Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1763 (Cy. 178)

Cartrefi Symudol, Cymru

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014

Gwnaed

2 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym

1 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 52(3) ac (8), 63(1), (8) a (9) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1), a pharagraffau 9(4) a (6), 10(5), (7), (8) a (10), 11(2) a (4), 12(2) a (5) a 13(5), (7) a (9) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cytundeb” (“agreement”) yw cytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;

ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 49(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “Deddf 2013(“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;

mae i “ffi am y llain” (“pitch fee”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013;

mae i “llain” (“pitch”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55(1) o Ddeddf 2013;

mae i “meddiannydd” (“occupier”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55 o Ddeddf 2013;

ystyr “meddiannydd arfaethedig” (“proposed occupier”) yw person y mae’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg iddo ac aseinio’r cytundeb sy’n ymwneud â’r cartref symudol iddo;

ystyr “rheolau cyn cychwyn” (“pre-commencement rules”), mewn perthynas â safle, yw rheolau a wneir gan y perchennog cyn i adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn, sy’n ymwneud â mater a grybwyllir yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;

mae i “rheolau safle” (“site rules”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;

ystyr “safle” (“site”) yw safle gwarchodedig fel y’i diffinnir yn adran 2(2) o Ddeddf 2013; ac

mae i “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013.

Gwerthu cartref symudol: darparu gwybodaeth a dogfennau i feddiannydd arfaethedig

3.—(1Dyma’r dogfennau a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—

(a)copi o’r cytundeb a’r datganiad ysgrifenedig;

(b)pan gafodd y cytundeb ei aseinio i’r meddiannydd, copi o’r offeryn sy’n rhoi effaith i’r aseiniad hwnnw;

(c)copi o unrhyw reolau cyn cychwyn ar gyfer y safle sydd mewn grym;

(d)copi o unrhyw reolau safle ar gyfer y safle sydd mewn grym;

(e)tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau sy’n ymwneud â’r cartref symudol neu’r safle sy’n daladwy i’r perchennog neu i drydydd parti ar gyfer nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill, gan gynnwys manylion pryd y mae angen talu’r taliadau hyn a phryd y mae angen eu hadolygu nesaf;

(f)tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau eraill sy’n ymwneud â’r cartref symudol neu’r safle sy’n daladwy i’r perchennog neu i drydydd parti, gan gynnwys taliadau ar gyfer defnyddio garej, lle parcio neu dŷ allan;

(g)copi o unrhyw warant ar gyfer y cartref symudol sy’n parhau yn ddilys ac sydd ym meddiant y meddiannydd; ac

(h)copi o unrhyw arolwg strwythurol o’r cartref symudol, sylfaen neu lain sydd wedi ei gomisiynu gan y meddiannydd a’i gynnal gan berson cymwys addas yn y 12 mis cyn y dyddiad pan gaiff y dogfennau eu darparu i’r meddiannydd arfaethedig.

(2Pan nad yw’r meddiannydd yn gallu darparu unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid darparu eglurhad ysgrifenedig i’r meddiannydd arfaethedig yn egluro pam.

(3Dyma’r wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—

(a)y pris arfaethedig ar gyfer gwerthu’r cartref symudol;

(b)manylion y comisiwn a fyddai’n daladwy gan y meddiannydd arfaethedig yn rhinwedd paragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd);

(c)manylion y ffi am y llain sy’n daladwy i’r perchennog, gan gynnwys pryd y mae’n daladwy a’r dyddiad adolygu nesaf (mae i “dyddiad yr adolygiad” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 1 o Bennod 1 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013);

(d)manylion unrhyw ôl-ddyledion ffioedd am y llain neu unrhyw daliadau eraill sy’n daladwy o dan y cytundeb sydd heb eu talu ar yr adeg pan gaiff y dogfennau a’r wybodaeth sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn eu darparu i’r meddiannydd arfaethedig, a manylion unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda’r perchennog ynghylch clirio unrhyw ôl-ddyledion o’r fath;

(e)band prisio’r dreth gyngor sy’n berthnasol i’r cartref symudol;

(f)enw’r perchennog a’r cyfeiriad lle gellir cyflwyno hysbysiadau i’r perchennog, ar yr amod bod yr wybodaeth hon wedi ei darparu i’r meddiannydd yn unol â pharagraff 24 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 neu, pan nad yw’r cyfeiriad hwn wedi cael ei ddarparu, unrhyw gyfeiriad hysbys arall ar gyfer y perchennog;

(g)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y mae’r cartref symudol wedi ei leoli yn ei ardal;

(h)eglurhad o’r gofynion gweithdrefnol a ragnodir yn rheoliadau 9 a 10;

(i)y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei wneud a, pan nad oedd y meddiannydd yn un o bartïon gwreiddiol y cytundeb, y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei aseinio i’r meddiannydd;

(j)pan nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, eglurhad o effaith paragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (ac mae i “cytundeb newydd” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 9(2) o’r Bennod honno);

(k)datganiad yn cadarnhau mai’r meddiannydd yw perchennog cyfreithiol y cartref symudol a’i fod yn gwerthu’r cartref symudol gyda meddiant gwag ac nad oes unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu mewn perthynas â’r cartref symudol; ac

(l)manylion unrhyw achosion cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r cartref symudol, y cytundeb neu’r safle y mae’r meddiannydd yn barti iddo ac sydd wedi eu cyhoeddi neu eu cychwyn, ond nad ydynt wedi cael eu gwaredu neu eu tynnu’n ôl, ar yr adeg y caiff yr wybodaeth ei danfon neu ei hanfon at y meddiannydd arfaethedig.

(4Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1, neu mewn ffurf sy’n cael yr un effaith yn sylweddol.

Cytundebau presennol: Hysbysiad o’r bwriad i werthu

4.—(1Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 10(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6).

(2Ym mhob achos mae’r wybodaeth yn cynnwys—

(a)enw’r meddiannydd arfaethedig;

(b)eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac

(c)ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.

(3Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—

(a)bod y meddiannydd wedi darparu copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a

(b)bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a bod y meddiannydd arfaethedig yn gallu cydymffurfio â hwy.

(4Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran y meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.

(5Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, frîd y ci).

(6Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu parcio ar y safle.

(7Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

Cytundebau presennol: Hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref yn anrheg

5.—(1Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 13(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6) o’r rheoliad hwn.

(2Ym mhob achos, mae’r wybodaeth yn cynnwys—

(a)enw’r meddiannydd arfaethedig ;

(b)eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac

(c)ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.

(3Mewn achosion pan fo gan y safle gwarchodedig reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—

(a)bod y meddiannydd wedi rhoi copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a

(b)bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a’i fod yn gallu cydymffurfio â hwy.

(4Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.

(5Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, brîd y ci).

(6Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu ei barcio ar y safle.

(7Rhaid i’r wybodaeth—

(a)cael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 3 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a

(b)mynd gyda’r dystiolaeth berthnasol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).

Rhoi cartref symudol yn anrheg: tystiolaeth bod y meddiannydd arfaethedig yn aelod o deulu’r meddiannydd

6.  Y dystiolaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 12(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, yw’r dystiolaeth a ddarperir gan un neu ragor o’r canlynol—

(a)gwybodaeth ysgrifenedig ar lw a roddir gan y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig sy’n egluro perthynas y meddiannydd arfaethedig â’r meddiannydd;

(b)tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu;

(c)tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil.

Cytundebau presennol: ar ba seiliau y caiff perchennog y safle wneud cais am orchymyn gwrthod

7.—(1Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 10(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (gwerthu cartref symudol: cytundebau presennol) yw, pe bai’r meddiannydd arfaethedig yn dod yn feddiannydd, y byddai’r meddiannydd arfaethedig neu berson sy’n bwriadu preswylio gyda’r meddiannydd arfaethedig yn torri rheol cyn cychwyn neu reol safle—

(a)oherwydd oedran;

(b)drwy gadw anifeiliaid y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol;

(c)drwy barcio cerbydau ar y safle y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol; neu

(d)drwy barcio nifer o gerbydau ar y safle sy’n fwy na’r nifer a bennir yn y rheol.

(2Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (rhoi cartref symudol yn anrheg: cytundebau presennol) yw—

(a)y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)bod y meddiannydd arfaethedig wedi methu â darparu’r dystiolaeth berthnasol i’r perchennog (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).

(3Pan fo safle yn eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996(2), ceir sail ragnodedig ychwanegol at ddibenion paragraffau 10(7) a 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, pan fo gan y landlord bolisi ar waith ar gyfer dyrannu lleiniau i Sipsiwn a Theithwyr, y byddai gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i’r meddiannydd arfaethedig yn mynd yn groes iddo.

Y gyfradd uchaf o gomisiwn sy’n daladwy ar werthiant cartref symudol

8.  Y gyfradd a ragnodir at ddibenion paragraffau 9(4) a 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw 10% o bris prynu’r cartref symudol.

Ffurf aseiniad a hysbysiad o aseiniad

9.—(1Rhaid i aseiniad cytundeb yn unol â pharagraff 9(1), 10(1), 12(1) neu 13(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd) gael ei wneud—

(a)yn ysgrifenedig; a

(b)ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 4 (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn effaith yn sylweddol debyg iddi).

(2O fewn 7 niwrnod i’r aseiniad, rhaid i’r aseinai gyflwyno hysbysiad o’r aseiniad i’r perchennog sy’n cydymffurfio â gofynion paragraffau (3) i (8) (“hysbysiad o aseiniad”).

(3Ym mhob achos, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad bennu—

(a)enw’r aseiniwr;

(b)enw’r aseinai ac unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r aseinai;

(c)cyfeiriad y cartref symudol;

(d)dyddiad aseinio’r cytundeb; ac

(e)cyfeiriad yr aseinwr ar gyfer anfon ymlaen.

(4Yn achos gwerthu cartref symudol, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd—

(a)pennu pris prynu’r cartref symudol a swm y comisiwn y mae’n ofynnol i’r aseinai ei dalu i’r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd); a

(b)cynnwys eglurhad o’r gofynion a ragnodir gan reoliad 10 (talu comisiwn).

(5Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd gynnwys datganiad yn cadarnhau bod yr aseinai wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a’i fod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.

(6Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran meddianwyr, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd bennu oedran yr aseinai ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r aseinai.

(7Rhaid i’r hysbysiad o aseiniad—

(a)cael ei ddarparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 5, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a

(b)mynd gyda’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (8).

(8Dyma’r dogfennau—

(a)copi o’r offeryn sy’n rhoi effaith i’r aseiniad;

(b)yn achos gwerthiant, tystiolaeth ddogfennol o’r pris a delir gan yr aseinai am y cartref symudol;

(c)copi o unrhyw reolau cyn cychwyn neu reolau safle y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(c) neu (d) (yn ôl y digwydd); a

(d)copi o’r cytundeb a’r datganiad ysgrifenedig y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(a).

(9Caniateir i’r hysbysiad o aseiniad a dogfennau eraill y mae’n ofynnol eu darparu i’r perchennog o dan y rheoliad hwn naill ai gael eu danfon at y perchennog yn bersonol neu eu hanfon drwy’r post.

Talu comisiwn

10.—(1Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl derbyn yr hysbysiad o aseiniad, rhaid i’r perchennog ddarparu manylion y cyfrif banc y mae’r perchennog yn dymuno i’r aseinai dalu’r comisiwn iddo, sef y comisiwn y mae’n ofynnol i’r aseinai ei dalu i’r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd).

(2O fewn 7 niwrnod ar ôl derbyn y manylion hynny, rhaid i’r aseinai dalu’r comisiwn i’r cyfrif banc.

Rheolau cyn cychwyn sy’n ymwneud â gwerthiannau, anrhegion ac aseiniadau: materion a ragnodir

11.—(1Nid oes gan reol cyn cychwyn sy’n ymwneud â gwerthu cartref symudol unrhyw effaith i’r graddau ei bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn.

(2Dyma’r materion—

(a)a ddylid atal y meddiannydd rhag gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i unrhyw un heblaw am y perchennog;

(b)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd hysbysu’r perchennog am fwriad y meddiannydd i werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(c)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd ddefnyddio gwasanaethau’r perchennog neu berson a bennir gan y perchennog at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(d)a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau asiant tai at ddibenion gwerthu’r cartref symudol;

(e)a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan gyfreithiwr at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg ac aseinio’r cytundeb;

(f)a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio unrhyw wasanaethau a fyddai fel arall ar gael i’r meddiannydd at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(g)a ddylid atal y meddiannydd rhag hysbysebu bod y cartref symudol ar werth drwy hysbysiad, bwrdd neu hysbyslen a osodir ar y cartref symudol neu ar y llain;

(h)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd—

(i)trefnu bod arolwg o’r cartref symudol neu’r llain yn cael ei gynnal; neu

(ii)caniatáu i’r perchennog neu ei asiant gynnal arolwg o’r cartref symudol neu’r llain

cyn gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(i)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg neu aseinio’r cytundeb ym mhresenoldeb y perchennog;

(j)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd neu’r meddiannydd arfaethedig ddarparu manylion personol y meddiannydd arfaethedig i berchennog y safle neu fanylion unrhyw berson arall sy’n bwriadu byw yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig;

(k)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd arfaethedig fynd i gyfarfod â’r perchennog.

(3Mae’r canlynol yn enghreifftiau o “manylion personol”—

(a)cyfeiriad cartref neu fanylion cyswllt eraill y person o dan sylw;

(b)unrhyw wybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r person o dan sylw; ac

(c)manylion am oedran, tarddiad ethnig, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol y person dan sylw.

(4Yn is-baragraffau (c), (d), (e), (f) ac (h) o baragraff (2) mae cyfeiriadau at werthu cartref symudol yn cynnwys cyfeiriad at farchnata, hysbysebu neu gynnig cartref symudol i’w werthu.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

2 Gorffennaf 2014

Rheoliad 3

ATODLEN 1Hysbysiad i feddiannydd arfaethedig

Rheoliad 4

ATODLEN 2Hysbysiad o’r bwriad i werthu

Rheoliad 5

ATODLEN 3Hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref yn anrheg

Rheoliad 9(1)

ATODLEN 4Ffurflen aseiniad

Rheoliad 9(7)

ATODLEN 5Hysbysiad o aseiniad

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch gwerthu a rhoi cartrefi symudol yn anrheg ac aseinio cytundebau o dan ddarpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi’r wybodaeth a’r dogfennau y mae’n rhaid i feddiannwr cartref symudol eu darparu i brynwr arfaethedig (y cyfeirir ato fel “y meddiannydd arfaethedig”) cyn y gellir cwblhau gwerthiant. Mae Atodlen 1 yn rhagnodi ar ba ffurf y mae’n rhaid i’r wybodaeth honno gael ei darparu.

Mae Rheoliadau 4 (mewn perthynas â gwerthiannau) a 5 (mewn perthynas â rhoi yn anrheg) yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i feddiannwr ei darparu i berchennog y safle mewn achosion pan nad yw’r cytundeb y mae’r meddiannydd yn bwriadu ei aseinio yn gytundeb newydd (diffinnir “cytundeb newydd” ym mharagraff 9(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013). Mae Atodlenni 2 a 3 yn rhagnodi’r ffurfiau i’w defnyddio wrth ddarparu’r wybodaeth honno i berchennog y safle.

Pan fo meddiannydd cartref symudol yn bwriadu rhoi’r cartref symudol yn anrheg ac aseinio’r cytundeb i aelod o’i deulu (fel y’i diffinnir yn adran 55(3) o Ddeddf 2013), rhaid iddo roi’r ‘tystiolaeth berthnasol’ (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013) i berchennog y safle. Yn unol â’r pŵer ym mharagraff 12(2)(a), mae rheoliad 6 yn rhagnodi mathau penodol o dystiolaeth a fydd yn cyfrif yn ‘tystiolaeth berthnasol’. Yn unol â pharagraff 12(2)(b) mae’r ‘tystiolaeth berthnasol’ hefyd yn golygu unrhyw dystiolaeth foddhaol arall fod y person o dan sylw yn aelod o deulu’r meddiannydd.

Mae Rheoliad 7 yn rhagnodi ar ba seiliau y caiff perchennog y safle wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg (yn ôl y digwydd), ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”). Dim ond mewn achosion pan nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd y mae hawl i wneud cais am orchymyn gwrthod.

Mae Rheoliad 8 yn rhagnodi uchafswm y comisiwn sy’n daladwy i berchennog y safle gan y meddiannydd newydd ar werthiant cartref symudol.

Mae Rheoliad 9 (ac Atodlenni 4 a 5) yn cynnwys y gofynion gweithdrefnol y mae’r partïon i gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad ag aseinio’r cytundeb, ac mae rheoliad 10 yn pennu’r gofynion gweithdrefnol i gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â thalu comisiwn.

Mae Rheoliad 11 yn darparu pan fo rheol a wnaed gan y perchennog cyn 1 Hydref 2014 yn ymwneud â gwerthu cartref symudol, na fydd yn cael unrhyw effaith i’r graddau ei fod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un o’r materion a bennir yn y rheoliad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru o ran cynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae’r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer Bil Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol a gellir cael copi gan yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources