau uniongyrchol;

(d)gwybodaeth am ffyrdd gwahanol o reoli taliadau uniongyrchol;

(e)swm unrhyw daliadau y byddai gan y person hawlogaeth iddynt os oedd dewis wedi ei wneud i gael taliad uniongyrchol a sut y câi swm y taliad ei gyfrifo;

(f)gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gynorthwyo pobl i reoli taliadau uniongyrchol pa un ai oddi wrth yr awdurdod lleol neu oddi wrth unrhyw berson arall;

(g)gwybodaeth am effaith asesiad ariannol ac, yn achos yr anghenion o dan sylw, a fyddai unrhyw daliadau uniongyrchol yn debyg o gael eu gwneud fel taliadau gros neu daliadau net.

(3Pan fo A yn oedolyn nad oes ganddo alluedd, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i unrhyw berson a awdurdodir o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005(2) i wneud penderfyniadau ynghylch A.

(4Pan fo A yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd, neu’n blentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A.

(1)

Un o’r amodau ar gyfer sbarduno gofyniad neu ddisgresiwn i wneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y person – gweler adrannau 50(3)(c)(i), 50(4)(d)(i), 51(5)(a) a 52(5)(a) o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources