Search Legislation

(Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2653 (Cy. 261)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Gorchymyn Y Dreth Gyngor

(Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed

24 Medi 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2014

Yn dod i rym

22 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru(1), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 22 Hydref 2014.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992(3).

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992

3.  Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn erthygl 2, ar ôl y diffiniad o “multiple property” mewnosoder—

“refuge” means a building in Wales which is operated by a person otherwise than for profit and is used wholly or mainly for the temporary accommodation of persons who have been subject to any incident or pattern of incidents of—

(i)

controlling, coercive or threatening behaviour;

(ii)

physical violence;

(iii)

abuse of any other description (whether physical or mental in nature); or

(iv)

threats of any such violence or abuse,

from persons to whom they are or were married, are or were in a civil partnership or with whom they are or were co-habiting;;

(b)yn erthygl 3, yn lle “article 3A” rhodder “articles 3A and 3B”;

(c)ar ôl erthygl 3A, mewnosoder yr erthygl a ganlyn—

3B.  A refuge must be treated as a single dwelling.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) ac mae’n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992 (“Gorchymyn 1992”).

Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio “dwelling” at ddibenion darpariaeth y dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy’n cynnwys mwy nag un uned hunangynhaliol fel pe bai wedi ei ffurfio o’r un nifer o anheddau â’r nifer o unedau hunangynhaliol yn yr eiddo hwnnw. Diffinnir “single property” yng Ngorchymyn 1992 fel eiddo a fyddai, ar wahân i’r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr “one dwelling” yn adran 3 o Ddeddf 1992.

Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio unwaith o’r blaen i ddarparu nad yw unedau hunangynhaliol ar wahân mewn cartref gofal yn cael eu hystyried yn anheddau ar wahân (gweler erthygl 3A o Orchymyn 1992, a fewnosodwyd gan Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 3B newydd i Orchymyn 1992. Effaith hyn yw fod yn rhaid trin lloches (o fewn ystyr y diffiniad o “refuge” a fewnosodir i erthygl 2 o Orchymyn 1992 gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn) yng Nghymru fel un annedd at ddiben darpariaeth y dreth gyngor, hyd yn oed os yw’r eiddo wedi ei ffurfio o fwy nag un uned hunangynhaliol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Trethi Lleol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn ymwneud â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources