Search Legislation

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 129 (Cy. 17)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed

22 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Ionawr 2014

Yn dod i rym

14 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 1(1), 2(2), 2(4)(a) a (j), 4, 5 ac 8 i 10 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Diwygiadau

Diwygio Rheoliadau

2.  Diwygir Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(3) yn unol â rheoliadau 3 i 9.

3.  Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli)—

(a)yn is-baragraff (a) o’r diffiniad o “discount” yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012”(4) rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”(5);

(b)yn is-baragraff (a) o’r ddiffiniad o “exempt dwelling” yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.

4.  Ym mharagraff (3) o reoliad 9 (rhagdybiaethau ynghylch anheddau)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013(6);

(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)a provision contained in an authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,.

5.  Yn rheoliad 10 (hysbysiad o ragdybiaeth)—

(a)ym mharagraff (6A), yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”;

(b)ym mharagraff (6A) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—

(i)informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reductions Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013 or contained in the authority’s scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013, as the case may be;

6.  Ym mharagraff (1A) o reoliad 11 (cywiro rhagdybiaethau) yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.

7.  Ym mharagraff (3) o reoliad 15 (rhagdybiaethau ynghylch disgownt)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013;

(b)Yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)a provision contained in the authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,.

8.  Ym mharagraff (1A) o reoliad 16 (cywiro rhagdybiaethau ynghylch disgownt) yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.

9.  Ym mharagraff (2A) o reoliad 20 (hysbysiadau galw am dalu: taliadau sy’n ofynnol)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulation 2013;;

(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)a provision contained in an authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,.

RHAN 3Arbedion

Dehongli

10.  Yn y Rhan hon o’r Rheoliadau—

ystyr “cynllun 2013” (“2013 scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “Rheoliadau 1992” (“1992 Regulations”) yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992;

ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012.

Darpariaeth Arbed

11.  Nid yw’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 gan reoliadau 3 i 9 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â darpariaethau cynllun 2013.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth , un o Weinidogion Cymru

22 Ionawr 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â bilio, casglu a gorfodi’r dreth gyngor. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 mewn perthynas â Chymru, er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyno cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor lleol, a wneir gan yr awdurdodau bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 yn galluogi cymryd y gostyngiadau a wneir yn unol â Rheoliadau 2013 i ystyriaeth wrth filio a gorfodi’r dreth gyngor.

Mae Rheoliadau 3 i 9 yn rhoi cyfeiriadau at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 yn lle’r cyfeiriadau o fewn Rheoliadau 1992 at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012.

Darpariaethau arbed yw rheoliadau 10 ac 11 sy’n darparu nad yw’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu gynllun sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1992 p.14. Diwygiwyd adran 113 gan baragraffau 40 a 52 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26), adran 80(1) a (4) i (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20). Diwygiwyd paragraff 2(4)(j) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) gan adran 16 (1) a (3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17). Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) gan adran 12(1) ac (8) i (13) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17). Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) gan baragraffau 40 a 53 (1) a (2) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).

(2)

Mae swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi’u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny yn ddiweddarach i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

O.S. 2012/3144 (Cy.316) fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2013/112 (Cy.17).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources