- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
6 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
2 Awst 2014
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 2 Awst 2014.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned(3); ac
(b)ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(4).
(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’r cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.
2.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran llwyth o’r canlynol, neu ran o lwyth o’r fath sy’n cynnwys—
(a)planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, neu
(b)hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,
a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.
(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—
(a)y ffi a bennir—
(i)yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion, neu ran o lwyth o’r fath, y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, a
(ii)yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno ac sy’n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath; a
(b)y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth hwnnw yw—
(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5).
3.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â’r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, sy’n ymwneud â chais am y canlynol—
(a)ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(6);
(b)awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o’r Rheoliadau hynny.
(2) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.
(3) Rhaid talu’r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 ar ran Gweinidogion Cymru.
4.—(1) Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o’r GIP.
(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r math hwnnw o gais neu arolygiad.
5.—(1) Rhaid talu’r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)cais am awdurdod; neu
(b)sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdod.
(2) Y ffi yw £46.10(7) am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £92.19(8) am bob ymweliad.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(9) neu erthygl 29 o’r GIP.
6.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. mewn cysylltiad â’r Aifft(10).
7.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus, er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Clavibacter michiganensis isrywogaeth Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymu darpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn perthynas â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa yn Libanus(11).
8.—(1) Pan fo unrhyw swm sy’n ddyledus fel neu ar gyfrif unrhyw ffi neu ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn heb ei dalu, caniateir i Weinidogion Cymru—
(a)adennill y swm fel dyled sifil;
(b)ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr dros dro tan fod y swm wedi ei dalu.
(2) Yn y rheoliad hwn mae i “cofrestredig”, “masnachwr planhigion” a “cofrestriad” yr ystyron a roddir i “registered”, “plant trader” a “registration” yn eu tro gan erthygl 2(1) o’r GIP.
9. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013(12) wedi eu dirymu.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2014
Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)
Colofn 1 Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall | Colofn 2 Swm | Colofn 3 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) | Colofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£) |
---|---|---|---|
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau | hyd at 10,000 o ran nifer | 47.87 | 71.80 |
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny | 1.91, hyd at uchafswm o 382.92 | 2.87, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau) | hyd at 1,000 o ran nifer | 47.87 | 71.80 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny | 1.17, hyd at uchafswm o 382.92 | 1.76, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu | hyd at 200 kg | 47.87 | 71.80 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 0.44, hyd at uchafswm o 382.92 | 0.65, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Hadau, meithriniadau meinwe | hyd at 100 kg | 20.51 | 30.77 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 0.47, hyd at uchafswm o 382.92 | 0.70, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon | hyd at 5,000 o ran nifer | 47.87 | 71.80 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny | 0.47, hyd at uchafswm o 382.92 | 0.70, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Blodau wedi’u torri | hyd at 20,000 o ran nifer | 47.87 | 71.80 |
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny | 0.37, hyd at uchafswm o 382.92 | 0.55, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri) | hyd at 100 kg | 47.87 | 71.80 |
am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 4.76, hyd at uchafswm o 382.92 | 7.14, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Coed Nadolig wedi’u torri | hyd at 1,000 o ran nifer | 47.87 | 71.80 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny | 4.76, hyd at uchafswm o 382.92 | 7.14, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | hyd at 100 kg | 47.87 | 71.80 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 4.76, hyd at uchafswm o 382.92 | 7.14, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) | hyd at 25,000 kg | 47.87 | 71.80 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 1.91 | 2.87 | |
Cloron tatws | hyd at 25,000 kg | 143.60 (am bob lot) | 215.39 (am bob lot) |
am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 143.60 (am bob lot) | 215.39 (am bob lot) | |
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl | hyd at 25,000 kg | 47.87 | 71.80 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 1.91, hyd at uchafswm o 382.92 | 2.87, hyd at uchafswm o 574.38 | |
Grawn | hyd at 25,000 kg | 47.87 | 71.80 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 1.91, hyd at uchafswm o 1914.60 | 2.87, hyd at uchafswm o 2871.90 | |
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd | am bob llwyth | 47.87 | 71.80 |
Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)
Colofn 1 Genws | Colofn 2 Swm | Colofn 3 Gwlad tarddiad | Colofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) | Colofn 5 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£) |
---|---|---|---|---|
Blodau wedi’u torri | ||||
Dianthus | hyd at 20,000 o ran nifer | Colombia | 1.43 | 2.15 |
Ecuador | 7.18 | 10.77 | ||
Kenya | 2.39 | 3.59 | ||
Twrci | 11.96 | 17.95 | ||
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | 0.01 hyd at uchafswm o 11.48 | 0.01, hyd at uchafswm o 17.23 | |
Ecuador | 0.05, hyd at uchafswm o 57.43 | 0.08, hyd at uchafswm o 86.15 | ||
Kenya | 0.02, hyd at uchafswm o 19.14 | 0.03, hyd at uchafswm o 28.71 | ||
Twrci | 0.09, hyd at uchafswm o 95.73 | 0.13, hyd at uchafswm o 143.59 | ||
Rosa | hyd at 20,000 o ran nifer | Colombia | 1.43 | 2.15 |
Ecuador | 1.43 | 2.15 | ||
Ethiopia | 4.78 | 7.18 | ||
Kenya | 2.39 | 3.59 | ||
Tanzania | 7.18 | 10.77 | ||
Zambia | 11.96 | 17.95 | ||
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | 0.01, hyd at uchafswm o 11.48 | 0.01, hyd at uchafswm o 17.23 | |
Ecuador | 0.01 hyd at uchafswm o 11.48 | 0.01, hyd at uchafswm o 17.23 | ||
Ethiopia | 0.04, hyd at uchafswm o 38.29 | 0.06, hyd at uchafswm o 57.43 | ||
Kenya | 0.02, hyd at uchafswm o 19.14 | 0.03, hyd at uchafswm o 28.71 | ||
Tanzania | 0.05, hyd at uchafswm o 57.43 | 0.08, hyd at uchafswm o 86.15 | ||
Zambia | 0.09, hyd at uchafswm o 95.73 | 0.13, hyd at uchafswm o 143.59 | ||
Canghennau gyda deiliant | ||||
Phoenix | hyd at 100 kg | Costa Rica | 16.75 | 25.13 |
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny | Costa Rica | 1.66, hyd at uchafswm o 134.02 | 2.49, hyd at uchafswm o 201.03 | |
Ffrwythau | ||||
Citrus | hyd at 25,000 kg | Yr Aifft | 7.18 | 10.77 |
Israel | 4.78 | 7.18 | ||
Mecsico | 7.18 | 10.77 | ||
Moroco | 2.39 | 3.59 | ||
Periw | 7.18 | 10.77 | ||
Tunisia | 11.96 | 17.95 | ||
Twrci | 1.43 | 2.15 | ||
Uruguay | 7.18 | 10.77 | ||
UDA | 7.18 | 10.77 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Yr Aifft | 0.28 | 0.43 | |
Israel | 0.19 | 0.28 | ||
Mecsico | 0.28 | 0.43 | ||
Moroco | 0.09 | 0.14 | ||
Periw | 0.28 | 0.43 | ||
Tunisia | 0.47 | 0.71 | ||
Twrci | 0.05 | 0.08 | ||
Uruguay | 0.28 | 0.43 | ||
UDA | 0.28 | 0.43 | ||
Malus | hyd at 25,000 kg | Ariannin | 11.96 | 17.95 |
Brasil | 11.96 | 17.95 | ||
Chile | 2.39 | 3.59 | ||
Seland Newydd | 4.78 | 7.18 | ||
De Affrica | 2.39 | 3.59 | ||
UDA | 23.93 | 35.90 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Ariannin | 0.47 | 0.71 | |
Brasil | 0.47 | 0.71 | ||
Chile | 0.09 | 0.14 | ||
Seland Newydd | 0.19 | 0.28 | ||
De Affrica | 0.09 | 0.14 | ||
UDA | 0.95 | 1.43 | ||
Mangifera | hyd at 25,000 kg | Brasil | 23.93 | 35.90 |
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Brasil | 0.95 | 1.43 | |
Passiflora | hyd at 25,000 kg | Colombia | 4.78 | 7.18 |
Kenya | 4.78 | 7.18 | ||
De Affrica | 16.75 | 25.13 | ||
Zimbabwe | 35.90 | 53.85 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | 0.19 | 0.28 | |
Kenya | 0.19 | 0.28 | ||
De Affrica | 0.66 | 1.00 | ||
Zimbabwe | 1.43 | 2.15 | ||
Prunus | hyd at 25,000 kg | Ariannin | 23.93 | 35.90 |
Chile | 4.78 | 7.18 | ||
Moroco | 23.93 | 35.90 | ||
De Affrica | 4.78 | 7.18 | ||
Twrci | 7.18 | 10.77 | ||
UDA | 7.18 | 10.77 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Ariannin | 0.95 | 1.43 | |
Chile | 0.19 | 0.28 | ||
Moroco | 0.95 | 1.43 | ||
De Affrica | 0.19 | 0.28 | ||
Twrci | 0.28 | 0.43 | ||
UDA | 0.28 | 0.43 | ||
Pyrus | hyd at 25,000 kg | Ariannin | 4.78 | 7.18 |
Chile | 11.96 | 17.95 | ||
Tsieina | 23.93 | 35.90 | ||
De Affrica | 4.78 | 7.18 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Ariannin | 0.19 | 0.28 | |
Chile | 0.47 | 0.71 | ||
Tsieina | 0.95 | 1.43 | ||
De Affrica | 0.19 | 0.28 | ||
Vaccinium | hyd at 25,000 kg | Ariannin | 11.96 | 17.95 |
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Ariannin | 0.47 | 0.71 | |
Llysiau | ||||
Capsicum | hyd at 25,000 kg | Israel | 2.39 | 3.59 |
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Israel | 0.09 | 0.14 | |
Momordica | hyd at 25,000 kg | Surinam | 16.75 | 25.13 |
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Surinam | 0.66 | 1.00 | |
Solanum melongena | hyd at 25,000 kg | Kenya | 4.78 | 7.18 |
Twrci | 4.78 | 7.18 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Kenya | 0.19 | 0.28 | |
Twrci | 0.19 | 0.28 |
Rheoliad 2(2)(b)
Colofn 1 Gwiriad | Colofn 2 Swm | Colofn 3 Ffi (£) |
---|---|---|
Dogfennol | am bob llwyth | 5.71 |
Adnabod | am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol | 5.71 |
am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod | 11.42 |
Rheoliad 3
Colofn 1 Swyddogaeth | Colofn 2 Ffi(1) (£) | Colofn 3 Isafswm ffi (£) | |
---|---|---|---|
(1) Mae’r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a’r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar | |||
Arolygu cnydau sy’n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau | |||
Ardystio fel tatws hadyd cynsylfaenol | 129.84* | d/g | |
Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel: | super elite 1, super elite 2 neu super elite 3 | 64.92 | 129.84 |
elite 1, elite 2 neu elite 3 | 64.92 | 129.84 | |
A | 61.71 | 123.43 | |
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig | 56.10 | 112.20 | |
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd | 129.84* | d/g | |
Arolygu cloron a gynaeafwyd | |||
Hyd at ddau arolygiad | 19.24 | 38.47 | |
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol | 129.84* | d/g |
Rheoliad 4(2)
Colofn 1 Eitem | Colofn 2 Math o gais neu arolygiad | Colofn 3 Ffi (£) |
---|---|---|
1 | Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy’n dod o fewn eitem 2 neu 3 neu 5 | 809.83 |
2 | Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi | 584.14 |
3 | Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy’n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau | 809.83, plws 31.86 am bob math o beth dros ben y 5 |
4 | Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol | 265.21 |
5 | Cais am drwydded i awdurdodi cyflwyno tatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar neu Bekaa yn Libanus | 31.86 |
6 | Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol | 31.86 |
7 | Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded. | 46.11 am bob awr neu ran o awr |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1700 (Cy. 164)) (“Rheoliadau 2013”) (rheoliad 9).
Mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1).
Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3) yn unol â’r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC.
Lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau hyn yw’r rhan olaf o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy’n adennill y gost lawn. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gostyngiad a chynnydd cyfartalog ar y ffioedd a bennwyd yn Rheoliadau 2013, ac ar gyfer eu cadw heb eu newid, fel a ganlyn:
(1) gostwng ffioedd arolygu mewnforio (heblaw gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod) yn ôl 3.5% (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);
(2) cynyddu ffioedd gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod wrth fewnforio yn ôl 24.5% (rheoliad 2 ac Atodlen 3);
(3) cadw ffioedd ynglŷn ag arolygu tatws hadyd heb eu newid (rheoliad 3 ac Atodlen 4);
(4) cynyddu ffioedd trwyddedu yn ôl 2.2% (rheoliad 4 ac Atodlen 5);
(5) cynyddu ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion yn ôl 21.2% (rheoliad 5); a
(6) cadw ffioedd am arolygu tatws sy’n tarddu o’r Aifft heb eu newid (rheoliad 6).
Cyflwynir ffioedd newydd ynglŷn â thatws sy’n tarddu o Libanus fel a ganlyn: £31.86 am gais am drwydded (Atodlen 5, eitem 5) a £117.39 am arolygu (rheoliad 7).
Mae rheoliad 8 yn nodi canlyniadau peidio â thalu unrhyw ffi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiadau effaith rheoleiddiol wedi eu paratoi (ar gyfer mwyafrif y ffioedd a bennir) o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. O ran ffioedd mewn perthynas â thatws sy’n tarddu o Libanus, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copïau o’r asesiadau effaith rheoleiddiol oddi wrth y Tîm Amgylchedd Naturiol ac Amaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1973 p. 51. Diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043, erthygl 6(1)(e).
Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p. 32.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/19/EU (OJ Rhif L 38, 07.02.2014, t. 30).
O.S. 2006/1643 (Cy. 158); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/2781 (Cy. 248), 2009/1376 (Cy. 137), O.S. 2011/1043 ac O.S. 2013/888 (Cy. 100).
1971 p. 80; gweler adran 1 ac Atodlen 1.
O.S. 2006/2929 (Cy. 264), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y ffi gyfatebol a oedd yn daladwy o dan reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1700 (Cy. 164)) cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn oedd £38.05.
Y ffi isaf gyfatebol a oedd yn daladwy o dan reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn oedd £76.10.
O.S. 2006/1344 (Cy. 134), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t. 112.
OJ Rhif L 205, 1.8.2013, t .13.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: