- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
7 Gorffennaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11(5), 42(2)(d), 43(c) a 44(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015; ac
ystyr “panel adolygu” (“review panel”) yw’r person, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 44(2) o Ddeddf 2015.
3. At ddibenion adran 42(2)(d) o Ddeddf 2015, caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig i CCAUC o fewn y cyfnod o 40 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad rhybuddio.
4. Yn ddarostyngedig i reoliad 5, mae hysbysiad neu gyfarwyddyd a bennir yn adran 41(1) o Ddeddf 2015 i gael ei drin fel pe bai CCAUC wedi ei roi i gorff llywodraethu ar y dyddiad y digwydd y cyntaf o’r digwyddiadau a ganlyn—
(a)bod y corff llywodraethu yn hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd;
(b)bod y cyfnod y caiff y corff llywodraethu wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd ynddo o dan adran 44 o Ddeddf 2015 wedi dod i ben ac nad yw’r corff llywodraethu wedi gwneud cais am adolygiad;
(c)bod adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44 o Ddeddf 2015 wedi gorffen a bod CCAUC wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd perthnasol yn cael effaith.
5. Nid yw rheoliad 4 yn gymwys at ddibenion cyfrifo’r cyfnod y caiff corff llywodraethu wneud cais am adolygiad ynddo o dan reoliad 8(a).
6. Rhaid i ddatganiad a roddir o dan adran 43 o Ddeddf 2015 gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)dyddiad yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd;
(b)esboniad o ba bryd y caniateir i’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd gael ei drin fel pe bai wedi ei roi;
(c)y seiliau fel y’u disgrifir yn rheoliad 7 y caniateir i gais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd gael ei wneud arnynt;
(d)esboniad o’r weithdrefn fel y’i disgrifir yn rheoliad 9 y mae’r corff llywodraethu i’w dilyn er mwyn gwneud cais am adolygiad;
(e)enw a chyfeiriad y panel adolygu y mae cais am adolygiad i gael ei wneud iddo.
7.—(1) Caiff corff llywodraethu wneud cais am adolygiad o hysbysiad neu gyfarwyddyd o dan adran 44 o Ddeddf 2015 ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a)bod y corff llywodraethu yn cyflwyno ffactor sylweddol i’w ystyried nad yw wedi ei ddwyn i sylw CCAUC o’r blaen am reswm da;
(b)bod y corff llywodraethu yn ystyried bod CCAUC wedi diystyru ffactor sylweddol y dylai fod wedi ei ystyried;
(c)bod y corff llywodraethu yn ystyried bod yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd yn anghymesur yng ngoleuni’r holl ffeithiau perthnasol a gafodd eu hystyried gan CCAUC.
(2) Ni chaniateir i gais am adolygiad o hysbysiad neu gyfarwyddyd gael ei wneud pan fo corff llywodraethu wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) ei fod yn derbyn yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
8. Rhaid i gais gan y corff llywodraethu am adolygiad o hysbysiad neu gyfarwyddyd o dan adran 44 o Ddeddf 2015—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig i’r panel adolygu o fewn y cyfnod o 40 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd;
(b)pennu’r seiliau dros yr adolygiad;
(c)cynnwys y canlynol—
(i)copi o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’w adolygu;
(ii)copi o’r datganiad a roddir gan CCAUC o dan adran 43 o Ddeddf 2015; a
(iii)gwybodaeth i gefnogi’r cais.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff llywodraethu wedi gwneud cais am adolygiad yn unol â rheoliad 8.
(2) Rhaid i’r panel adolygu roi i CCAUC—
(a)manylion am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’w adolygu;
(b)manylion am y seiliau y mae’r cais am adolygiad wedi ei wneud arnynt; ac
(c)copi o’r wybodaeth a ddarparwyd gan y corff llywodraethu i gefnogi’r cais am adolygiad.
(3) Rhaid i’r panel adolygu, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael cais am adolygiad, ddarparu i’r corff llywodraethu a CCAUC amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cwblhau’r adolygiad.
(4) At ddibenion yr adolygiad, caiff y panel adolygu wneud cais am wybodaeth bellach oddi wrth—
(a)CCAUC; neu
(b)y corff llywodraethu.
(5) Rhaid i gais gan y panel adolygu am wybodaeth bellach gael ei wneud yn ysgrifenedig.
(6) Pan fo’r panel adolygu yn gwneud cais am wybodaeth bellach—
(a)oddi wrth CCAUC, rhaid i’r panel adolygu ar yr un pryd ddarparu copi o’r cais i’r corff llywodraethu; a
(b)oddi wrth y corff llywodraethu, rhaid i’r panel adolygu ar yr un pryd ddarparu copi o’r cais i CCAUC.
(7) Nid oes rhaid i’r panel adolygu ystyried unrhyw wybodaeth bellach y mae naill ai CCAUC neu’r corff llywodraethu yn ei darparu iddo pan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu ar ôl diwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y cais.
(8) Rhaid i’r panel adolygu—
(a)darparu i’r corff llywodraethu gopi o unrhyw wybodaeth bellach a gyflwynir iddo gan CCAUC mewn ymateb i’w gais;
(b)darparu i CCAUC gopi o unrhyw wybodaeth bellach a gyflwynir iddo gan y corff llywodraethu mewn ymateb i’w gais;
(c)ystyried a yw’n briodol caniatáu sylwadau gan naill ai CCAUC neu’r corff llywodraethu mewn cysylltiad ag unrhyw wybodaeth bellach a gyflwynir iddo mewn ymateb i’w gais am yr wybodaeth honno;
(d)os yw’n ystyried ei bod yn briodol caniatáu sylwadau o dan is-baragraff (c), hysbysu CCAUC a’r corff llywodraethu yn unol â hynny;
(e)ystyried unrhyw wybodaeth a gyflwynir o dan baragraff (4) a’r sylwadau a gyflwynir gan CCAUC neu’r corff llywodraethu yn rhinwedd is-baragraff (c);
(f)llunio adroddiad ysgrifenedig ar yr adolygiad sydd i gynnwys ei ganfyddiadau;
(g)anfon copi dyddiedig o’i adroddiad ysgrifenedig o’r adolygiad i CCAUC a’r corff llywodraethu ar yr un pryd.
10.—(1) Yn dilyn adolygiad o dan adran 44 o Ddeddf 2015, rhaid i CCAUC ystyried adroddiad y panel adolygu ac ailystyried ei benderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
(2) O fewn y cyfnod o 40 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad adroddiad y panel adolygu, rhaid i CCAUC hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig a yw’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd yn cael effaith.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (2) nodi rhesymau CCAUC dros ei benderfyniad.
11.—(1) Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu sefydliad o dan adran 11 o Ddeddf 2015, rhaid iddo—
(a)ar unwaith roi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru; a
(b)ac eithrio yn achos cyfarwyddyd sy’n dirymu cyfarwyddyd cynharach, cyhoeddi copi o’r cyfarwyddyd ar ei wefan o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu.
(2) Mae copi o gyfarwyddyd a gyhoeddir ar wefan CCAUC o dan baragraff (1)(b) i aros ar y wefan honno hyd nes bod CCAUC—
(a)yn dirymu’r cyfarwyddyd; neu
(b)wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
(3) At ddibenion paragraff (1)(b), mae’r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd i gael ei benderfynu yn unol â rheoliad 4.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyfarwyddydau o dan adran 11 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) a dyroddi ac adolygu’r hysbysiadau a’r cyfarwyddydau hynny a bennir yn adran 41(1) o Ddeddf 2015.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r amser a’r modd y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddynt mewn cysylltiad â hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig. Mae rheoliadau 4 a 5 yn nodi pryd y mae hysbysiadau a chyfarwyddydau i gael eu trin fel pe baent wedi eu rhoi.
Mae rheoliad 6 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau.
Mae rheoliad 7 yn rhagnodi’r seiliau y caniateir i gais am adolygiad o hysbysiad neu gyfarwyddyd gael ei wneud arnynt. Mae rheoliad 8 yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid i gorff llywodraethu ei dilyn er mwyn gwneud cais am adolygiad o hysbysiad neu gyfarwyddyd.
Mae rheoliad 9 yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn gan y person, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru i adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau. Mae rheoliad 10 yn rhagnodi’r weithdrefn ar ôl adolygu.
Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i CCAUC ar unwaith roi copi o gyfarwyddyd a roddir o dan adran 11 o Ddeddf 2015 i Weinidogion Cymru. Mae’r rheoliad hefyd yn darparu ar gyfer sut y mae rhaid i CCAUC gyhoeddi’r cyfarwyddyd hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: