Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1494 (Cy. 166)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015

Gwnaed

7 Gorffennaf 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 195(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anghydfod” (“dispute”) yw anghydfod—

(a)

rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf,

(b)

rhwng awdurdod lleol anfon ac awdurdod lleol derbyn o dan adran 56 o’r Ddeddf (hygludedd gofal a chymorth) ynghylch cymhwyso’r adran honno, neu

(c)

rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso adran 189 o’r Ddeddf (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol);

ystyr “yr awdurdod arweiniol” (“the lead authority”), mewn perthynas ag anghydfod, yw’r awdurdod lleol sydd (o ganlyniad i reoliad 2 neu fel arall)—

(a)

yn diwallu anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, neu ofalwr dros y person hwnnw, ar y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi, neu

(b)

os nad oes unrhyw awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion hynny ar y dyddiad hwnnw, o dan ofyniad i wneud hynny gan reoliad 2(3);

ystyr “atgyfeirir” ac “yn cael ei atgyfeirio” (“referred”) yw atgyfeirio i gael dyfarniad arno gan y person priodol, ac mae “atgyfeirio” (“refer”) ac “atgyfeiriad” (“referral”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “y person priodol” (“the appropriate person”) yw’r person y mae anghydfod i’w ddyfarnu arno ganddo yn unol ag adran 195(1) o’r Ddeddf.

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y dyddiad y mae anghydfod yn codi yn gyfeiriadau at y dyddiad cyntaf yr anfonir cyfathrebiad ysgrifenedig arno gan un o’r awdurdodau lleol (“yr awdurdod cyntaf”) at un arall o’r awdurdodau lleol (“yr ail awdurdod”) sydd (yn ôl y digwydd)—

(a)yn honni nad yw’r person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, ym marn yr awdurdod cyntaf, yn preswylio fel arfer yn ei ardal at ddibenion y Ddeddf, neu fod y person yn preswylio fel arfer yn ardal yr ail awdurdod at y dibenion hynny,

(b)yn codi mater ynghylch cymhwyso adran 56 o’r Ddeddf, neu

(c)yn codi mater ynghylch cymhwyso adran 189 o’r Ddeddf.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at “yr awdurdodau” yn gyfeiriad at yr awdurdodau sy’n bartïon i anghydfod ac mae’n cynnwys (pan fo’n wahanol) gyfeiriad at yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod hwnnw.

Cyfrifoldeb am ddiwallu anghenion tra bo anghydfod heb ei ddatrys

2.—(1Ni chaiff yr awdurdodau ganiatáu i fodolaeth yr anghydfod atal diwallu, oedi cyn diwallu, ymyrryd â diwallu, neu effeithio’n andwyol fel arall ar ddiwallu, anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef neu anghenion gofalwr y person hwnnw.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n diwallu anghenion y person neu’r gofalwr ar y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi barhau i ddiwallu’r anghenion hynny hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys.

(3Os nad oes unrhyw awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion ar y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol y mae’r person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef yn byw yn ei ardal, neu

(b)os nad yw’r person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef yn byw yn ardal unrhyw awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol y mae’r person hwnnw’n bresennol yn ei ardal

gyflawni, hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys, y dyletswyddau o dan y Ddeddf mewn cysylltiad â’r person ac unrhyw ofalwr y person hwnnw fel petai’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(4Os yw’r ddyletswydd o dan baragraff (3) i’w chyflawni gan awdurdod lleol (“A”) nad yw’n un o’r awdurdodau sydd eisoes yn barti i’r anghydfod, rhaid i’r awdurdodau hynny, yn ddi-oed, dynnu sylw A at—

(a)dyletswydd A o dan y paragraff hwnnw, a

(b)statws A fel yr awdurdod arweiniol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(5Nid yw A o dan y dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn tan y dyddiad y daw’n ymwybodol, neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo fod wedi bod yn ymwybodol, o’i statws fel yr awdurdod arweiniol.

(6Pan fo’r anghydfod yn ymwneud â chymhwyso adran 56 (hygludedd gofal a chymorth), rhaid i’r awdurdodau gyflawni’r dyletswyddau o dan yr adran honno er gwaethaf bodolaeth yr anghydfod.

Y camau sydd i’w cymryd cyn atgyfeirio anghydfod

3.—(1Rhaid i’r awdurdodau, cyn atgyfeirio’r anghydfod, gymryd y camau a bennir yn y rheoliad hwn.

(2Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi—

(a)rhaid i’r awdurdod arweiniol geisio canfod yr holl awdurdodau eraill sydd â rhan yn yr anghydfod a chydgysylltu trafodaethau rhwng yr awdurdodau hynny mewn ymgais i ddatrys yr anghydfod, a

(b)rhaid i bob un o’r awdurdodau enwebu unigolyn a fydd yn gweithredu fel y pwynt cyswllt o fewn yr awdurdod hwnnw mewn perthynas â’r anghydfod, a rhoi manylion cyswllt yr unigolyn hwnnw i’r awdurdodau eraill.

(3Rhaid i’r awdurdod arweiniol—

(a)cydgysylltu’r modd y mae’r awdurdodau yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y rheoliad hwn,

(b)cymryd camau i sicrhau oddi wrth yr awdurdodau eraill wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod,

(c)datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw awdurdod arall, a

(d)datgelu i’r awdurdodau eraill unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod arweiniol ei hun yn ei dal ac a allai helpu i ddatrys yr anghydfod.

(4Rhaid i’r awdurdodau—

(a)cymryd pob cam rhesymol i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a

(b)cydweithredu â’i gilydd wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y rheoliad hwn.

(5Rhaid i bob un o’r awdurdodau—

(a)cynnal deialog adeiladol gyda’r awdurdodau eraill, gyda golwg ar beri i’r anghydfod gael ei ddatrys yn gyflym,

(b)cydymffurfio, yn ddi-oed, ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth berthnasol a wneir gan yr awdurdod arweiniol, ac

(c)hysbysu’r awdurdodau eraill yn rheolaidd am unrhyw ddatblygiadau y mae’n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.

(6Rhaid i’r awdurdod arweiniol ddarparu i’r personau y mae paragraff (7) yn gymwys iddynt unrhyw wybodaeth y mae’n ymddangos iddo ei bod yn briodol am gynnydd i ddatrys yr anghydfod.

(7Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r personau canlynol—

(a)y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,

(b)gofalwr y person hwnnw (os yw’r anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr), ac

(c)person sy’n cynrychioli’r person neu’r gofalwr.

(8Os nad yw’r awdurdodau yn gallu datrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain o fewn pedwar mis i’r dyddiad y cododd yr anghydfod, rhaid i’r awdurdod arweiniol ei atgyfeirio at y person priodol.

Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch preswylfa arferol neu hygludedd gofal a chymorth

4.—(1Rhaid i’r atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol—

(a)llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod,

(b)datganiad o’r ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un o’r awdurdodau sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ac

(c)copïau o’r holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau sy’n ymwneud â’r anghydfod.

(2Yr wybodaeth benodedig yw—

(a)esboniad o natur yr anghydfod,

(b)cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirio’r anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,

(c)y manylion am anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef (“y person perthnasol”) o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,

(d)os yw’r anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr, y manylion am anghenion y gofalwr o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,

(e)datganiad ynghylch pa awdurdod sydd wedi diwallu’r anghenion hynny ers dechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, sut y cafodd yr anghenion hynny eu diwallu a’r darpariaethau statudol y cawsant eu diwallu odanynt,

(f)y manylion am fan preswylio’r person perthnasol, ac am unrhyw fannau preswylio blaenorol sy’n berthnasol i’r anghydfod,

(g)mewn achos pan fo galluedd y person perthnasol i benderfynu ble i fyw yn berthnasol i’r anghydfod, naill ai—

(i)datganiad bod yr awdurdodau’n cytuno bod gan, neu nad oes gan, y person alluedd o’r fath, neu

(ii)gwybodaeth y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r cwestiwn ynghylch a oes gan, neu a nad oes gan, y person alluedd o’r fath,

(h)datganiad ynghylch unrhyw gamau eraill a gymerwyd gan yr awdurdodau mewn perthynas â’r person perthnasol neu ei ofalwr, ac a all fod yn berthnasol i’r anghydfod,

(i)y manylion am y camau y mae’r awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a

(j)unrhyw wybodaeth arall y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.

(3Rhaid i’r awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas â’r anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.

(4Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo—

(a)anfon copi o’r dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a

(b)darparu tystiolaeth i’r person priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(5Os yw’r person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid i’r awdurdod lleol y gwneir cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i achos y mae rheoliad 5 neu 6 yn gymwys iddo.

Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch cydweithredu o dan adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i anghydfod sy’n ymwneud yn unig â chymhwyso adran 189(7)(a) neu (b) o’r Ddeddf (dyletswydd i gydweithredu).

(2Rhaid i’r atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol—

(a)llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod, yn datgan bod yr anghydfod yn cael ei atgyfeirio,

(b)datganiad o’r ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un o’r awdurdodau sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3), ac

(c)copïau o’r holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau sy’n ymwneud â’r anghydfod.

(3Yr wybodaeth benodedig yw—

(a)esboniad o natur yr anghydfod,

(b)cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirio’r anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,

(c)y manylion am y camau y mae’r awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a

(d)unrhyw wybodaeth arall y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.

(4Rhaid i’r awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas â’r anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.

(5Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo—

(a)anfon copi o’r dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a

(b)darparu tystiolaeth i’r person priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(6Os yw’r person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid i’r awdurdod lleol y gwneir y cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.

Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch costau a dynnwyd o dan adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i anghydfod sy’n ymwneud yn unig â chymhwyso adran 189(7)(c) o’r Ddeddf (adennill costau).

(2Rhaid i’r atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol—

(a)llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod, yn datgan bod yr anghydfod yn cael ei atgyfeirio,

(b)datganiad o’r ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un o’r awdurdodau sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3), ac

(c)copïau o’r holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau sy’n ymwneud â’r anghydfod.

(3Yr wybodaeth benodedig yw—

(a)esboniad o natur yr anghydfod,

(b)cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirio’r anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,

(c)y manylion am anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef (“y person perthnasol”) o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,

(d)os yw’r anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr, y manylion am anghenion y gofalwr o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,

(e)datganiad ynghylch pa awdurdod sydd wedi diwallu’r anghenion hynny ers dechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, sut y cafodd yr anghenion hynny eu diwallu a’r darpariaethau statudol y cawsant eu diwallu odanynt,

(f)gwybodaeth am y costau y ceisir eu hadennill, gan gynnwys dadansoddiad o’r costau hynny,

(g)y manylion am y camau y mae’r awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, ac

(h)unrhyw wybodaeth arall y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.

(4Rhaid i’r awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas â’r anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.

(5Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo—

(a)anfon copi o’r dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a

(b)darparu tystiolaeth i’r person priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(6Os yw’r person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid i’r awdurdod lleol y gwneir y cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.

Adolygu dyfarniadau

7.—(1Caiff awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygu’r dyfarniad.

(2Rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud o fewn tri mis i ddyddiad y dyfarniad.

(3Caniateir i adolygiad gael ei gynnal gan Weinidogion Cymru (p’un ai mewn ymateb i gais neu fel arall).

(4Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r dyfarniad neu roi dyfarniad gwahanol yn ei le.

Dyfarniadau a amnewidiwyd

8.—(1Pan fo—

(a)adolygiad o ddyfarniad wedi ei gynnal yn unol â rheoliad 7 a bod dyfarniad gwahanol wedi ei roi yn ei le,

(b)awdurdod lleol (“A”), o ganlyniad i’r dyfarniad cyntaf, wedi talu swm i awdurdod lleol arall (“B”), ac

(c)effaith yr ail ddyfarniad yn golygu nad oedd yn ofynnol i rywfaint neu’r cyfan o’r swm a dalwyd gan A i B gael ei dalu,

rhaid i B ad-dalu i A y swm nad oedd yn ofynnol iddo gael ei dalu.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 195 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn darparu ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion Deddf 2014 ac ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 o Ddeddf 2014 (hygludedd gofal a chymorth) ynghylch cymhwyso’r adran honno mewn perthynas â pherson.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau o’r fath ac yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn pan fydd anghydfodau’n codi.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys hefyd i anghydfod rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch ble yr oedd person yn preswylio fel arfer at ddibenion adran 117(3) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal). Mae adran 117(4) o’r Ddeddf honno yn darparu bod adran 195 o Ddeddf 2014 yn gymwys i anghydfod o’r fath fel y mae’n gymwys i anghydfod ynghylch ble’r oedd person yn preswylio fel arfer at ddibenion Deddf 2014.

Mae rheoliad 2 yn nodi pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion unigolyn hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer y camau sydd i’w cymryd gan awdurdodau lleol i geisio datrys yr anghydfod cyn ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru ddyfarnu arno o dan adran 195 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r ddogfennaeth sydd i’w darparu gan awdurdodau lleol wrth wneud atgyfeiriad.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn nodi fersiynau o’r darpariaethau hyn sydd wedi eu haddasu ychydig ar gyfer achosion penodol sy’n codi o dan adran 189 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer adolygu dyfarniadau. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer ad-dalu rhwng awdurdodau lleol os effaith dyfarniad diwygiedig yn dilyn adolygiad yw nad oedd symiau a dalwyd o dan ddyfarniad blaenorol yn ddyledus.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources