- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac sydd wedi ei ragnodi at ddibenion adran 5(2)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw person sy’n dod o fewn adran 5(5) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
3. Rhaid i gais gan sefydliad am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a)hyfywedd ariannol y sefydliad;
(b)y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;
(c)ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.
4. Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi at ddibenion adran 6(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 y darpariaethau sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch y mae rhaid i gynllun ffioedd a mynediad eu cynnwys.
5. Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad—
(a)nodi amcanion y sefydliad, a benderfynwyd gan y corff llywodraethu, sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
(b)pennu cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar yr amcanion ym mharagraff (a).
6. Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad—
(a)cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;
(b)cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;
(c)darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr, neu sicrhau bod y cymorth hwnnw’n cael ei ddarparu;
(d)rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell, neu sicrhau bod yr wybodaeth honno’n cael ei rhoi ar gael;
(e)hysbysu unrhyw ddarpar fyfyriwr, cyn i’r myfyriwr ymrwymo i ymgymryd â chwrs, am swm agregedig y ffioedd y bydd y sefydliad yn ei godi ar gyfer cwblhau’r cwrs, neu sicrhau bod unrhyw ddarpar fyfyriwr yn cael ei hysbysu o’r swm hwnnw;
(f)monitro—
(i)cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun; a
(ii)y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.
7. Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun ffioedd a mynediad rhaid i CCAUC ystyried—
(a)yr angen i ddiogelu mynediad teg at addysg uwch;
(b)y darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
(c)y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol;
(d)cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
(e)hyfywedd ariannol y sefydliad;
(f)y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;
(g)ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.
8. Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad, rhaid i’r corff llywodraethu ei gyhoeddi mewn dull sy’n ei wneud yn hawdd i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr gael gafael arno.
9.—(1) Caiff corff llywodraethu wneud cais i CCAUC gymeradwyo amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd tra bo’r cynllun a gymeradwywyd mewn grym.
(2) Dim ond os caiff ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan CCAUC y mae amrywiad i gynllun a gymeradwywyd i gymryd effaith.
(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd rhaid i CCAUC ystyried y materion a nodir yn rheoliad 7(a) i (d).
(4) Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo amrywiad i gynllun a gymeradwywyd rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â rheoliad 8 fel petai, yn y rheoliad hwnnw, y gair “amrywiad” wedi ei roi yn lle “cynllun ffioedd a mynediad”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: