Search Legislation

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achos disgyblu” (“disciplinary proceedings”) mewn perthynas â pherson cofrestredig yng Nghymru yw achos disgyblu o dan adrannau 26 i 32 o Ddeddf 2014;

ystyr “anghymhwysedd proffesiynol difrifol” (“serious professional incompetence”) yw ymddygiad sy’n dangos anghymhwysedd ar lefel sy’n ddifrifol is na’r ymddygiad a ddisgwylir gan berson cofrestredig o ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol;

ystyr “An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu” (“An Chomhairle Mhúinteoireachta or the Teaching Council”) yw’r Cyngor Addysgu a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf y Cyngor Addysgu 2001(1) (corff y mae ei swyddogaethau’n cyfateb i rai’r Cyngor yng Ngweriniaeth Iwerddon);

mae i “asiant” (“agent”) yr ystyr a roddir gan adran 37 o Ddeddf 2014;

ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi cofrestru yn y categori cofrestru athro neu athrawes addysg bellach;

ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person sydd wedi cofrestru yn y categori cofrestru athro neu athrawes ysgol;

mae i “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yr un ystyr a roddir yn adran 132(1) o Ddeddf 2002;

ystyr “athro neu athrawes ôl-drothwy” (“post-threshold teacher”) yw athro neu athrawes sy’n bodloni’r meini prawf a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y swydd honno ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol gan orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002(2);

ystyr “athro neu athrawes uwch-sgiliau” (“advanced skills teacher”) yw athro neu athrawes yr ardystiwyd gan aseswr a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod neu ei bod yn gymwys i gael ei benodi neu ei phenodi i swydd athro neu athrawes uwch-sgiliau;

ystyr “Cod Ymarfer” (“Code of Practice”) yw’r cod ymarfer a baratowyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 24 o Ddeddf 2014;

mae i “corff priodol” (“appropriate body”) yr un ystyr a roddir yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005(3);

ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig neu’n cymryd person cofrestredig ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;

ystyr “cyfnod sefydlu” (“induction period“) yw cyfnod sefydlu sy’n cael ei gwblhau yn unol â rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Chymru neu Loegr o dan—

(a)

adran 19 o Ddeddf 1998;

(b)

adran 135A o Ddeddf 2002; neu

(c)

adran 17 o Ddeddf 2014;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996(4);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(5);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(6);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw gwasanaethau a ddarperir i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae’n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;

ystyr “y Gofrestr” (“the Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014, ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru ar y Gofrestr;

ystyr “pennaeth cynorthwyol” (“assistant head teacher”) yw athro neu athrawes gymwysedig (o fewn ystyr adran 132 o Ddeddf 2002) â chyfrifoldebau arweinyddiaeth ar draws yr ysgol gyfan sydd wedi ei benodi neu ei phenodi i swydd pennaeth cynorthwyol;

mae i “person cofrestredig” (“registered person”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 41(1) o Ddeddf 2014;

ystyr “prif ystod cyflog” (“main pay range”) yw’r brif ystod cyflog a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol o dan adran 122 o Ddeddf 2002(7);

ystyr “Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer” (“Fitness to Practice Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 22;

ystyr “Pwyllgor Ymchwilio” (“Investigating Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 20;

ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959(8);

ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(9);

ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(10);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(11);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) 2004(12);

ystyr “Rheoliadau Sefydlu” (“Induction Regulations”) yw’r rheoliadau a wnaed o dan y pwerau a nodir yn y diffiniad o “cyfnod sefydlu”;

mae i “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) o ran Cymru yr un ystyr a roddir iddo yn adran 27(1) o Ddeddf 2014 ac o ran Lloegr, yr un ystyr a roddir iddo yn adran 141B(4) o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “trefniadau” (“arrangements”) yw’r math o drefniadau y cyfeirir atynt yn adran 37(1) o Ddeddf 2014 ar gyfer person sy’n berson cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru;

ystyr “ymarferydd arweiniol” (“leading practitioner”) yw athro neu athrawes sy’n cael ei dalu o fewn ystod cyflog ymarferydd arweiniol fel y’i pennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol gan orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002(13);

ystyr “ymddygiad proffesiynol annerbyniol” (“unacceptable professional conduct”) yw ymddygiad nad yw’n cyrraedd y safon a ddisgwylir gan berson cofrestredig;

mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol” yr un ystyr a roddir i “school maintained by a local authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

mae i “ysgol annibynnol” yr un ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996(14);

mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr a roddir i “special school” yn adran 337 o Ddeddf Addysg 1996; ac

ystyr “ystod cyflog uwch” (“upper pay range”) yw’r ystod cyflog uwch a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a nodir mewn dogfen y rhoddir iddi effaith gyfreithiol o dan adran 122 o Ddeddf 2002(15).

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at bennaeth yn cynnwys cyfeiriad at berson a benodir i gyflawni swyddogaethau pennaeth yr ysgol—

(a)hyd nes y penodir pennaeth, neu

(b)yn absenoldeb y pennaeth.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ddirprwy bennaeth yn cynnwys cyfeiriad at berson a benodir i gyflawni swyddogaethau dirprwy bennaeth yr ysgol—

(a)hyd nes y penodir dirprwy bennaeth, neu

(b)yn absenoldeb y dirprwy bennaeth.

(1)

Rhif 8 o 2001. Sefydlir An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, o dan adran 5 o Ddeddf y Cyngor Addysgu 2001, ac mae ganddo swyddogaethau sy’n cyfateb i rai’r Cyngor yng Ngweriniaeth Iwerddon.

(2)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi effaith gyfreithiol i ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” sydd wedi ei chyhoeddi ar wefan gov.uk.

(3)

O.S 2005/1818 (Cy. 146). Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu dirymu a’u hail-wneud o ganlyniad i gychwyn diddymiad y pwerau galluogi gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ond ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau pery Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 mewn grym.

(7)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi effaith gyfreithiol i ddogfen o’r enw “‘Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” sydd wedi ei chyhoeddi ar wefan gov.uk.

(8)

O.S. 1959/364 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1968/1281, O.S. 1969/1777, O.S. 1971/342, O.S. 1973/2021 ac O.S. 1978/1144. Bellach wedi ei ddirymu gan O.S. 1982/106.

(9)

O.S. 1982/106 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 ac O.S. 1989/329. Bellach wedi ei ddirymu gan O.S. 1989/1319.

(11)

O.S. 2002/1663 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/1717 ac O.S. 2004/1745.

(12)

O.S. 2004/1729 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2811 ac O.S. 2008/215.

(13)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi effaith gyfreithiol i ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” sydd wedi ei chyhoeddi ar wefan gov.uk.

(15)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2014 (O.S. 2014/2045) sy’n rhoi grym cyfreithiol i’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon 2014 a Chanllawiau ar Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol” a gyhoeddwyd ar wefan gov.uk.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources