Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 26

ATODLEN 2CYFRANIAD Y MYFYRIWR

RHAN 1Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau Rhan 2 o’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifo mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n union o flaen y flwyddyn berthnasol;

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn cysylltiad â hi;

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr cymwys) a pharagraff 4 (yn achos partner myfyriwr);

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 3, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth ar ei chyfer ac, mewn perthynas â pharagraff 4, (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion—

(a)

y Deddfau Treth Incwm;

(b)

deddfwriaeth treth incwm un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir sy’n gymwys i incwm y person;

(c)

os yw deddfwriaeth mwy nag un o Aelod-wladwriaethau’r AEE neu o un o Aelod-wladwriaethau’r AEE a’r Swistir yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),

ac eithrio na wneir cyfrif o’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a dalwyd i barti arall;

mae i “incwm yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)

priod y myfyriwr cymwys;

(ii)

partner sifil y myfyriwr cymwys;

(iii)

person sydd fel arfer yn byw gyda’r myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod â’r myfyriwr os yw’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a bod y myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)

person sydd fel arfer yn byw gyda’r myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn bartner sifil i’r myfyriwr os yw’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a bod y myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu riant mabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(1) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(2) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

RHAN 2Cyfrifo cyfraniad

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr cymwys a chanddo bartner, yw cyfanswm incwm gweddilliol y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw; neu

(b)yn achos myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae swm o £1,130 i’w ddidynnu am bob plentyn sy’n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu ar bartner y myfyriwr cymwys.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr

3.—(1Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o incwm trethadwy y myfyriwr cymwys (onid yw eisoes wedi ei ddidynnu wrth ganfod beth yw ei incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau canlynol—

(a)unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw’r gydnabyddiaeth honno’n cynnwys unrhyw symiau a delir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fo gan y myfyriwr cymwys ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi ei ryddhau o’i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(3), neu pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm.

(2Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwn at ddiben y paragraff hwn—

(a)os yw’r myfyriwr yn prynu sterling â’r incwm, yw swm y sterling a gaiff y myfyriwr felly; neu

(b)fel arall, yw gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd ar gyfer y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(4).

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

4.—(1At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy partner myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn), nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu

(c)o dan is-baragraff (2),

i’w gwneud na’u caniatáu.

(2Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau canlynol—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6), unrhyw symiau sy’n gyfwerth â’r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na’r didyniadau a wneid os byddai’r cyfan o incwm partner y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac

(c)yn yr achos pan fo gan A ddyfarniad statudol, £1,130.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm A yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, ddarganfod beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, ddarganfod beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol A gyfartaledd incwm gweddilliol A ar gyfer pob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n dod oddi mewn iddynt.

(5Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod incwm A yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes y mae A yn ei rhedeg neu broffesiwn y mae A yn ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i’w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n gysylltiedig â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw A yn derbyn unrhyw incwm nad yw’n rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir dim ond oherwydd—

(a)nad yw A yn preswylio neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu pan gyfrifir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, nad yw’n preswylio felly neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;

(b)nad yw’r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu pan gyfrifir incwm A at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, nad yw’n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu

(c)bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o’r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddiben yr Atodlen hon i’w gyfrifo fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm A yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, mae i’w gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu’r Swistir ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â’r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, fel y’i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os bydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner i’w gymryd i gyfrif wrth ganfod incwm yr aelwyd.

(9Os bydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â phum deg dau a’i luosi â nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oedd y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys i bob un ohonynt.

Cyfrifo cyfraniad

5.—(1Mae cyfraniad myfyriwr cymwys i’w gyfrifo yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Y cyfraniad sy’n daladwy gan fyfyriwr cymwys yw—

(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £50,753, £1 am bob £5 uwchben incwm aelwyd o £50,753; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £50,753 neu lai, dim.

(3Nid yw swm y cyfraniad i fod yn fwy na £6,208.

(1)

1973 p. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16. Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3.

(2)

2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934, a diwygiwyd Rhan 7 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.

(3)

2004 p. 12. Diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.

(4)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources