- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cartrefi Symudol, Cymru
Gwnaed
2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
1 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Ffioedd am Leiniau) (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2014 ac maent yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.
2. Rhaid i’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff 17(4) a (9) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 fod ar y ffurf a ragnodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
Rheoliad 2
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf y ddogfen y mae’n ofynnol ei chynnwys gyda hysbysiad adolygu’r ffi am y llain (a gyflwynir o dan baragraff 17(3) neu (8)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013) sy’n cynnig cynnydd arfaethedig yn y ffi am y llain. Rhaid i’r ddogfen fod ar y ffurf a ragnodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi. Nid yw hysbysiad adolygu’r ffi am y llain sy’n cynnig cynnydd yn y ffi am y llain yn cael effaith oni bai bod dogfen o’r fath yn cyd-fynd ag ef.
Mae’r ddogfen, sydd i’w chwblhau gan berchennog y safle, yn darparu gwybodaeth i feddianwyr ynglŷn â’r modd y cafodd y ffi newydd am y llain ei chyfrifo a gwybodaeth am y broses adolygu ffioedd am leiniau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae’r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer Bil Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol a gellir cael copi gan yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: