- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran llwythi o’r canlynol—
(a)planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, a
(b)hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,
a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.
(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—
(a)y ffi a bennir—
(i)yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu
(ii)yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno ac sy’n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno; a
(b)y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth hwnnw yw—
(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1).
1971 p.80; gweler adran 1 ac Atodlen 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: