Search Legislation

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 3Rheolaeth Ariannol a Rheoli Mewnol

Cyfrifoldeb am reoli mewnol a rheolaeth ariannol

5.—(1Rhaid i’r corff perthnasol sicrhau bod system gadarn o reoli mewnol sy’n hwyluso gweithrediad effeithiol swyddogaethau’r corff hwnnw ac sy’n cynnwys—

(a)trefniadau ar gyfer rheoli risg, a

(b)rheolaeth ariannol ddigonol ac effeithiol.

(2Rhaid i’r corff perthnasol gynnal adolygiad o leiaf unwaith mewn blwyddyn ar effeithiolrwydd ei systemau rheoli mewnol.

(3Rhaid i ganfyddiadau’r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gael eu hystyried—

(a)yn achos corff perthnasol mwy, gan aelodau’r corff yn cyfarfod yn ei gyfanrwydd neu gan bwyllgor, a

(b)yn achos corff perthnasol llai, gan aelodau’r corff yn cyfarfod yn ei gyfanrwydd.

(4Ar ôl yr adolygiad, rhaid i’r corff neu’r pwyllgor gymeradwyo datganiad ar reoli mewnol a baratowyd yn unol ag arferion priodol.

(5Rhaid i’r corff perthnasol sicrhau bod y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn mynd gydag—

(a)unrhyw ddatganiad o gyfrifon y mae’n ddyletswydd arno i’w baratoi yn unol â rheoliad 8; neu

(b)unrhyw ddatganiad cyfrifyddu y mae’n ddyletswydd arno i’w baratoi yn unol â rheoliad 14.

Cofnodion cyfrifyddu a systemau rheoli

6.—(1Rhaid i swyddog ariannol cyfrifol corff perthnasol benderfynu ar ran y corff, ar ôl ystyried, lle bo’n briodol, arferion priodol, ei—

(a)cofnodion cyfrifyddu, gan gynnwys ffurf y cyfrifon a’r cofnodion cyfrifyddu ategol, a

(b)systemau rheoli cyfrifyddu,

a rhaid i’r swyddog hwnnw sicrhau bod y systemau rheoli cyfrifyddu a benderfynir gan y swyddog hwnnw yn cael eu dilyn a bod cofnodion cyfrifyddu’r corff yn cael eu diweddaru a’u cynnal yn unol â gofynion unrhyw ddeddfiad ac arferion priodol.

(2Rhaid i’r cofnodion cyfrifyddu y penderfynir arnynt yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)bod yn ddigonol i ddangos ac esbonio trafodion ariannol corff perthnasol ac i alluogi’r swyddog ariannol cyfrifol i sicrhau bod unrhyw ddatganiad o gyfrifon neu ddatganiad cyfrifyddu a gaiff eu paratoi o dan y Rheoliadau hyn, yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn; a

(b)cynnwys—

(i)cofnodion o ddydd i ddydd o’r holl symiau o arian a dderbynnir ac a warir gan y corff a’r materion y mae’r cyfrifon incwm a gwariant neu dderbyniadau a thaliadau yn ymwneud â hwy;

(ii)cofnod o asedau a rhwymedigaethau’r corff; a

(iii)cofnod o incwm a gwariant y corff mewn perthynas â hawliadau a wnaed ganddo, neu sydd i’w gwneud ganddo, am gyfraniad, grant neu gymhorthdal gan Weinidogion Cymru, unrhyw Weinidog y Goron neu gorff y caiff Gweinidogion Cymru neu’r Gweinidog hwnnw dalu symiau o arian iddo.

(3Rhaid i’r systemau rheoli cyfrifyddu y penderfynir arnynt yn unol â pharagraff (1)(b) gynnwys—

(a)mesurau i sicrhau bod trafodion ariannol y corff yn cael eu cofnodi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac mor gywir ag sy’n rhesymol bosibl, mesurau i alluogi rhwystro a chanfod anghywirdebau a thwyll, a’r gallu i ailgyfansoddi unrhyw gofnodion a gollwyd;

(b)dynodi dyletswyddau swyddogion sy’n ymwneud â thrafodion ariannol a rhannu cyfrifoldebau’r swyddogion hynny mewn perthynas â thrafodion arwyddocaol;

(c)gweithdrefnau i sicrhau nad yw symiau anghasgladwy, gan gynnwys dyledion drwg, yn cael eu diddymu ac eithrio gyda chymeradwyaeth y swyddog ariannol cyfrifol, neu unrhyw aelod o staff y person hwnnw a enwebwyd at y diben hwn, ac y dangosir y gymeradwyaeth yn y cofnodion cyfrifyddu; a

(d)mesurau i sicrhau y rheolir risg yn briodol.

Archwilio mewnol

7.—(1Rhaid i gorff perthnasol gynnal system ddigonol ac effeithiol o archwilio mewnol o’i gofnodion cyfrifyddu a’i system o reoli mewnol.

(2Rhaid i unrhyw swyddog neu aelod o’r corff hwnnw, os yw’r corff yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)trefnu bod unrhyw ddogfennau’r corff sy’n ymwneud â’i gofnodion cyfrifyddu a chofnodion eraill ar gael fel y mae’n ymddangos i’r corff hwnnw ei fod yn angenrheidiol at ddibenion yr archwiliad; a

(b)rhoi i’r corff y cyfryw wybodaeth ac esboniad y mae’r corff hwnnw’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw.

(3Rhaid i gorff perthnasol mwy, o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn, gynnal adolygiad o effeithiolrwydd ei archwiliad mewnol.

(4Rhaid ystyried canfyddiadau’r adolygiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), fel rhan o’r ystyriaeth o’r system o reoli mewnol y cyfeirir ati yn rheoliad 5(3), gan y pwyllgor neu’r corff y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources