- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
16 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015.
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i rym yw 1 Mai 2015—
(a)adran 55 (gwefannau cynghorau cymuned);
(b)adran 56 (gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronig);
(c)adran 57 (cyfarfodydd a thrafodion cymunedau);
(d)adran 58 (cofrestrau buddiannau aelodau);
(e)adran 68 (cyd-bwyllgorau safonau); ac
(f)adran 69 (atgyfeirio achosion yn ymwneud ag ymddygiad).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
16 Ebrill 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”). Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn i’w wneud o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adrannau 55, 56, 57, 58, 68 a 69 o’r Ddeddf ar 1 Mai 2015.
Mae adran 55 yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned sicrhau bod gwybodaeth benodol am y cyngor cymuned ar gael yn electronig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned, pan fydd yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 55, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Mae adran 56 yn diwygio adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) sy’n ymwneud â’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus. Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad cyhoeddus a roddir gan gyngor cymuned gael ei gyhoeddi’n electronig.
Mae adran 57 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Atodlen 12 i Ddeddf 1972. Mae Atodlen 12 yn ymwneud â chyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol ac mae’r diwygiadau yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth benodol yn electronig gan gynghorau cymuned.
Mae adran 58 yn diwygio adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”). Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol bod cofrestr buddiannau’r aelodau o dan adran 81 o Ddeddf 2000 ar gael yn electronig a bod yr wybodaeth am sut i gael mynediad ati hefyd ar gael.
Mae adran 68 yn diwygio adran 53 o Ddeddf 2000 i alluogi awdurdodau perthnasol i sefydlu cyd-bwyllgorau safonau gydag un neu ragor o awdurdodau eraill. Mae’r ddarpariaeth newydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ymwneud â chyd-bwyllgorau o’r fath ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sy’n ystyried sefydlu cyd-bwyllgor roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Mae adran 69 yn diwygio adran 73 o Ddeddf 2000 sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn ymwneud â materion a atgyfeirir at swyddog monitro awdurdod perthnasol. Mae’r diwygiadau yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud sy’n ymwneud â gallu’r swyddog monitro neu bwyllgor safonau un awdurdod i atgyfeirio mater i bwyllgor safonau awdurdod arall. Mae adran 69 hefyd yn diwygio adran 81 o Ddeddf 2000 mewn perthynas â goddefebau a ganiateir gan bwyllgorau safonau o dan adran 81(4) pan fydd aelod neu aelod cyfetholedig wedi cofrestru buddiant drwy gydnabod y caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall ganiatáu goddefeb a thrwy ehangu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn adran 81(5) i’w galluogi i wneud darpariaeth am y weithdrefn i’w dilyn.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaeth a ganlyn y Ddeddf wedi ei dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 63 | 11.4.2004 | 2014/380 (Cy. 45) (C. 15) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: