Search Legislation

Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei darparu

4.—(1Caiff swyddog awdurdodedig sydd â sail resymol dros amau bod person—

(a)yn berson sy’n dod o fewn paragraff (2); a

(b)bod ganddo, neu y gallai fod ganddo yn ei feddiant, neu fod ganddo neu y gallai fod ganddo fynediad at, unrhyw wybodaeth, am unrhyw fater sy’n berthnasol i ddibenion ymchwilio i dwyll tai,

ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i’r person hwnnw ddarparu’r cyfan o’r cyfryw wybodaeth a ddisgrifir yn yr hysbysiad ac sydd ym meddiant y person hwnnw, neu y mae gan y person hwnnw fynediad ati, ac y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ofyn amdani at y diben a grybwyllir felly.

(2Dyma’r personau a ddaw o fewn y paragraff hwn—

(a)unrhyw fanc;

(b)unrhyw berson sy’n cynnal busnes y mae’r cyfan neu ran sylweddol ohono yn cynnwys darparu credyd (boed hwnnw’n sicredig neu’n ansicredig) i aelodau’r cyhoedd;

(c)unrhyw ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth;

(d)unrhyw berson sydd—

(i)yn dal trwydded o dan adran 7 o Ddeddf Nwy 1986(1) i gludo nwy drwy bibellau; neu

(ii)sy’n dal trwydded o dan adran 7A o’r Ddeddf honno(2) i gyflenwi nwy drwy bibellau;

(e)unrhyw berson sydd (yn yr ystyr a roddir i “distribute” a “supply”, yn eu trefn, yn Neddf Trydan 1989(3)) yn dosbarthu neu’n cyflenwi trydan;

(f)unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth telathrebu; neu

(g)unrhyw was neu asiant i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (f).

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, mae’r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn i swyddog awdurdodedig, i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth yn rhinwedd y ffaith bod y person hwnnw yn dod o fewn paragraff (2), yn arferadwy yn unig at ddiben cael gwybodaeth mewn perthynas â pherson penodol a nodir (drwy enw neu ddisgrifiad) gan y swyddog.

(4Ni chaiff swyddog awdurdodedig, wrth arfer y pwerau hynny, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu unrhyw wybodaeth yn rhinwedd y ffaith bod y person hwnnw yn dod o fewn paragraff (2), onid yw’n ymddangos i’r swyddog hwnnw fod seiliau rhesymol dros gredu bod y person y mae’n ymwneud ag ef—

(a)yn berson sydd wedi cyflawni, sy’n cyflawni neu sy’n bwriadu cyflawni trosedd a restrir yn adran 7(7) o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013; neu

(b)yn berson sy’n aelod o deulu person sy’n dod o fewn is-baragraff (a).

(5Nid yw’r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn yn arferadwy at ddiben cael gan unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth telathrebu unrhyw wybodaeth ac eithrio’r wybodaeth sydd (yn yr ystyr a roddir i “communications data” a “traffic data”, yn eu trefn, yn adran 21 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000(4)) yn ddata cyfathrebu ond heb fod yn ddata traffig.

(6Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (3) neu (4) yn atal person awdurdodedig rhag arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn i’w gwneud yn ofynnol bod person sy’n darparu gwasanaeth telathrebu yn darparu gwybodaeth ynglŷn â hunaniaeth a chyfeiriad post person a adnabyddir gan y swyddog awdurdodedig drwy gyfeirio at rif ffôn neu gyfeiriad electronig a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth o’r fath yn unig.

(7Caiff rhwymedigaeth person i ddarparu gwybodaeth yn unol â hysbysiad o dan y rheoliad hwn ei gyflawni yn unig drwy ddarparu’r wybodaeth honno, ar ba adeg resymol ac ar ba ffurf bynnag a bennir yn yr hysbysiad, i’r swyddog awdurdodedig sydd—

(a)yn cael ei nodi gan delerau’r hysbysiad, neu yn unol â hwy; neu

(b)wedi cael ei nodi, ers i’r hysbysiad gael ei roi, gan hysbysiad ysgrifenedig pellach a roddwyd gan y swyddog awdurdodedig a osododd y gofyniad gwreiddiol, neu swyddog awdurdodedig arall.

(8Mae pŵer swyddog awdurdodedig o dan y rheoliad hwn i’w gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddangos ac ildio meddiant ac (os oes angen) i greu unrhyw ddogfennau o’r fath sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad sy’n gosod y gofyniad, neu greu copïau o unrhyw ddogfennau o’r fath neu ddyfyniadau ohonynt.

(9Ni fydd yn ofynnol i unrhyw berson o dan y rheoliad hwn i ddarparu—

(a)unrhyw wybodaeth sy’n tueddu i argyhuddo naill ai’r person hwnnw neu, yn achos person sy’n briod neu sy’n bartner sifil, briod neu bartner sifil y person hwnnw; neu

(b)unrhyw wybodaeth y byddai hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol yn llwyddiannus mewn perthynas â hi mewn unrhyw achos,

ac at ddibenion y paragraff hwn nid yw o bwys a yw’r wybodaeth ar ffurf ddogfennol ai peidio.

(10Yn y rheoliad hwn—

ystyr “banc” (“bank”) yw—

(a)

person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000(5) i dderbyn adneuon;

(b)

cwmni AEE o’r math a grybwyllir ym mharagraff 5(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno(6) sydd â chaniatâd o dan baragraff 15 o’r Atodlen honno(7) (o ganlyniad i gymhwyso am awdurdodiad o dan baragraff 12 o’r Atodlen honno(8)) i dderbyn adneuon neu gronfeydd ad-daladwy eraill gan y cyhoedd; neu

(c)

person nad yw’n ofynnol iddo gael caniatâd o dan y Ddeddf honno i dderbyn adneuon yn rhan o fusnes y person hwnnw yn y Deyrnas Unedig;

mae gan “gwasanaeth telathrebu” yr un ystyr a roddir i “telecommunications service” yn Neddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000; ac

mae “teulu” (“family”) i’w ddehongli yn unol ag adran 113 o Ddeddf Tai 1985(9).

(11Rhaid darllen y diffiniad o “banc” (“bank”) ym mharagraff (10) yn unol ag—

(a)adran 22 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000(10);

(b)unrhyw orchymyn perthnasol o dan yr adran honno; ac

(c)Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(1)

1986 p.44. Amnewidiwyd adran 7 gan adran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p.45) a diwygiwyd is-adran (1) wedi hynny gan adran 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27). Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i’r is-adran honno ac adran 7 yn fwy cyffredinol yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mewnosodwyd adran 7A gan adran 6(1) o Ddeddf Nwy 1995 (p.45). Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) wedi hynny gan adran 3(2) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27); diwygiwyd is-adran (2) ymhellach gan adran 108 o’r Ddeddf honno a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 6 iddi; a diwygiwyd is-adran (3) gan adran 149 o Ddeddf Ynni 2004 (p.20). Gwnaed diwygiadau eraill i adran 7A nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

2000 p.8. Mewnosodwyd Rhan 4A gan adran 11(2) o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 2012 (p.21).

(6)

Amnewidiwyd is-baragraff (b) gan reoliad 29 o O.S. 2006/3221, a pharagraff 2 o Atodlen 3 iddo.

(7)

Diwygiwyd is-baragraff (1) o baragraff 15 gan O.S. 2007/3253. Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i baragraff 15 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

Mewnosodwyd is-baragraff (9) o baragraff 12 gan O.S. 2012/1906. Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i baragraff 12 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

Amnewidiwyd y pennawd i adran 22 gan adran 7(1)(d) o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 2012 (p.21). Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i adran 22 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources