- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 27
1. Yn yr Atodlen hon—
(a)ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw ych, eidion, buwch, heffer, bustach neu lo;
(b)ystyr “aderyn” (“bird”) yw twrci, ffowlyn domestig, iâr gini, hwyaden, gŵydd, neu sofliar;
(c)ystyr “lladd yn unol â defodau crefyddol” (“killing in accordance with religious rites”) yw lladd heb achosi dioddefaint diangen—
(i)yn y dull Iddewig (Shechita) ar gyfer bwyd Iddewon gan Iddew a drwyddedwyd gan y Comisiwn Rabinaidd ac sy’n dal tystysgrif at y diben hwnnw, neu
(ii)yn y dull Mwslimaidd (Halal) ar gyfer bwyd Mwslimiaid gan Fwslim sy’n dal tystysgrif at y diben hwnnw.
2.—(1) Ni chaiff neb ladd anifail yn unol â defodau crefyddol heb ei stynio ymlaen llaw, onid yw’r anifail yn ddafad, gafr, anifail buchol neu aderyn a leddir mewn lladd-dy yn unol â’r Atodlen hon.
(2) Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i ladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol pan fo’r anifeiliaid wedi eu stynio cyn eu lladd, ond mewn achosion o’r fath, rhaid ffrwyno a stynio’r anifail yn unol â’r Rheoliad UE ac Atodlen 1.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff neb ladd anifail buchol llawn-dwf yn unol â defodau crefyddol mewn lladd-dy heb stynio’r anifail ymlaen llaw, oni chaiff yr anifail ei ffrwyno ar ei ben ei hunan ac ar ei sefyll mewn lloc ffrwyno a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod cymwys ac y bodlonwyd yr awdurdod cymwys ei fod wedi ei osod mewn modd sy’n sicrhau y bydd yn gweithredu’n effeithlon.
(2) Ni chaiff yr awdurdod cymwys roi cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) oni fodlonir yr awdurdod cymwys y gall maint a dyluniad y lloc a’r modd y gellir ei weithredu ddiogelu anifail buchol llawn-dwf rhag dioddef poen, dioddefaint, aflonyddwch, anafiadau neu gleisiau diangen pan gaethiwir yr anifail ynddo neu wrth fynd i mewn iddo, ac yn benodol, oni fodlonir yr awdurdod cymwys fod y lloc—
(a)yn cynnwys modd effeithiol i ffrwyno anifail buchol a gaethiwir ynddo (ynghyd ag atalydd addas ar gyfer y pen, at y diben hwnnw);
(b)yn cynnwys modd i gynnal pwysau’r anifail buchol yn ystod ei ladd ac yn dilyn hynny;
(c)yn caniatáu caethiwo un anifail buchol ar y tro ynddo, heb achosi anghysur i’r anifail; a
(d)yn rhwystro anifail buchol rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr, unwaith y’i gosodir yn ei le ar gyfer ei ladd.
(3) Bydd lloc ffrwyno a gymeradwywyd o dan baragraff 3 o Atodlen 12 i Reoliadau 1995, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, yn dod yn lloc ffrwyno a gymeradwyir at ddibenion is-baragraffau (1) a (2).
4. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod y moddion ar gyfer ffrwyno a chynnal pwysau anifail buchol llawn-dwf, a gaethiwir mewn lloc ffrwyno ac a ddisgrifir ym mharagraff 3(2)(a) a (b), yn cael eu defnyddio mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol a gaethiwir yn y lloc;
(b)y cedwir y lloc ffrwyno mewn cyflwr gweithredol da; ac
(c)os yw’r lloc wedi ei addasu ar ôl ei gymeradwyo gan yr awdurdod cymwys, na ddefnyddir y lloc drachefn hyd nes cymeradwyir y lloc o’r newydd gan yr awdurdod cymwys.
5. Rhaid i unrhyw berson sy’n lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw—
(a)sicrhau y lleddir yr anifail drwy dorri ei ddwy rydweli garotid yn ogystal â gwythiennau’r gwddf, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a
(b)yn union cyn lladd, arolygu’r gyllell sydd i’w defnyddio, er mwyn sicrhau—
(i)nad yw wedi ei difrodi; a
(ii)ei bod yn ddigon mawr a llym i ladd y ddafad, gafr neu anifail buchol yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).
6.—(1) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau—
(a)na roddir yr anifail yn y cyfarpar ffrwyno onid yw’r person a fydd yn lladd yr anifail yn barod i wneud y toriad yn union ar ôl rhoi’r anifail yn y cyfarpar; a
(b)bod cyfarpar stynio addas wrth gefn ar gael a gedwir gerllaw’r cyfarpar ffrwyno, i’w ddefnyddio mewn argyfwng ac i’w ddefnyddio ar unwaith os achosir unrhyw boen, dioddefaint neu aflonyddwch diangen i’r anifail neu os oes ganddo unrhyw anafiadau neu gleisiau.
(2) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau, pan nad yw’r anifail wedi ei stynio cyn ei waedu, na osodir yr anifail mewn gefynnau, ei godi na’i symud mewn unrhyw fodd hyd nes bo’n anymwybodol, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos dafad neu afr, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad, a
(b)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad,
ar ôl ei waedu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 5.
7. Rhaid i unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd aderyn yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r aderyn ymlaen llaw—
(a)sicrhau y lleddir yr aderyn drwy dorri ei ddwy rydweli garotid, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a
(b)bod y gyllell sydd i’w defnyddio ar gyfer lladd—
(i)heb ei difrodi; a
(ii)yn ddigon mawr a llym i ladd pob aderyn yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).
8. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd aderyn yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau, pan nad yw’r aderyn wedi ei stynio cyn ei waedu, na chyflawnir unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr aderyn ac na roddir unrhyw ysgogiad trydanol iddo os yw’n dangos unrhyw arwydd o fywyd, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud; a
(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad,
ar ôl ei waedu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 7.
9.—(1) Rhaid i’r Comisiwn Rabinaidd ar gyfer trwyddedu personau i ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) gynnwys cadeirydd parhaol a naw aelod arall.
(2) Rhaid i’r cadeirydd parhaol, yn rhinwedd y swydd honno, fod yn Brif Rabi Cynulleidfaoedd Hebreaidd Unedig Prydain Fawr a’r Gymanwlad.
(3) O blith aelodau eraill y Comisiwn Rabinaidd, ac eithrio’r cadeirydd parhaol—
(a)rhaid i un, sef yr is-gadeirydd, gael ei benodi gan y Synagog Sbaenaidd a Phortiwgeaidd (Llundain);
(b)rhaid i dri gael eu penodi gan y Beth Din a benodir gan y Synagog Unedig (Llundain);
(c)rhaid i ddau gael eu penodi gan y Ffederasiwn Synagogau (Llundain);
(d)rhaid i un gael ei benodi gan Undeb y Cynulleidfaoedd Hebreaidd Uniongred (Llundain); ac
(e)rhaid i ddau gael eu penodi gan Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain i gynrychioli cynulleidfaoedd rhanbarthol.
10.—(1) Mae swyddogaethau’r Comisiwn Rabinaidd yn arferadwy er gwaethaf unrhyw le gwag ymhlith yr aelodau.
(2) Cworwm y Comisiwn Rabinaidd yw pedwar.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: