Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1327 (Cy. 122) (C. 74)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015

Gwnaed

19 Mai 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;

ystyr “Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd” (“the Approved Plans Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011(3); ac

ystyr “y Rheoliadau Dynodi” (“the Designation Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011(4).

Darpariaethau sy’n dod i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn, at ddiben gwneud rheoliadau yn unig—

(a)adran 2(4) (ceisiadau am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);

(b)adran 3(4) (dynodi darparwyr addysg uwch eraill);

(c)adran 4(3) a 4(4) (cyfnod y mae cynllun ffioedd a mynediad i gael effaith mewn cysylltiad ag ef);

(d)adran 5(2)(b), 5(3) a 5(5) i 5(9) (cyrsiau cymhwysol, yr uchafswm ffioedd, personau cymhwysol a’r ffioedd sy’n daladwy i berson sy’n darparu cwrs ar ran sefydliad);

(e)adran 6(1) a 6(3) i 6(6) (cynlluniau ffioedd a mynediad a hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch);

(f)adran 7(3) (penderfyniad ynghylch cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);

(g)adran 8 (cyhoeddi cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd);

(h)adran 9 (amrywio cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd);

(i)adran 11(5) (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);

(j)adran 17(4)(a) (trin person fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs);

(k)adran 37(7) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad newydd);

(l)adran 38(2) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl);

(m)adran 39(4) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl);

(n)adran 40(2) (hysbysiadau a roddir o dan Ran 5 o’r Ddeddf);

(o)adran 42(2)(d) (sylwadau mewn cysylltiad â hysbysiadau rhybuddio);

(p)adran 43(c) (gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol);

(q)adran 44(3) a 44(4) (adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol);

(r)adran 52(4) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd);

(s)adran 58(2) (darpariaeth drosiannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 28(g) a 30 o’r Atodlen; a

(t)yn yr Atodlen—

(i)paragraff 28(g); a

(ii)paragraff 30.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Mai 2015

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Mai 2015 i’r graddau a bennir—

(a)adran 6(7) (gofynion cyffredinol) at bob diben;

(b)adran 7(5) (cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd ac at sefydliad rheoleiddiedig yn Neddf 2015);

(c)adran 27(1) (cod rheolaeth ariannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio cod;

(d)adran 27(2), 27(3), 27(7) a 27(8) at bob diben;

(e)adrannau 47 a 48 (arfer swyddogaethau gan CCAUC) at bob diben;

(f)adran 49 (dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion Cymru) at bob diben;

(g)adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio datganiad;

(h)adran 52(5) at bob diben; ac

(i)adran 54(3) a 54(4) (gwybodaeth a chyngor) at bob diben.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2015

4.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2015 i’r graddau a bennir—

(a)adran 58(2) (darpariaethau trosiannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 27, 28(a) i 28(f) a pharagraff 29 o’r Atodlen; a

(b)yn yr Atodlen (darpariaeth drosiannol)—

(i)paragraff 27 at bob diben;

(ii)paragraff 28(a) i 28(f) at bob diben; a

(iii)paragraff 29 at bob diben.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2015

5.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2015 i’r graddau a bennir—

(a)adran 3 (dynodi darparwyr addysg uwch eraill) at bob diben sy’n weddill;

(b)adran 10 (terfynau ar ffioedd myfyrwyr) at bob diben;

(c)adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu) at bob diben sy’n weddill;

(d)adran 12 (darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu) at bob diben;

(e)adran 14 (dilysrwydd contractau) at bob diben;

(f)adrannau 15(1)(a) (dyletswydd i fonitro cydymffurfedd) ac 16 (dyletswydd i gydweithredu) at bob diben;

(g)adran 17 (asesu ansawdd yr addysg) at bob diben sy’n weddill;

(h)adrannau 18 i 25 (ansawdd annigonol, cydweithredu o ran asesu ansawdd, pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd a phwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawdd) at bob diben;

(i)adrannau 27(9), 28 a 29 (llunio a gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo cod rheolaeth ariannol gan Weinidogion Cymru) at bob diben;

(j)adran 41(1)(b), 41(1)(d) a 41(2) (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben;

(k)adrannau 42 i 44 (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben sy’n weddill;

(l)adrannau 45 a 46 (darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau) at bob diben;

(m)adran 51(1)(a), 51(1)(e) a 51(2) (adroddiadau arbennig) at bob diben;

(n)adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) i’r graddau y mae’n ymwneud â chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad ag adran 52(5)(a), 52(5)(c) a 52(5)(d);

(o)adran 52(2) a 52(3) at bob diben;

(p)adran 53 (gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion Cymru) at bob diben;

(q)adran 54(1) (gwybodaeth a chyngor arall) at bob diben;

(r)adran 58(1) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau’r Atodlen y cyfeirir atynt ym mharagraff (s);

(s)yn yr Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(i)paragraff 1 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 2;

(ii)paragraff 2 at bob diben;

(iii)paragraffau 7 i 21 at bob diben;

(iv)paragraff 22 at bob diben;

(v)paragraff 23 at bob diben;

(vi)paragraffau 24 i 26 at bob diben;

(t)adran 58(2) (darpariaeth drosiannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 31 o’r Atodlen; ac

(u)paragraff 31 o’r Atodlen at bob diben.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2016

6.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2016 i’r graddau a bennir—

(a)adran 2 (cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy’n weddill;

(b)adran 4 (y cyfnod y mae cynllun ffioedd a mynediad i gael effaith mewn cysylltiad ag ef) at bob diben sy’n weddill;

(c)adran 5 (terfyn ffioedd) at bob diben sy’n weddill;

(d)adran 6 (hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch) at bob diben sy’n weddill;

(e)adran 7 (cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy’n weddill; ac

(f)adran 41(1)(a) (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben.

Darpariaeth arbed mewn perthynas â dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 i 16 a 19 o’r Atodlen i’r Ddeddf

7.  Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14, 16 a 19 o’r Atodlen i’r Ddeddf ar 1 Medi 2015—

(a)mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gynllun Deddf 2004 sy’n cael ei drin fel cynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o’r Ddeddf yn ystod y cyfnod trosiannol;

(b)mae’r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw—

(i)adran 32(4) o Ddeddf 2004; a

(ii)rheoliad 5 i 7 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac

(c)mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).

8.  Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 a 15 o’r Atodlen i’r Ddeddf ar 1 Medi 2015—

(a)mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gais am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig a gafodd CCAUC o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Medi 2015;

(b)mae’r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliad hwnnw at ddibenion cais o’r fath—

(i)adran 32(4) o Ddeddf 2004;

(ii)adran 35(1) a 35(2)(b) o Ddeddf 2004; a

(iii)rheoliadau 6 i 8 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac

(c)mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).

9.  Mae erthyglau 7 ac 8 heb leihau effaith gweithrediad adrannau 16 ac 17 o Ddeddf Dehongli 1978(5) fel y’u darllenir gydag adran 23 o’r Ddeddf honno.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

19 Mai 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”). Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol y Ddeddf ond dim ond at ddiben llunio rheoliadau. Bydd y darpariaethau hynny’n dod i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf at ddibenion penodol ar 25 Mai 2015. Mae’r darpariaethau hyn yn Rhan 2 (cynlluniau ffioedd a mynediad), Rhan 4 (materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig) a Rhan 7 (darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC) o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau yn Rhan 4 o’r Ddeddf yn cynnwys swyddogaeth CCAUC o ran llunio cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig (adran 27(1)). Caiff darpariaethau yn y cod fod ar ffurf gofynion neu ganllawiau (adran 27 (3)). Mae’r darpariaethau yn Rhan 7 o’r Ddeddf yn cynnwys adrannau 47 i 49. Mae adran 47(1)(a) yn darparu na all unrhyw ofyniad y caiff CCAUC ei osod ar gyrff llywodraethu sefydliadau o dan y Ddeddf ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff hynny weithredu’n groes i’w rhwymedigaethau fel ymddiriedolwyr elusennau. Mae adran 47(1)(b) yn darparu na all CCAUC ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws â’u dogfennau llywodraethu. Mae adran 48 yn gosod dyletswydd ar CCAUC i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd wrth arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf. O dan adran 49 o’r Ddeddf, rhaid i CCAUC, wrth arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae’r darpariaethau yn Rhan 7 o’r Ddeddf sydd hefyd yn dod i rym ar 25 Mai 2015 yn cynnwys swyddogaeth CCAUC o ran llunio datganiad mewn cysylltiad â’i swyddogaethau ymyrryd (adran 52(1)) a’i swyddogaeth yn adran 54(3) a 54(4) o ran rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch y fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan y Ddeddf a rolau a chyfrifoldebau sefydliadau rheoleiddiedig, ymysg pethau eraill.

Mae erthygl 4 yn dwyn i rym yn llawn Ran 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf (darpariaeth drosiannol) ar 1 Awst 2015. Fel y cyfryw, mae’r cyfnod trosiannol a ddisgrifir yn Rhan 2 o’r Atodlen yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ar 31 Awst 2017 (paragraff 29(2) o’r Atodlen). Bydd cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan CCAUC o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”) cyn 1 Awst 2015 ac sy’n dod o fewn paragraff 27 o’r Atodlen i’r Ddeddf yn cael ei drin, yn ystod y cyfnod trosiannol, fel cynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o’r Ddeddf. Caiff y cynlluniau hynny eu trin fel pe baent yn gynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 7 o’r Ddeddf at ddibenion cyfyngedig, ac mae’r darpariaethau a restrir ym mharagraff 28 o Ran 2 o’r Atodlen yn cyfeirio at hyn. Mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â chydymffurfio â’r terfyn ffioedd cymwys (adrannau 10 i 12, 14, 15(1)(a) ac 16 o’r Ddeddf) ac asesu ansawdd yr addysg (adrannau 17 i 23 o’r Ddeddf). Bydd y cynlluniau hynny hefyd yn cael eu trin fel cynlluniau a gymeradwyir o dan adran 7 o’r Ddeddf at ddibenion adroddiadau arbennig CCAUC (adran 51(1)(e)) ac at ddibenion ymgynghori ac arfer da, gwybodaeth a chyngor (adrannau 24(2)(a), 28(2), 52(3) a 54(1) o’r Ddeddf). Daw Rhan 2 o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2015 oherwydd y gallai sefydliadau yng Nghymru ei gwneud yn ofynnol i rai myfyrwyr sy’n mynychu neu’n dilyn cyrsiau addysg uwch yn y sefydliadau hynny ddechrau mynychu neu ddilyn eu cyrsiau yn ystod mis Awst a pharhau ar y cyrsiau hynny yn ystod yr hydref canlynol. (At ddibenion talu cymorth statudol i fyfyrwyr, mae cyrsiau o’r fath yn cael eu trin fel cyrsiau sy’n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn galendr berthnasol).

Dim ond darpariaethau penodol o’r fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan y Ddeddf fydd yn cael effaith yn ystod y cyfnod trosiannol. Daw erthygl 5 â’r darpariaethau hynny i rym ar 1 Medi 2015. Deuir â darpariaethau sy’n ymwneud â chydymffurfedd sefydliadau â’r terfyn ffioedd cymwys i rym yn llawn (adrannau 10 i 12, 14 a 15(1)(a) ac 16), yn ogystal â darpariaethau ynghylch asesu ansawdd yr addysg (adrannau 17 i 25). Daw erthygl 5 hefyd â darpariaethau eraill sy’n ymwneud â’r weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu i rym (adrannau 41(1)(b), 41(1)(d), 41(2) ac adrannau 42 i 44). O 1 Medi 2015, bydd y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan CCAUC o dan adrannau 11 neu 19 o’r Ddeddf. Yn ogystal, daw erthygl 5 â darpariaethau sy’n ymwneud â llunio adroddiadau arbennig gan CCAUC i rym ar 1 Medi 2015 (adrannau 51(1)(a), 51(1)(e) a 51(2)) a chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd CCAUC o dan adrannau 11, 19 ac 20(1) ac 20(2). Gan fod erthygl 5 yn dod â darpariaethau penodol yn Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf i rym, daw hefyd â nifer o fân ddiwygiadau cysylltiedig a diwygiadau canlyniadol cysylltiedig a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf i rym. Mae’r rhain yn cynnwys diwygiadau i adran 70 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy’n cyfyngu ar gymhwysiad yr adran honno i Gyngor Addysg Uwch Lloegr. Deuir â diwygiadau i Ran 3 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 i rym hefyd sy’n cyfyngu ar gymhwysiad y Rhan honno i gynlluniau a gymeradwyir yn Lloegr ac sy’n dileu swyddogaethau CCAUC fel awdurdod perthnasol o dan y Ddeddf honno.

Daw erthygl 6 ag adrannau 2, 4, 5, 6 a 7 o’r Ddeddf i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2016. Mae’r darpariaethau hyn yn dod o fewn Rhan 2 o’r Ddeddf (cynlluniau ffioedd a mynediad) ac yn ymwneud â cheisiadau y caiff sefydliadau eu gwneud i CCAUC am gymeradwyaeth i gynlluniau ffioedd a mynediad arfaethedig. Daw erthygl 6 ag adran 41(1)(a) i rym ar 1 Ionawr 2016. O’r dyddiad hwnnw, bydd y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygiad yn adrannau 42 i 44 o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw hysbysiadau a ddyroddir gan CCAUC o dan adran 7(1)(b) o’r Ddeddf.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â darpariaethau penodol o Ddeddf 2004 a rheoliadau penodol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Mae erthygl 7 yn sicrhau bod sefydliad, o 1 Medi 2015, yn dal i allu gwneud cais i CCAUC i amrywio cynllun Deddf 2004 (a ddiffinnir ym mharagraff 29(3) o’r Atodlen i’r Ddeddf) sydd wedi’i drin fel pe bai wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o’r Ddeddf yn ystod y cyfnod trosiannol, yn unol â Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”). Mae erthygl 8 yn sicrhau bod sefydliad sydd wedi gwneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Medi 2015 yn dal i allu gwneud cais am adolygiad mewn perthynas â’r cais hwnnw ar ôl y dyddiad hwnnw yn unol â Rheoliadau 2011.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources