- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Rhaid i asesiad yr awdurdod lleol gynnwys, ar gyfer ei ardal awdurdod lleol, mewn cysylltiad â phob math o ofal plant ac o ystyried gwahanol oedrannau’r plant, fanylion am—
(a)nifer y lleoedd sy’n ofynnol;
(b)nifer y lleoedd sydd ar gael;
(c)nifer y lleoedd sy’n ofynnol y caniateir i’r elfen gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol gael ei defnyddio ar eu cyfer;
(d)nifer y lleoedd sydd ar gael y gallai rhieni ddefnyddio’r elfen gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol ar eu cyfer;
(e)yr adegau pan fo’r gofal plant yn ofynnol;
(f)yr adegau pan fo’r gofal plant ar gael;
(g)ystod yr hydoedd sesiwn a gynigir gan ddarparwyr gofal plant;
(h)nifer y lleoedd sy’n ofynnol sy’n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;
(i)nifer y lleoedd sydd ar gael sy’n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;
(j)nifer y lleoedd sy’n ofynnol ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog;
(k)nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog;
(l)nifer y lleoedd gwag a’r lleoedd sydd heb eu defnyddio; ac
(m)ystod y taliadau ar gyfer y gofal plant.
(2) Rhaid i’r asesiad gynnwys crynodeb o anghenion gofal plant nad ydynt yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod lleol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a)y mathau o ofal plant sydd ar gael;
(b)oedran y plant y mae gofal plant ar gael iddynt;
(c)fforddiadwyedd gofal plant;
(d)adegau pan fo gofal plant ar gael;
(e)anghenion penodol plant anabl;
(f)argaeledd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog; ac
(g)lleoliad y gofal plant.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol” (“child care costs element of universal credit”) yw swm a gynhwysir mewn dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan adran 12 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(1) ac a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013(2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: