- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2014 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) o erthygl 2 (Dehongli)—
(a)cyn y diffiniad o “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”), mewnosoder—
“mae “archwiliad mewn labordy” (“laboratory examination”) yn cynnwys profi mewn labordy;”;
(b)yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” (“third country”) rhodder—
“mae i “trydedd wlad” (“third country”) yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(3)”.
(3) Yn lle Atodlen 3(4) rhodder—
Erthyglau 3 a 5
Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau | Ffi (£) | Ffi (allforiwr bach) (£) |
---|---|---|
(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau: | ||
(a) arolygiad a, pan fo angen, archwiliad mewn labordy | 58.92 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 117.84 | 29.46 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 58.92 |
(b) archwiliad mewn labordy yn unig | 32.93 | 16.47 |
(c) dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy | 12.53 | 6.27 |
(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau: | ||
monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3) a, pan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig | 53.78 | 26.89”. |
(4) Yn lle Atodlen 4(5) rhodder—
Erthygl 5
Gwasanaeth | Ffi (£) | Ffi (allforiwr bach) (£) |
---|---|---|
Gwasanaeth cyn-allforio | 44.88 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 89.75 | 22.44 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 44.88”. |
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1701 (Cy. 163)) (“Gorchymyn 2006”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd a bennwyd yng Ngorchymyn 2006 fel a ganlyn:
(a)ffioedd am wasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau yn ôl amrediad rhwng 4% a 52% (erthygl 2(3)), a
(b)ffioedd am wasanaethau cyn-allforio yn ôl 19% (erthygl 2(4)).
Ceir rhagor o fanylion yn y Memorandwm Esboniadol sydd i’w weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn www.cynulliadcymru.org. Lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yw’r ail ran o symudiad tuag at adennill costau llawn y ffioedd dros gyfnod o dair blynedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Dîm yr Amgylchedd Naturiol ac Amaethyddiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1967 p. 8. Diwygiwyd adran 1(2) gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013/755 (Cy. 90), Atodlen 2, paragraff 43. Diwygiwyd adran 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4 ac Atodlen 4, paragraff 8 ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2011/1043, Rhan 2, erthygl 6(1)(e). Mewnosodwyd adran 4A gan Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49), adran 3. Rhoddwyd y pwerau a roddir gan adrannau 3 a 4A i “competent authority”, a ddiffinnir yn adran 1(2), yn achos Cymru, fel Gweinidogion Cymru.
O.S. 2006/1701 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/1658 (Cy. 156).
O.S. 2006/1643 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, erthygl 9(1); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.
Amnewidiwyd Atodlen 3 gan O.S. 2013/1658 (Cy. 156), erthygl 2(3).
Amnewidiwyd Atodlen 4 gan O.S. 2013/1658 (Cy. 156), erthygl 2(4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: