Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 25 Gorffennaf 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013(1) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.

3.—(1Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

“ystyr “carcharor rhan-amser cymwys” (“eligible part-time prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau’r cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014;

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs rhan-amser presennol;

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a

(d)

nad yw wedi trosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o dan reoliad 114 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014;

ystyr “grant at deithio” (“grant for travel”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 37 i 39;

ystyr “grant cymorth arbennig” (“special support grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 45 i 48;

ystyr “grant cynhaliaeth” (“maintenance grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 41 i 44;.

(2Yn y testun Saesneg, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “eligible prisoner”, yn lle’r geiriau “prisoner Governor” yn is-baragraff (b) rhodder “prison Governor”.

4.  Yn rheoliad 5(1)(e), ar ôl y geiriau “ddarparu’n gyfan gwbl” mewnosoder “yn y Deyrnas Unedig”.

5.  Yn rheoliad 6(9), yn lle’r geiriau “neu grant at gostau byw” rhodder “grant at deithio, grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig”.

6.  Yn rheoliad 93, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys—

(a)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor rhan-amser cymwys; neu

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

7.  Yn y testun Saesneg, yn rheoliad 97(5)(g) yn lle “£1,886” rhodder “£1.886”.

8.  Yn rheoliad 99, ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gwrs rhan-amser os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.

(11) Nid yw paragraff (10) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

9.  Yn rheoliad 100, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.

(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

10.—(1Yn rheoliad 101, yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.

(2Yn rheoliad 101, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Gorffennaf 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources