- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
24 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 22(2) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 1) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
2. 15 Awst 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau canlynol o’r Ddeddf i rym—
(a)adran 9 (pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf);
(b)adran 12(13) (pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosbau penodedig o dan y Ddeddf);
(c)adran 13(3) (pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm cosbau penodedig);
(d)adran 13(4) (pwerau i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu i ba raddau y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o’r Ddeddf a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny); ac
(e)adran 16 (pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
24 Gorffennaf 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 15 Awst 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau o’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:
adran 9 (pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf);
adran 12(13) (pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosbau penodedig o dan y Ddeddf);
adran 13(3) (pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm y cosbau penodedig);
adran 13(4) (pwerau i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu i ba raddau y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o’r Ddeddf a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny); ac
adran 16 (pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf).
Daeth adrannau 18(1) (pŵer i roi canllawiau), 21 (gorchmynion a rheoliadau), 22 (cychwyn), a 23 (enw byr) o’r Ddeddf i rym ar 30 Tachwedd 2012.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: