- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 20 Medi 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr hyfforddiant” (“the training”) yw’r hyfforddiant a nodwyd yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant ar gyfer clercod cyrff llywodraethu yng Nghymru”(1) sy’n nodi at ddiben adran 24 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 yr hyfforddiant a’r safonau rhagnodedig;
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(2);
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010(3);
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012 (4); ac
ystyr “swyddog cymorth i lywodraethwyr” (“governor support officer”) yw person a gyflogir gan awdurdod lleol yn unswydd neu yn bennaf at y diben o ddarparu cymorth a chyngor i’r awdurdod lleol, i benaethiaid ac i lywodraethwyr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
(3) At ddiben y Rheoliadau hyn mae’r cwestiwn a yw clerc wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol ai peidio i’w benderfynu gan y person a ddarparodd yr hyfforddiant i’r clerc hwnnw.
(4) At ddibenion Rheoliadau 2012, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i’w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”.
3.—(1) At ddiben y rheoliad hwn, mae clerc i gorff llywodraethu—
(a)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 42 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 43 o Reoliadau 2005; neu
(b)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010.
(2) Os yw corff llywodraethu yn gwneud cais i’r awdurdod lleol i ddarparu person i’w benodi yn glerc, rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw ddarparu person addas i’w benodi cyn pen 16 wythnos ar ôl i’r awdurdod lleol gael y cais hwnnw.
(3) Mae person addas—
(a)yn berson sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol; neu
(b)yn swyddog cymorth i lywodraethwyr.
(4) Caiff yr awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person i weithredu fel clerc i’r corff llywodraethu.
(5) Pan fo awdurdod lleol yn arfer y pŵer i godi ffi o dan baragraff (4) ni chaniateir i’r ffi a godir fod yn uwch na’r gost o ddarparu’r clerc.
4.—(1) At ddiben y rheoliad hwn, mae clerc i gorff llywodraethu—
(a)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 42 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 43 o Reoliadau 2005;
(b)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 58(1) i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 58(5) mewn cysylltiad â phwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 55 i 57 o Reoliadau 2005;
(c)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010;
(d)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 67(1) i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 67(5) mewn cysylltiad â phwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 64 i 66 o Reoliadau 2010; neu
(e)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 2012.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc gwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol cyn pen pa un bynnag o’r canlynol yw’r diweddaraf—
(a)blwyddyn o’i benodi yn glerc; neu
(b)blwyddyn ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i—
(a)swyddog cymorth i lywodraethwyr;
(b)person sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol;
(c)llywodraethwr a benodwyd yn glerc yn unol â rheoliad 42 o Reoliadau 2005, rheoliad 50 o Reoliadau 2010 neu reoliad 10(3) o Reoliadau 2012.
5.—(1) Os nad yw clerc i gorff llywodraethu yn cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol yn unol â’r Rheoliadau hyn, yna rhaid i’r corff llywodraethu symud y clerc o’i swydd.
(2) Ni chaiff person sydd wedi ei symud o’i swydd yn unol â pharagraff (1) gael ei benodi yn glerc i gorff llywodraethu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Awst 2013
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: