- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 6 yn daladwy pan gynhelir archwiliadau o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad mewn arolygfeydd ffin, yn unol â rheoliad 15 (gweithdrefn wrth fewnforio) o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (1).
(2) Pennir y ffioedd sy’n daladwy am archwilio llwyth o anifeiliaid byw, a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 6, yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os ymgymerir ag archwilio unrhyw anifail byw mewn arolygfa ffin (naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol)—
(a)yn ystod penwythnos;
(b)ar ôl 17:00 o’r gloch ond cyn 08:30 o’r gloch ar ddiwrnod gwaith; neu
(c)yn ystod gŵyl gyhoeddus.
(4) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae ffi o £80 yn daladwy am bob cyflenwad sy’n ddarostyngedig i’w archwilio (yn ychwanegol at unrhyw ffi sy’n daladwy o dan Atodlen 6).
(5) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 6—
(a)ystyr “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yw porthladd neu faes awyr a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd(2);
(b)ystyr “llwyth” (“consignment”) yw casgliad o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif neu ddogfen filfeddygol;
(c)ystyr “cyflenwad” (“load”) yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn yr arolygfa ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio;
(d)ystyr “gŵyl gyhoeddus” (“public holiday”) yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3); ac
(e)ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi rhestrau o’r arolygfeydd ffin yn rheolaidd. Pennir y rhestr o arolygfeydd ffin cymeradwy ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2009/821/EC (OJ Rhif L 296, 12.11.2009, t.1) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/762/EU (OJ Rhif L 336, 8.12.2012, t.94).
1971 p.80. Gwnaed diwygiadau i’r Ddeddf hon, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: