Search Legislation

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Cyfyngu ar ddodi tail organig

Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad

12.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi’i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

(2Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.

(3Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at y diben o ganfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.

Taenu tail organig – terfynau nitrogen fesul hectar

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad, yn fwy na 250 kg.

(2Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—

(i)1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan; neu

(ii)500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 17 ar gyfer penderfynu’r cynnwys nitrogen.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tir perllan” (“orchard land”) yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2.

(b)ystyr “compost ardystiedig” (“certified compost”) yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011(1) ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw.

(c)Rhaid i’r meddiannydd gadw yn ei feddiant gadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).

(1)

Cyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, 389 Chiswick High Road, Llundain W5 5AL (www.bsigroup.com), ISBN 978-0-580-65307-0.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources