- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
13 Gorffennaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym
10 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)(1), 16(1)(2), 17(1)(3), 26(1), (2) a (3)(4), 31(1) a 48(1)(5) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(6), a chan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(7).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(8) ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(9).
Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1337/2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dangosiad gwlad tarddiad neu darddle cig ffres, cig sydd wedi ei oeri a chig sydd wedi ei rewi o deulu’r mochyn, o ddefaid, o eifr ac o ddodfenod(10) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno(11).
Cafwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(12), wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.
Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40) a pharagraff 6 o Atodlen 9 iddi, adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (“Deddf 1999”) a pharagraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 iddi ac O.S. 2002/794.
Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.
Diwygiwyd adran 17(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 iddi, ac O.S. 2011/1043.
Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan adran 40(4) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd adrannau 31(1) a 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.
O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
OJ Rhif L 335, 14.12.13, t 19.
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 21 o Atodlen 5 iddi.
OJ Rhif L 31, 1.2.02, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.14, t 1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: