Search Legislation

Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1468 (Cy. 139)

Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru

Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013

Gwnaed

11 Mehefin 2013

Yn dod i rym

23 Mehefin 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(5) a 262(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Yn unol ag adran 262(10) o’r Ddeddf honno, cafodd drafft o’r offeryn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 a deuant i rym ar 23 Mehefin 2013.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Yr amodau cwblhau Cymreig amgen

2.  Yr amodau cwblhau Cymreig amgen yw’r amodau a bennir yn rheoliad 3 neu 4.

3.  Dyma’r amodau—

(a)bod person (“X”) yn gweithio fel person hunangyflogedig mewn cysylltiad â fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig; a

(b)bod X yn bodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith hwnnw at y diben o ddyroddi tystysgrif brentisiaeth.

4.—(1Dyma’r amodau—

(a)bod person (“Y”) wedi ymrwymo i gytundeb prentisiaeth mewn cysylltiad â fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig;

(b)bod Y wedi dechrau ar gwrs hyfforddi ar gyfer y cymhwyster cymwyseddau a nodir yn y fframwaith hwnnw;

(c)bod Y yn gweithio o dan y cytundeb prentisiaeth drwy gydol cyfnod cyntaf y cwrs;

(d)bod Y wedi cael ei ddiswyddo o ganlyniad i ddileu swydd cyn cwblhau’r cwrs;

(e)bod Y wedi cwblhau’r cwrs cyn pen 6 mis ar ôl dyddiad diswyddiad o’r fath;

(f)bod Y yn gweithio neu yn mynychu canolfan hyfforddiant galwedigaethol gydnabyddedig, mewn cysylltiad â’r fframwaith hwnnw drwy gydol ail gyfnod y cwrs; ac

(g)bod Y yn bodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith hwnnw at y diben o ddyroddi tystysgrif brentisiaeth.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)mae’r cyfeiriad at gyfnod cyntaf y cwrs yn gyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y dechreuodd y cwrs hyfforddi y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) ac sy’n dod i ben ar y dyddiad diswyddo;

(b)mae’r cyfeiriad at ail gyfnod y cwrs yn gyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau drannoeth y dyddiad diswyddo ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y cwblhawyd y cwrs hyfforddi.

Jef Cuthbert

O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

11 Mehefin 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan na fo person wedi ymrwymo i gytundeb prentisiaeth ond ei fod yn gweithio o dan drefniadau gweithio amgen, drwy bennu amodau cwblhau Cymreig amgen a fydd yn rhoi’r hawl iddo gael tystysgrif brentisiaeth. Maent yn gymwys mewn achosion pan fo person yn gweithio fel person hunangyflogedig; a phan fo person wedi ei ddiswyddo oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, er mwyn bod y person hwnnw yn gallu cwblhau’r brentisiaeth cyn pen 6 mis ar ôl dyddiad dileu’r swydd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources