Search Legislation

Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adolygiad ymarfer” ac “adolygu ymarfer” (“practice review”) yw naill ai adolygiad ymarfer cryno neu adolygiad ymarfer estynedig fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4;

ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd Diogelu;

ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlwyd gan adran 132(1) o’r Ddeddf;

ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant(1) neu Fwrdd Diogelu Oedolion(2);

ystyr “cofrestr amddiffyn plant” (“child protection register”) yw rhestr a grëir ac a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy’n cynnwys enwau plant sy’n destun cynllun amddiffyn plant(3) o ganlyniad i benderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant fod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed o bwys ar ffurf camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth rywiol neu esgeulustod;

ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw adroddiad ysgrifenedig sy’n cael ei lunio gan Fwrdd yr un pryd ag adroddiad ar yr adolygiad ymarfer, gan fanylu ar y camau sydd i’w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol o ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad yr adolygiad ymarfer;

ystyr “digwyddiad dysgu amlasiantaethol” (“multi-agency learning event”) yw digwyddiad sy’n ffurfio rhan o’r broses adolygu ymarfer ac y mae Bwrdd yn gwahodd iddo ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd ac sy’n ymwneud, neu sydd wedi ymwneud, â’r person sy’n destun yr adolygiad, at y diben o wella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “fforymau proffesiynol amlasiantaethol” (“multi-agency professional forums”) yw’r fforymau, a drefnir ac a hwylusir gan Fwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, a chyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd, at y diben o ddysgu oddi wrth achosion, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;

ystyr “oedolion” (“adults”) yw oedolion y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;

ystyr “plant” (“children”) yw plant y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;

ystyr “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy’n derbyn gofal gan:

(a)

awdurdod lleol o dan adran 74(1) o’r Ddeddf,

(b)

awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(4),

(c)

awdurdod lleol yn yr Alban yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(5),

(d)

Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unol ag erthygl 25 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(6).

(1)

Sefydlir Byrddau Diogelu Plant gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal yn unol ag adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Pennir partneriaid arweiniol Byrddau Diogelu gan Weinidogion Cymru yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1357 (Cy. 131)) o blith rhestr o bartneriaid Byrddau Diogelu a nodir yn adran 134(2) o’r Ddeddf.

(2)

Sefydlir Byrddau Diogelu Oedolion gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal yn unol ag adran 134(5) o’r Ddeddf.

(3)

Mae “cynhadledd amddiffyn plant” yn gyfarfod amlddisgyblaethol a drefnir gan awdurdod lleol yn dilyn ymholiadau o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) (dyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio) er mwyn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol ynghylch amgylchiadau’r plentyn. Os ystyrir bod y plentyn mewn risg parhaus o niwed o bwys bydd “cynllun amddiffyn plant” yn cael ei wneud sy’n nodi manylion y risgiau penodol i’r plentyn a’r camau y bydd angen eu cymryd i gadw’r plentyn yn ddiogel.

(5)

1995 p. 36, gweler adran 17(6) o’r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources