Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1275) (Cy. 121) (“Rheoliadau 2006”).

Mae Rheoliadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau perthnasol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru) ymgorffori darpariaethau penodol yn ymwneud â’u staff, eu cyfarfodydd a’u trafodion yn eu rheolau sefydlog. Mae’n ofynnol i’r awdurdodau perthnasol wneud neu addasu rheolau sefydlog fel eu bod yn cynnwys y darpariaethau a nodir yn Rheoliadau 2006 neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith.

Yn rhannol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn adlewyrchu’r darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) (“y Mesur”).

Roedd adran 8 o’r Mesur yn gwneud darpariaeth i gynghorau bwrdeistrefi sirol neu gynghorau sir yng Nghymru ddynodi un o’u swyddogion yn bennaeth gwasanaethau democrataidd.

Cafodd yr opsiwn maer etholedig a rheolwr cyngor o’r trefniadau gweithrediaeth sydd ar gael yng Nghymru ei ddileu gan adran 34 o’r Mesur. Roedd adran 35 o’r Mesur yn darparu bod yn rhaid i gynghorau bwrdeistrefi sirol neu gynghorau sir yng Nghymru sy’n gweithredu trefniadau amgen symud i weithredu un o’r trefniadau gweithrediaeth a ddisgrifir yn adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn Rheoliadau 2006 ddiffiniadau o’r “pennaeth gwasanaethau democrataidd” a “cydnabyddiaeth ariannol”.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn dileu’r cyfeiriadau yn Rheoliadau 2006 at “trefniadau amgen” a “rheolwr y cyngor”.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r holl benderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol i brif swyddogion gael eu gwneud drwy benderfyniad yr awdurdod ei hun.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth i unrhyw ymchwiliad i gamymddwyn honedig gan bennaeth gwasanaethau democrataidd neu gan unrhyw swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn rheoliad 8(1) o Reoliadau 2006, ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, ddilyn y gweithdrefnau sy’n gymwys i bennaeth gwasanaeth taledig, swyddog monitro neu brif swyddog cyllid, pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog dan sylw yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw. Gwneir mân ddiwygiad hefyd i reoliad 9 o Reoliadau 2006.

Mae rheoliad 9 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 sy’n golygu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn bwriadu penodi prif swyddog a bod y gydnabyddiaeth ariannol y mae’n bwriadu ei thalu i’r prif swyddog yn £100,000 y flwyddyn neu’n fwy, bod yn rhaid i’r swydd gael ei hysbysebu yn allanol. Nid yw’r rhwymedigaeth i hysbysebu’n allanol yn gymwys pan fo’r awdurdod yn bwriadu penodi prif swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis. Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 i ddileu’r amrywiad awdurdodedig sy’n caniatáu i awdurdodau benderfynu peidio â hysbysebu’n allanol pan fyddant yn bwriadu penodi prif swyddog anstatudol.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn atal penodi swyddog monitro neu bennaeth gwasanaethau democrataidd, ei ddiswyddo neu gymryd camau disgyblu yn ei erbyn, rhag cael eu cyflawni gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu swyddog a enwebir gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod. Mae’r rheoliad yn diogelu, yn yr un modd, unrhyw swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef ac a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw, ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog dan sylw yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn dileu Rhannau 3 a 4 o Atodlen 3 i Reoliadau 2006, sy’n ymwneud â’r trefniadau gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor a ddiddymwyd ac â threfniadau amgen.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 2006 i fod yn gyson â’r diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â rheolau sefydlog presennol ar gyfer camau disgyblu a wnaed o dan Reoliadau 2006.

Mae rheoliad 13 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod perthnasol adolygu ei reolau sefydlog presennol i’r graddau ei bod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ddim hwyrach na’r dyddiad ddeng wythnos ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Craffu, Democratiaeth a Chyfranogi, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources