- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
26. Y dyddiad y cymhwysodd y person yn athro neu’n athrawes ysgol.
27. Os yw’n hysbys y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol ei swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.
28. Pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus—
(a)enw’r sefydliad a oedd yn darparu’r cwrs;
(b)teitl y cwrs neu ddisgrifiad ohono;
(c)y pwnc neu’r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu’r athrawes ysgol; a
(d)oedrannau’r disgyblion y cynlluniwyd y cwrs i baratoi’r athro neu’r athrawes ysgol ar gyfer eu haddysgu.
29. Pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi cymhwyso fel athro neu athrawes ysgol mewn modd ar wahân i gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon—
(a)y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;
(b)enw’r ysgol neu’r sefydliad lle y dilynwyd yr hyfforddiant athrawon ysgol; ac
(c)y dyddiad y cwblhawyd y rhaglen hyfforddi.
30. Os yw’n hysbys—
(a)manylion unrhyw gymhwyster sydd gan yr athro neu’r athrawes ysgol i addysgu pobl â nam ar eu golwg neu ar eu clyw fel y cyfeirir ato yn rheoliad 11, 12 neu 13 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(1); a
(b)pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi ennill Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth, mynegiant o’r ffaith honno a dyddiad y dyfarniad.
31. Os yw’n hysbys, pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol—
(a)yn athro neu’n athrawes ôl-drothwy neu’n arfer bod yn athro neu’n athrawes ôl-drothwy, mynegiant o’r ffaith honno, y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol yn y swydd honno ac enw’r ysgol yr oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei benodi gyntaf neu ei phenodi gyntaf i’r swydd honno;
(b)yn athro neu’n athrawes uwch-sgiliau, mynegiant o’r ffaith honno, y dyddiad y cafodd yr athro neu’r athrawes ysgol ei ardystio neu ei hardystio yn athro neu’n athrawes o’r fath, a’r ysgol yr oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei ardystio neu ei hardystio yn athro neu’n athrawes uwch-sgiliau; ac
(c)yn ymarferydd arweiniol, mynegiant o’r ffaith honno, y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol ar y swydd honno, a’r ysgol yr oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei benodi gyntaf neu ei phenodi gyntaf i’r swydd honno.
32. A yw’r athro neu’r athrawes ysgol neu a oedd yr athro neu’r athrawes ysgol yn ddirprwy bennaeth, yn bennaeth neu’n bennaeth cynorthwyol, ac os felly—
(a)y dyddiad y’i penodwyd gyntaf i’r swydd honno; a
(b)enw’r ysgol yr oedd yn gyflogedig ynddi pan gafodd ei benodi gyntaf neu ei phenodi gyntaf i’r swydd honno.
33. Pan fo’r person yn gyflogedig fel athro neu athrawes ysgol mewn ysgol a gynhelir, mynegiant a yw’r person hwnnw—
(a)wedi ei gyflogi ar y brif ystod cyflog; neu
(b)wedi ei gyflogi ar yr ystod cyflog uwch.
34.—(1) Pan fo’r athro neu’r athrawes ysgol wedi gweithio cyfnod sefydlu neu ran o gyfnod sefydlu, pa un ai yw hynny yng Nghymru neu Loegr—
(a)enw’r corff priodol;
(b)y dyddiad y cychwynnodd yr athro neu’r athrawes ysgol y cyfnod sefydlu;
(c)pan fo’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;
(d)pan fo’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi cael ymestyn y cyfnod sefydlu, a chyfnod yr estyniad;
(e)pan fo’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi cwblhau rhan o gyfnod sefydlu yn unig, a’r cyfnod a weithiwyd; ac
(f)pan fo’n gymwys, mynegiant bod y person wedi methu â chwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus.
(2) Pan fo’r person yn athro neu’n athrawes ysgol ac nad yw wedi gweithio cyfnod sefydlu—
(a)os yw’r athro neu’r athrawes ysgol wedi ei eithrio neu ei heithrio o’r gofyniad i weithio cyfnod sefydlu, y rheswm dros yr eithriad; neu
(b)os nad oedd yn ofynnol i’r athro neu’r athrawes ysgol weithio cyfnod sefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o’r ffaith honno.
35. Os yw’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi methu cyfnod prawf, ac a yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i’r athro hwnnw neu’r athrawes honno gyflawni gwaith penodedig o dan reoliadau a wnaed o dan—
(a)adran 133 o Ddeddf 2002; neu
(b)adran 14 o Ddeddf 2014.
36. Os yw’n gymwys, mynegiant bod yr athro neu’r athrawes ysgol wedi ymddeol o dan achos C ym mharagraff 3 o Atodlen 7 i Reoliadau Pensiynau Athrawon 2010(2) (ymddeoliad ar sail afiechyd).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: