Search Legislation

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 3111 (Cy. 311)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014

Gwnaed

18 Tachwedd 2014

Yn dod i rym

19 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9 ac 16 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012(1).

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 21(4) o’r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

Diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf

2.—(1Mae Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964, mewnosoder—

Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg 1973Ymgymeriadau gwresogiCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

(3Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—

Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985Canolfannau hamddenCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

(4Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—

Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986Yr afon uwchlawCyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987Harbwr PorthcawlCyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Canolfannau hamddenCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyrCyngor sir a chyngor bwrdeistref siro
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Marchnad AbertaweCyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

(5Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.

Diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf

3.—(1Mae Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—

Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985Canolfannau hamddenCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

(3Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—

Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986Yr afon uwchlawCyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987Harbwr PorthcawlCyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Canolfannau hamddenCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Marchnad AbertaweCyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

(4Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”), a gwnaed y Gorchymyn hwn o dan adrannau 9 ac 16 o’r Ddeddf.

Mae adran 9 o’r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o is-ddeddfau y caiff y mathau perthnasol o awdurdodau eu gwneud heb eu cadarnhau. Mae erthygl 2 yn diwygio Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae adran 16 o’r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau y caiff is-ddeddfau oddi tanynt ddarparu ar gyfer hysbysiadau cosbau penodedig. Mae erthygl 3 yn diwygio Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources